Cardiff South & Penarth Plaid Cymru De Caerdydd a Phenarth
Share
Defending the communities of Cardiff South & Penarth ๐ด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ | Amddifyn holl gymunedau De Caerdydd a Phenarth ๐ด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ Wales at its best. Cymru ar ei gorau.
The Wales we want to create
Plaid Cymru wants to build a nation that thrives and prospers as a result of its own strong and sustainable economy with excellent schools and first-class healthcare. A Wales that can provide a better standard of living for all through hard work, a commitment to equality, fair play and a sense of ambition for family, for community and for the nation. After all, our nat
ion has always paid its way. The people of Wales have given their young people to industry, their lives to the army, their talents to the British economy. We believe that Wales should not be denied her potential and that it is in the interests of all who live in Wales to live in a country that has the self-respect to run its own affairs and control its resources. We want to make it easier for you to work and earn a decent wage โ and we know that providing high quality, affordable childcare and reliable public transport would be a good start. We want the best for every child; that each and every one has the opportunity to reach his or her potential by making sure that our schools are funded properly and that our teachers are expected to inspire. We don't want you to have to worry about waiting for treatment if you're ill or for an ambulance in an emergency โ we want our NHS to be organised in such a way that it serves the needs of our communities properly. If you care for a loved one you shouldn't have to do so without support โ we value what you do and we want to make life easier for you. For our entrepreneurs โ achieving success is in your hands โ but we can help by making sure that you have the right infrastructure, broadband and transport links, to make your business work. We, like you, are proud of our two languages and we believe that you, your children or your grandchildren should have the opportunity to speak Welsh whether you're in school, at home, in work or during your own precious spare time. It's not right if you have to live in fear of crime โ you should be able to feel safe in your own home and in your community. We think that the Assembly rather than Westminster should decide how to police our streets and we believe that more should be done to stop people from becoming involved in crime in the first place. We want to be proud of our town centres so that popping to the shop is more of a pleasure and less of a chore. Whether it's going to the library, supporting the local rugby club or taking the kids to their swimming lessons โ we believe in supporting the community and leisure facilities which so enrich our lives. And sometimes we look but we don't see the beautiful country in which we live โ our parks, our mountains, beaches and castles โ we may take them for granted but like you we want to protect them for future generations to enjoy and explore."
****************************************
Y Gymru rydym am ei chreu
Mae Plaid Cymru eisiau llunio cenedl sy'n ffynnu o ganlyniad i'w heconomi cryf a chynnaliadwy ei hun gydag ysgolion gwych a gofal iechyd o'r radd flaenaf. Cymru a all roi gwell safon byw i bawb trwy waith caled, ymrwymiad i gydraddoldeb, chwarae teg ac ymdeimlad o uchelgais i deuluoedd, i gymuned ac i'r genedl. Wedi'r cyfan, mae ein cenedl yn wastad wedi talu ei ffordd. Mae pobl Cymru wedi rhoi eu pobl ifanc i ddiwydiant, eu bywydau i'r lluoedd arfog, eu doniau i economi Prydain. Credwn na ddylid gwadu ei photensial i Gymru a'i bod er lles pawb sy'n byw yng Nghymru i fyw mewn gwlad sydd yn meddu ar ddigon o hunan-barch i redeg ei materion ei hun a rheoli ei hadnoddau. Rydym eisiau ei gwneud yn haws i chi weithio ac ennill cyflog teg โ a gwyddom fod darparu gofal plant fforddiadwy o'r radd flaenaf a chludiant cyhoeddus dibynadwy yn gychwyn da. Rydym eisiau'r gorau i bob plentyn; y bydd gan bob un y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial trwy ofalu bod ein hysgolion wedi eu cyllido'n iawn a bod disgwyl i'n hathrawon ysbrydoli.
'Does arnom ni ddim eisiau i chi orfod pryderu am aros am driniaeth os ydych yn wael neu am ambiwlans mewn argyfwng โ rydym eisiau i'n gwasanaeth iechyd gael ei drefnu yn y fath fodd fel ei fod yn gwasanaethu anghenion ein cymunedau yn iawn. Os ydych yn gofalu am un o'ch anwyliaid, ddylech chi ddim gorfod gwneud hynny heb gefnogaeth โ rydym yn rhoi gwerth ar yr hyn rydych yn wneud ac yr ydym am wneud bywyd yn haws i chi. I fentrwyr โ mae llwyddiant yn eich dwylo chi โ ond gallwn helpu trwy wneud yn sicr fod gennych y seilwaith iawn, band llydan a chysylltiadau trafnidiaeth, i wneud i'ch busnes weithio. Rydym ni, fel chi, yn falch o'n dwy iaith ac yn credu y dylech chi, eich plant neu eich wyrion gael y cyfle i siarad Cymraeg boed hynny yn yr ysgol, gartref neu yn gwaith, neu yn ystod eich amser hamdden gwerthfawr.
'Dyw hi ddim yn iawn gorfod byw yn ofni trosedd โ fe ddylech allu teimlo'n ddiogel yn eich cartref eich hun a'ch cymuned. Yr ydym ni'n meddwl mai'r Cynulliad yn hytrach na San Steffan ddylai benderfynu sut i blismona ein strydoedd ac yr ydym yn credu y dylid gwneud mwy i atal pobl rhag troi at droseddu yn y lle cyntaf. Rydym eisiau bod yn falch o ganol ein trefi fel bod taro i'r siop yn fwy o bleser ac yn llai o dasg. Boed yn mynd i'r llyfrgell, cefnogi'r clwb rygbi lleol neu mynd รข'r plant i'w gwersi nofio โ rydym yn credu mewn cefnogi'r cyfleusterau cymunedol a hamdden sy'n cyfoethogi ein bywydau i'r fath raddau. Ac fe fyddwn weithiau yn edrych ond heb wir weld y wlad hyfryd rydym yn byw ynddi โ ein parciau, ein mynyddoedd, ein traethau a chestyll โ efallai ein bod yn eu cymryd yn ganiataol, ond, fel chi, rydym eisiau eu hamddiffyn i'r cenedlaethau a ddaw gael eu mwynhau a'u darganfod.