Maethu Cymru Sir y Fflint

Call Website Contact the organisation

Maethu Cymru Sir y Fflint Gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol heddiw.
💜💜💜
📞 01352 701965

Rydym yn croesawu eich sylwadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond mae rhai pethau – fel hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, iaith/delweddau anweddus a bygythiadau – na fyddwn yn eu goddef. Dangoswch barch at bobl eraill a darllenwch ein polisi sylwadau cyn rhoi sylwadau:
https://maethucymru.llyw.cymru/ein-polisi-sylwadau-cyfryngau-cymdeithasol-maethu-cymru/

Dydd Sul 13 Medi daeth teuluoedd o’n holl ganolfannau Mockingbird ynghyd yn y Fflint ar gyfer ein Cystadleuaeth Bobi Moc...
05/11/2026

Dydd Sul 13 Medi daeth teuluoedd o’n holl ganolfannau Mockingbird ynghyd yn y Fflint ar gyfer ein Cystadleuaeth Bobi Mockingbird cyntaf. 🎂

Gweithiodd pob canolfan ynghyd yn eu canolfannau eu hunain i greu eu cynigion cyn dod â nhw draw ar gyfer y diwrnod barnu mawr. Y themâu oedd y tymhorau ar gyfer crwst, diddordebau ar gyfer bisgedi ac anifeiliaid ar gyfer cacennau gan roi’r cyfle i bawb ddod yn greadigol a rhoi eu stamp eu hunain ar eu cynnyrch.🍰

Cafwyd rhai cynigion gwych gan gynnwys Canolbwynt Rachel, Y Robins, gyda’u tarten hufen lemwn anhygoel, Sue o Calon Hapus gyda chacen banda hyfryd a Cheryl o’r ‘A Team’ gyda mins peis enwog Janet. 🥧

Llongyfarchiadau enfawr i’r Robins a gafodd eu coroni yn enillwyr a chawsant darian drawiadol sydd nawr wedi ei gosod mewn lle amlwg yn eu canolfan! 🏆

Roedd yn hyfryd i weld cynifer o deuluoedd yn dod ynghyd i fwynhau’r diwrnod a chafwyd llawer o sgwrsio, roedd yma hefyd weithgareddau i’r plant a chyfle i feithrin cysylltiadau naturiol ar draws y canolfannau.💜

Diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o hyn, o’r teuluoedd fu’n pobi gyda’i gilydd yn eu canolfannau i’n beirniaid Peter, Becky a Neil a dreuliodd amser yn blasu ac yn beirniadu’r holl gynigion a rhannu eu hadborth. 🧡

Roedd yn ddiwrnod gwych ac yn ddathliad hyfryd o’r gymuned sydd wedi tyfu ar draws ein canolfannau Mockingbird. 💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Ar ôl 20 mlynedd o faethu, mae Mike a Paula yn ymddeol, ac roeddem eisiau dangos ein gwerthfawrogiad am bopeth y maent w...
02/11/2026

Ar ôl 20 mlynedd o faethu, mae Mike a Paula yn ymddeol, ac roeddem eisiau dangos ein gwerthfawrogiad am bopeth y maent wedi’i roi dros y blynyddoedd.

Ymwelodd Lucie, eu Gweithiwr Goruchwyliol, a Charley, ein Swyddog Marchnata a Recriwtio, â’r ddau gyda blodau i gydnabod dau ddegawd o ymroddiad, eiriolaeth a chariad, a’r gwahaniaeth maent wedi’i wneud i fywydau plant.

