26/10/2026
Cadw’n Ddiogel Ar-lein: Gweminarau Seiberdroseddu a Thwyll Am Ddim i Ddefnyddwyr a Busnesau
Oeddech chi'n gwybod bod 58% o’r holl drosedd yng Nghymru a Lloegr yn digwydd ar-lein erbyn hyn?
P'un a ydych chi'n awyddus i amddiffyn eich cyllid personol neu ddiogelu eich busnes rhag ymosodiadau seiber costus, mae Safonau Masnach Swydd Buckingham a Surrey ochr yn ochr â Heddlu Surrey yn cynnal dwy sesiwn ymarferol am ddim ar-lein. Byddant yn eich helpu i adnabod twyll, cloi eich dyfeisiau, a gwybod yn union beth i'w wneud os ydych chi'n cael eich targedu.
Mae'r ddwy weminar 90 munud yn cynnwys dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac maent yn hollol rad ac am ddim.
Mae angen i bob defnyddiwr wybod y canlynol
· Pryd: Dydd Mercher, 25 Tachwedd | 2:00 PM – 3:30 PM
· Yr hyn fyddwch chi’n ei ddysgu:
o Sut i adnabod sgamiau cyffredin ar lein yn cynnwys negeseuon e-bost / galwadau ffug, sgamiau rhamant, a chyfrifon sy’n cael eu hacio.
o Ffyrdd hawdd o amddiffyn eich dyfeisiau personol a'ch preifatrwydd rhag firysau a hacwyr.
o Y triciau seicolegol y mae sgamwyr yn eu defnyddio (panig, ofn, ac ymddiriedaeth ffug).
o Arferion diogelwch hanfodol fel cyfrineiriau cryf a Dilysu Dau Ffactor (2FA).
o Y Cynllun Gweithredu 5 Cam os ydych chi wedi cael eich sgamio (Stopio, Diogelu, Cysylltu â’r Banc, Adrodd, Cael Cymorth).
Cofrestru ar y Weminar Defnyddwyr - https://tinyurl.com/mr288976
Mae angen i bob sefydliad wybod y canlynol
· Pryd: Dydd Gwener, 27 Tachwedd | 2:00 PM – 3:30 PM
· Yr hyn fyddwch chi’n ei ddysgu:
o Sut mae seiberdroseddwyr yn targedu busnesau trwy anfonebau ffug, sgamiau sy’n dynwared / llais-rwydo, a negeseuon e-bost cyflenwyr sydd wedi eu peryglu.
o Camau syml i amddiffyn data cwmni rhag meddalwedd wystlo a thorri rheolau data.
o Pam mae gweithwyr yn cael eu twyllo - a sut mae troseddwyr yn manteisio ar weithio brys yn y gweithle a gor-rannu cyfryngau cymdeithasol.
o Rheolaethau diogelwch mewnol a diogelu cyfrifon (2FA a mesurau diogelu gweinyddol).
o Yr Ymateb Argyfwng Busnes 5 - Cam (Stopio trosglwyddiadau a***n, Diogelu cyfrifon, Cysylltu â’r banc masnachol, Adrodd, a Chael cymorth arbenigol).
Cofrestru ar y Weminar Defnyddwyr - https://tinyurl.com/bwhkr73p