09/10/2026
𝗖𝗵𝘄𝗶𝗹𝗶𝗼 𝗮𝗺 𝘀𝘆𝗻𝗶𝗮𝗱𝗮𝘂 𝗳𝗳𝗿𝗲𝘀, 𝗰𝘆𝘀𝘆𝗹𝗹𝘁𝗶𝗮𝗱𝗮𝘂 𝗻𝗲𝘄𝘆𝗱𝗱 𝗻𝗲𝘂 𝗮𝘁𝗲𝗯𝗶𝗼𝗻 𝘆𝗺𝗮𝗿𝗳𝗲𝗿𝗼𝗹 𝗮𝗿 𝗴𝘆𝗳𝗲𝗿 𝗲𝗶𝗰𝗵 𝗯𝘂𝘀𝗻𝗲𝘀?
Mae Wythnos Busnes Gwynedd yn dechrau’r wythnos nesaf, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim sy'n cwmpasu ystod o bynciau, gan gynnwys ennill contractau a rhoi hwb i werthiant, denu talent, cryfhau timau a gwneud gwell defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.
𝗗𝘆𝗺𝗮 𝗯𝗲𝘁𝗵 𝘀𝘆𝗱𝗱 𝗮𝗿 𝘆 𝗿𝗵𝗮𝗴𝗹𝗲𝗻 𝗲𝗹𝗲𝗻𝗶:
📋 Tendro: Torri'r Rhwystrau gyda Business Wales / BusnesCymru
📅 12 Hydref | 📍 Porthmadog
Dysgwch sut mae’r broses tendro’r sector cyhoeddus yn gweithio, darganfyddwch y gefnogaeth sydd ar gael a chlywch gan fusnes sydd wedi sicrhau contractau yn llwyddiannus.
🔗 https://lnkd.in/ejiQAHTH
🤝 Trafodfa Gwynedd gydag WE ARE UMi
📅 13 Hydref | 📍 Penygroes
Cysylltu busnesau â chyllidwyr a sefydliadau cymorth twf (llawn - cofrestru ar gau).
💬 Y Gymraeg ar y Cyfryngau Cymdeithasol gydag Adain.
📅 14 Hydref | 📍 Talsarnau
Syniadau ymarferol i gryfhau'ch brand, cynyddu ymgysylltiad a chysylltu â chwsmeriaid newydd.
🔗 https://lnkd.in/ex3JiiwS
📱 O'r Cyfryngau Cymdeithasol i Werthiannau gyda Shoned Owen o TANYA WHITEBITS
📅 14 Hydref | 📍 Pwllheli
Archwiliwch arferion prynu cwsmeriaid, gwerthu cymdeithasol a sut i droi ymgysylltiad ar-lein yn werthiannau.
🔗 https://lnkd.in/eUXuTzTg
👥 Amrywiaeth Cenedlaethau yn y Gweithle
📅 15 Hydref | 📍 Y Bala
Darganfyddwch ffyrdd ymarferol o wella cyfathrebu, cydweithredu a gwaith tîm ar draws cenedlaethau.
🔗 https://lnkd.in/eWDVGind
🎯 Sut i Ddenu Talent
📅 15 Hydref | 📍 Bangor
Clywch gan sefydliadau sy'n gweithio i ddatblygu sgiliau a thalent yng Ngwynedd, gan gynnwys Prifysgol Bangor, Galeri (Caernarfon), Gwaith Gwynedd a Darogan, ac archwiliwch gymorth a chyfleoedd i helpu i ddenu, datblygu a chadw talent.
🔗 https://lnkd.in/etbVUg34
🌟 Digwyddiad Rhwydweithio Wythnos Busnes Gwynedd gydag Yr Hwb Menter - The Enterprise Hub
📅 16 Hydref | 📍 Caernarfon
Gorffennwch yr wythnos trwy wneud cysylltiadau newydd, cyfnewid syniadau a chlywed am gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael ledled y rhanbarth.
🔗 https://bit.ly/4jdRxZw
✅ Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae angen archebu ymlaen llaw.
P'un a ydych chi'n edrych i ennill gwaith newydd, cyrraedd cwsmeriaid newydd, denu talent, cryfhau eich tîm neu wneud cysylltiadau newydd gwerthfawr, mae rhywbeth ar y rhaglen i bawb!
Cyngor Gwynedd