Mae eu gofal a’u hymroddiad wedi cael effaith barhaus, ac wedi creu etifeddiaeth a fydd yn parhau yn y dyfodol. ❤️

Gan bob un ohonom ym Maethu Cymru Sir y Fflint, diolch i chi’ch dau am bopeth.💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

“Os ydych chi wedi bod yn ystyried maethu ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, Charley ydw i, y Swyddog Marchnata a Recriw...
29/10/2026

“Os ydych chi wedi bod yn ystyried maethu ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, Charley ydw i, y Swyddog Marchnata a Recriwtio. Rydw i yma i’ch helpu i gymryd y camau cyntaf. Fe allwn ni siarad am yr hyn sydd gennych i’w gynnig i fyd maethu a thrafod sut y gallai weithio i chi, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Cysylltwch heddiw, ac fe ddechreuwn ni’r siwrnai gyda’n gilydd.” 💜- Charley, Swyddog Marchnata a Recriwtio, Sir y Fflint 💬

👉https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Eisiau gwybod am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, eich tîm methu awdurdod lleol? Ymunwch â ni ar gyfer Paned gyda ...
28/10/2026

Eisiau gwybod am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, eich tîm methu awdurdod lleol? Ymunwch â ni ar gyfer Paned gyda Gofalwr – sgwrs un-i-un gyda gofalwr maeth lleol profiadol

☕Chi sy’n dewis yr amser a’r lleoliad
📍Ni fydd yn trefnu bob dim arall
🥤Ac yn talu am eich diod!

Mae’n gyfle gwych i ofyn cwestiynau, clywed straeon go iawn a gweld a yw maethu yn addas i chi.

📲Gallwch archebu a darganfod mwy yn:
👉 https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/paned-gyda.../

Roedd ein digwyddiad Adeiladu a Chacen yn llawn creadigrwydd, hwyl Calan Gaeaf a digonedd o hud Lego! 💜Cafodd y plant gy...
22/10/2026

Roedd ein digwyddiad Adeiladu a Chacen yn llawn creadigrwydd, hwyl Calan Gaeaf a digonedd o hud Lego! 💜

Cafodd y plant gyfle i ddewis eu setiau Lego eu hunain ar thema Calan Gaeaf a mynd ati i adeiladu. Pan oedd eu creadigaethau wedi’u cwblhau, roedd bocsys o Lego yn barod iddynt ddefnyddio eu dychymyg, a chyfle i addurno pwmpenni pren a mwynhau crefftau Calan Gaeaf. 🎃

Roedd digonedd o amser i ofalwyr maeth ddal i fyny, sgwrsio a chysylltu dros baned a chacennau blasus ar thema Lego hefyd a grëwyd gan . 🍰💛

Mae sesiynau fel hyn yn golygu mwy na dim ond y gweithgareddau. Maen nhw’n rhoi cyfle i blant gael hwyl, bod yn greadigol a chreu atgofion, wrth helpu gofalwyr maeth i greu cyfeillgarwch a theimlo’n rhan o gymuned sy’n deall maethu.
Diolch yn fawr i bawb a ymunodd â ni a helpu i wneud Adeiladu a Chacen yn sesiwn mor hyfryd! 🧡

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Wnaeth rhywfaint o law ddim tarfu ar ein taith gerdded lles! 🌧️💜 Fe wnaeth ein gofalwyr maeth gyfnewid Dyfroedd Alun am ...
22/10/2026

Wnaeth rhywfaint o law ddim tarfu ar ein taith gerdded lles! 🌧️💜

Fe wnaeth ein gofalwyr maeth gyfnewid Dyfroedd Alun am Draeth Prestatyn ar gyfer ein taith gerdded lles, ac er nad oedd y tywydd o’n plaid ni, wnaeth hyn ddim atal unrhyw un rhag dod allan, treulio amser gyda’n gilydd a mwynhau sgwrs ar hyd y ffordd! 🥰

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i wneud amser i ni ein hunain, ac i deimlo ein bod wedi’n cysylltu â phobl eraill sy’n deall y daith faethu. Mae’r teithiau cerdded hyn yn gyfle i gamu oddi wrth fywyd o ddydd i ddydd, creu cyfeillgarwch a mwynhau bod yn rhan o gymuned lle gall pawb deimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cefnogi. 💜

Oherwydd mae maethu yn golygu mwy na dim ond y gofal yr ydym yn ei ddarparu i blant. Mae’n golygu’r gymuned yr ydym yn ei chreu o gwmpas ein gilydd, hefyd. 🧡

