Cyngor Caerdydd

Directions Website Contact the organisation

Cyngor Caerdydd Tudalen Facebook swyddogol Cyngor Caerdydd. Dilynwch .council1 i gael y diweddaraf yn Saesneg.

Newyddion am Gaerdydd, 8.30am-5pm Llun-Gwe, C2C Ffôn 029 2087 2088. Rydym yn croesawu eich sylwadau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond mae rhai pethau – fel hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, iaith/delweddau anweddus a bygythiadau – na fyddwn yn eu goddef. Dangoswch barch at bobl eraill a darllenwch ein polisi sylwadau cyn rhoi sylwadau: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Polisi-sylwadau-cyfryngau-cymdeithasol/Pages/default.aspx

Heno, bydd Castell Caerdydd yn goleuo'n wyrdd i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Corachedd. 💚Mae'r goleuo’n dathlu amrywiaeth ...
25/10/2026

Heno, bydd Castell Caerdydd yn goleuo'n wyrdd i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Corachedd. 💚

Mae'r goleuo’n dathlu amrywiaeth ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gorachedd. https://orlo.uk/Uxk83

Allech chi fod yn westeiwr Llety â Chymorth?Os ydych chi'n 21+ gydag ystafell sbâr a'r parodrwydd i gefnogi person ifanc...
25/10/2026

Allech chi fod yn westeiwr Llety â Chymorth?

Os ydych chi'n 21+ gydag ystafell sbâr a'r parodrwydd i gefnogi person ifanc, rydyn ni eisiau clywed oddi wrthych.
Rhoddir hyfforddiant llawn.
📞 029 2087 3797
https://orlo.uk/JQi8G

⚠️ Diweddariad: Mae Heol Goch, Pentyrch yn parhau ar gau.Mae rhagor o goed wedi cwympo dros nos, a bydd ein timau’n gwei...
25/10/2026

⚠️ Diweddariad: Mae Heol Goch, Pentyrch yn parhau ar gau.

Mae rhagor o goed wedi cwympo dros nos, a bydd ein timau’n gweithio y bore yma i glirio’r rhwystr ac ailagor y ffordd cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Rydym yn delio â choed sydd wedi cwympo ledled y ddinas yn ôl blaenoriaeth.
Diolch am eich amynedd.

25/10/2026

🧼Ydych chi wedi gweld y criw gwm cnoi yng nghanol y ddinas a'r ardaloedd cyfagos?
Mae eu gwaith yn cael ei wneud diolch i grant gan y .
Wedi'i ariannu gan y diwydiant gwm cnoi, mae'r tasglu yn dyfarnu grantiau i gynghorau i gael gwared ar sbwriel gwm cnoi o'r strydoedd ac yn darparu arwyddion ac ymgyrchoedd profedig i annog pobl i roi eu gwm yn y bin a chadw ein strydoedd yn lanach.
Keep Britain Tidy

❗Ffyrdd ar gau oherwydd y tywydd garw presennol:🌧️ Sain Ffagan: Mae Bryn y Castell i Heol Llanfihangel ar gau oherwydd l...
24/10/2026

❗Ffyrdd ar gau oherwydd y tywydd garw presennol:
🌧️ Sain Ffagan: Mae Bryn y Castell i Heol Llanfihangel ar gau oherwydd llifogydd.
🌳 Pentyrch: Mae Heol Goch ar gau oherwydd coeden sydd wedi syrthio.
Ceisiwch osgoi'r ddwy ardal a defnyddio llwybrau amgen lle bo modd.

Gall ychydig bach o gymorth wneud gwahaniaeth mawr🎒Gall teuluoedd cymwys dderbyn hyd at £200 drwy’r Grant Hanfodion Ysgo...
24/10/2026

Gall ychydig bach o gymorth wneud gwahaniaeth mawr🎒

Gall teuluoedd cymwys dderbyn hyd at £200 drwy’r Grant Hanfodion Ysgol i helpu gyda hanfodion yr ysgol, gan gynnwys gwisg ysgol a chit chwaraeon.

Drwy wneud cais, bydd ysgol eich plentyn hefyd yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, fel clybiau a theithiau.

