Llywodraeth Cymru

Directions Website

Llywodraeth Cymru Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Gallwch weld fersiwn Saesneg o'r tudalen hwn. Ewch i www.facebook.com/welshgovernment

Yng nghyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol heddiw, fe wnaeth y Prif Weinidog bwysleisio'r angen am fwy o hyblygrwyd...
30/10/2026

Yng nghyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol heddiw, fe wnaeth y Prif Weinidog bwysleisio'r angen am fwy o hyblygrwydd cyllidol, pwerau benthyca a’r cyllid rheilffyrdd sydd eisoes wedi’i addo gan Lywodraeth y DU.

Yn dilyn hynny, fe wnaeth y Prif Weinidog gyfarfod gyda Phrif Weinidog y DU i drafod blaenoriaethau Cymru a phwysleisio’r angen am agenda o barch sy’n gweithio’r ddwy ffordd.

"Roeddwn yn falch o gyfarfod â’r Prif Weinidog yn Glasgow heddiw, lle pwysleisiais unwaith eto’r angen i Gymru a Llywodraeth Cymru gael yr offer angenrheidiol i wasanaethu ein cymunedau’n well.

"Fe wnes i ailadrodd hefyd mai mater i’r Senedd, a’r Senedd yn unig, yw unrhyw ddatganoli pellach o fewn Cymru.

"Roedd consensws calonogol bod angen diwygio, ar frys, y pwerau cyllidol a benthyca sydd ers cyhyd wedi rhoi Cymru dan anfantais o’i chymharu â chenhedloedd eraill y DU. Rwy’n croesawu sylwadau’r Prif Weinidog fod hyn bellach yn fater o sut a phryd, yn hytrach nag a ddylid gwneud hynny.

"O ran cyllid rheilffyrdd, roeddwn yn falch o glywed ymrwymiad personol y Prif Weinidog i edrych ar yr addewid o £14 biliwn. Codais hefyd yr angen i’r Trysorlys weithredu ar frys er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’n cynllun peilot taliad plant wythnosol Cynnal i gefnogi’r teuluoedd tlotaf.

"O ran Ewrop, cynigiais fy nghefnogaeth lawn i’r Prif Weinidog wrth geisio meithrin perthynas gryfach â’r Undeb Ewropeaidd, gan ei annog i fynd ymhellach a blaenoriaethu ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau." - Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth

28/10/2026

Byddwn yn rhoi taliad costau byw o ÂŁ100 i bob aelwyd ym mandiau treth cyngor A i D.

Yn dilyn cyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU heddiw a'i oblygiadau i Gymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid...
28/10/2026

Yn dilyn cyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU heddiw a'i oblygiadau i Gymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

“Mae hwn yn doriad mewn termau real ond wedi’i gyflwyno fel a***n ychwanegol i Gymru. Bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cyflwyno Cyllideb heddiw fel buddugoliaeth i Gymru. Nid yw hynny’n wir.

“Ar ôl ystyried chwyddiant, mae hwn yn dal i fod yn doriad mewn termau real i’n cyllid, nid a***n newydd sy’n gwella ein sefyllfa.

“Nid yw Cyllideb heddiw yn gwella dim arnom. Mae ein sefyllfa gyllidol yn waeth nag yr oedd cyn i’r Canghellor godi ar ei draed, ac mae hynny’n cael effaith uniongyrchol ar ein Cyllideb ni ar 17 Tachwedd.

“Bydd angen inni wneud penderfyniadau anodd, blaenoriaethu’n ddoeth a sicrhau mwy o effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus, er mwyn inni allu parhau i fuddsoddi yn y meysydd sydd bwysicaf i bobl Cymru.

“O ran rheilffyrdd, hyblygrwydd cyllidol a gwasanaethau cyhoeddus, mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu unwaith eto.”

Cyn i’r Canghellor gyflwyno Cyllideb y DU yfory, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, ato nôl ym mis Medi i fynn...
27/10/2026

Cyn i’r Canghellor gyflwyno Cyllideb y DU yfory, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones, ato nôl ym mis Medi i fynnu bargen deg i Gymru ar reilffyrdd, costau byw, a gwa***nt cyhoeddus.

Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi toriadau termau real i gyllidebau dyddiol a chyfalaf Cymru. Rydym hefyd am iddo gefnogi prosiectau ynni a seilwaith mawr yng Nghymru.

O ran costau byw, rydyn ni eisiau gweld:
- Mwy o gymorth wedi’i dargedu yn enwedig gyda chostau ynni i aelwydydd mwyaf agroed i niwed.
- Dadrewi cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol, i atal pobl rhag mynd yn ddigartref.

Dim ond 1% o wa***nt Network Rail sy'n mynd at ein rheilffyrdd ni. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi £14 biliwn i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol. Rydyn ni'n galw am ddwyn ymlaen £1 biliwn o hynny nawr, i gyflymu gwelliannau.

Mae Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad cryf i economi'r Deyrnas Unedig. Nawr yw'r amser i droi'r uchelgais hwnnw'n weithredu.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog y Canghellor i gyflymu'r broses o gyflawni'r addewid gwerth ÂŁ14 biliwn ar gyfer rheilffyrdd, gan fod y cyllid presennol yn cyfrif am ddim ond 1% o wa***nt Network Rail ledled Cymru a Lloegr.

27/10/2026
26/10/2026
23/10/2026
25/09/2026
20/09/2026

Gmar Chatima Tova i'n holl gymunedau Iddewig yma yng Nghymru.

Wrth i gymunedau sy'n nodi Yom Kippur ddod at ei gilydd mewn myfyrdod, gweddi ac adnewyddiad, rydym hefyd yn cofio'r rhai a gafodd eu heffeithio gan ymosodiad Heaton Park y llynedd.

Heddiw, rydym yn anrhydeddu'r dioddefwyr, yn sefyll gyda'u teuluoedd a'u cymunedau, ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i ddealltwriaeth, parch a heddwch.

Address

North Street
Blaenavon
NP4 9RQ

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llywodraeth Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Nearby government services