20/10/2026
"Mae’r cwrs hwn wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o sut i reoli fy osteoporosis. Mae wedi rhoi’r offer a’r hyder i mi fod yn rhagweithiol." 🙌 👏
Ar Ă´l cwblhau cyfnod peilot llwyddiannus, mae Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) Cymru wedi cyflwyno ei Rhaglen Byw'n Dda gydag Osteoporosis er budd pobl sy'n byw gydag osteoporosis ledled Cymru.
Mae'r cwrs chwe wythnos yn helpu pobl i ddod yn fwy rhagweithiol o ran eu hiechyd eu hunain drwy ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau ymarferol i gefnogi iechyd esgyrn, sy’n cynnwys pwysigrwydd maeth da a datrys problemau'n effeithiol.
Mae’r cyfranogwyr yn dysgu technegau fel ymlacio, ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar, ac arferion sganio’r corff i helpu i reoli straen, gwella llesiant a meithrin gwydnwch wrth fyw gyda chyflwr hirdymor.
Mae'r rhaglen hefyd yn annog unigolion i weithio mewn partneriaeth â'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, gwella hunanreolaeth, a chyflawni canlyniadau iechyd gwell.
Darllenwch Mwy 👉 https://perfformiadagwella.gig.cymru/newyddion/newyddionpggig/troi-dysgu-yn-weithredu-cwrs-newydd-a-gyd-gynhyrchwyd-i-wella-bywydau-pobl-syn-byw-gydag-osteoporosis/