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys a gwnewch gais heddiw: https://orlo.uk/xEDZJ

💛 Roedd Castell Caerdydd yn disgleirio'n felyn i gefnogi ymgyrch Mynd yn Felyn Calon Hearts, i helpu i godi ymwybyddiaet...
24/10/2026

💛 Roedd Castell Caerdydd yn disgleirio'n felyn i gefnogi ymgyrch Mynd yn Felyn Calon Hearts, i helpu i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau'r galon a chefnogi gwaith sy’n achub bywydau ledled Cymru.

Mwy yma, ynghyd â gwybodaeth am sgrinio'r galon: https://orlo.uk/bgaEr

👏 Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Grangetown ar adroddiad cadarnhaol arolwg Estyn!Canmolodd yr arolygwyr amgylchedd hap...
24/10/2026

👏 Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Grangetown ar adroddiad cadarnhaol arolwg Estyn!

Canmolodd yr arolygwyr amgylchedd hapus a gofalgar yr ysgol, ymdeimlad cryf o gymuned, ethos cynhwysol a'r cynnydd da sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion. Fe wnaeth yr adroddiad hefyd dynnu sylw at waith yr ysgol i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a'r gefnogaeth y mae'n ei rhoi i deuluoedd.

Da iawn i'r disgyblion, y staff, y llywodraethwyr a'r teuluoedd ar gyflawniad rhagorol. 🎉


Darllenwch fwy yn Ystafell Newyddion Caerdydd.

🚧 Mesurau cau ffyrdd i ddod ar gyfer gwaith ailosod wyneb ffordd.Bydd mesurau cau ffyrdd dros nos yn effeithio ar y ffyr...
24/10/2026

🚧 Mesurau cau ffyrdd i ddod ar gyfer gwaith ailosod wyneb ffordd.

Bydd mesurau cau ffyrdd dros nos yn effeithio ar y ffyrdd canlynol rhwng 8pm a 5am yn yr wythnosau nesaf. Rhowch fwy o amser ar gyfer eich taith a dilynwch lwybrau dargyfeirio ag arwyddion lle bo’n berthnasol. Mwy o wybodaeth: https://orlo.uk/v0lc2

📅 27 Hydref
• Ffordd y Faenor tua'r de
• Heol Caerffili tua'r gogledd
•Trosffordd Heol y Gogledd tua'r gogledd

📅 28 Hydref
• yr A470 Rhodfa’r Gogledd tua'r gogledd a thua'r de
• Heol Pant-mawr

📅 29-31 Hydref
• Heol Cyncoed

📅 2-4 Tachwedd
• Heol y Bont, Llandaf

📅 2-12 Tachwedd
• Heol y Gadeirlan
• Clos Sophia
• Talbot Street

🔗 Yr holl amseroedd cau, darnau o ffyrdd yr effeithir arnynt, llwybrau dargyfeirio, a rhagor o fanylion: https://orlo.uk/e479R

Diolch am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith ailosod wyneb hwn.

Mae ein Timau Gorfodi Gwastraff allan ledled  , yn archwilio gwastraff wedi'i ddympio, yn siarad â thrigolion, ac yn rha...
24/10/2026

Mae ein Timau Gorfodi Gwastraff allan ledled , yn archwilio gwastraff wedi'i ddympio, yn siarad â thrigolion, ac yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i waredu sbwriel yn gyfrifol. 🚯 Gwaredu 900kg o wastraff.

Lle canfyddir troseddau tipio anghyfreithlon neu wastraff, bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd os oes gennym dystiolaeth i erlyn.
Yn dilyn eu gwaith, mae ein Tîm Blitsio yn symud lôn wrth lôn i glirio chwyn, llaid, a malurion sydd wedi cronni - y cyfan i wella golwg a theimlad ein cymdogaethau. 🌿🚧

Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw ein cymuned yn lân, yn daclus ac yn groesawgar i bawb. 💚

Address

Neuadd Y Sir
Cardiff
CF104UW

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Caerdydd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cyngor Caerdydd:

Shortcuts

Share