Efallai nad oedd yr haul yn tywynnu, ond cawsom gwmni da, awyr iach y môr a chyfle arall i ddod â’n cymuned faethu at ei gilydd. 🌊🥾

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

21/10/2026

Fe wnaethom ni ofyn… eth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf wrth faethu? 💬

Ar gyfer y gofalwr maeth Catherine, yr ateb oedd gweld plant yn magu hyder, darganfod profiadau newydd a ffynnu, ynghyd â’r cyfeillgarwch a’r ymdeimlad o berthyn a ddaw wrth faethu. 🥰💜

O rannu profiadau i wneud ffrindiau newydd, gall maethu eich cysylltu gyda phobl sy’n deall y daith ac sy’n gallu eich cefnogi ar eich taith chi. 🧡

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Bore prysur yn chwarae, archwilio a chael hwyl yn ein Grŵp Babanod a Phlant Bach diweddaraf!Cafodd y plant amser da yn a...
20/10/2026

Bore prysur yn chwarae, archwilio a chael hwyl yn ein Grŵp Babanod a Phlant Bach diweddaraf!

Cafodd y plant amser da yn adeiladu gyda blociau, chwarae gyda theganau meddal, reidio’r beiciau, cwblhau posau a defnyddio ein hwynebau arth emosiwn i archwilio teimladau gwahanol. 🚲🧩🧸

Mae ein grwpiau yn rhoi cyfle i ofalwyr maeth gyda phlant ifanc i ddod ynghyd yn rheolaidd, gyda hwyl i’r plant a chyfle i ddod i adnabod plant eraill sy’n rhan o deuluoedd maeth.

Mae hi’n ffordd hyfryd o feithrin cyfeillgarwch, rhannu profiadau a threulio amser ynghyd, tu allan i’r patrwm dyddiol. 💜

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Mae maethu yn brofiad i’r teulu, a’r wythnos hon, rydym yn dathlu’r plant biolegol sy’n rhan o’r daith honno. 💜Rydym wed...
16/10/2026

Mae maethu yn brofiad i’r teulu, a’r wythnos hon, rydym yn dathlu’r plant biolegol sy’n rhan o’r daith honno. 💜

Rydym wedi rhoi cerdyn a thaleb i’r plant biolegol fel arwydd bach o ddiolch am y rhan maen nhw’n ei chwarae yn ein cymuned faethu. 💌

Boed hynny’n rhannu eu teulu, dangos caredigrwydd, gwneud i rywun wenu neu fod yno i wrando, mae’r pethau bach maen nhw’n ei wneud yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i blentyn mewn gofal.🥰

Rydym am i bob un ohonyn nhw wybod ein bod yn falch ohonynt, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn rhan bwysig o’n teulu maethu. 🧡

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Yn ystod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, rydym yn dathlu’r plant a’r bobl ifanc sy’n rhan o deuluoedd maethu.💜Rhannodd Cha...
15/10/2026

Yn ystod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, rydym yn dathlu’r plant a’r bobl ifanc sy’n rhan o deuluoedd maethu.💜

Rhannodd Charlotte a Thomas, plant gofalwyr maeth yn Sir y Fflint, beth sydd bwysicaf iddynt pan fydd plentyn yn dod i’w cartref:

“Rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn hapus, wedi setlo ac yn fodlon. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud iddynt deimlo’n rhan o’n teulu."

Atgof hyfryd bod helpu plentyn i deimlo’n groesawgar a rhoi ymdeimlad o berthyn yn gallu dechrau gyda’r pethau bychain. 🥰

Cliciwch isod i ddarganfod sut y gallech ymuno â’n cymuned faethu yng Sir y Fflint a helpu plant a phobl ifanc lleol yn eich ardal 👇
https://siryfflint.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni/

Address

County Offices
Flint
CH65BD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Maethu Cymru Sir y Fflint posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Maethu Cymru Sir y Fflint:

Shortcuts

Share