02/10/2025
Cynhadledd Arloesedd Iechyd a Gofa // Health & Care Innovation Conference
🩺Cipolwg // Insight Isabel Oliver – Prif Swyddog Meddygol Cymru // Chief Medical Officer for Wales
🩺Rhwydweithio a Chysylltiadau gyda busnesau a sefydliadau sy’n gwneud gwahaniaeth yn y sector ac all eich cefnogi // Networking and Connections with businesses and organisations making an impact in the sector or who are able to offer support.
🩺Cyfleoedd i ddysgu am gyllid, prosiectau a chydweithrediadau // Opportunities to learn about funding, projects and collaborations.
📍M-SParc, Gaerwen
Cofrestrwch yma/Register here- https://IechydHealth.eventbrite.co.uk
Life Sciences Hub Wales Ysgol Feddygol / Medical School Betsi Cadwaladr
25/09/2025
“Rydyn ni i gyd wedi cael ein bywydau'n ôl.” ♥️
Mae Julie, sy’n 67 oed, yn byw gyda dementia. Diolch i ddyfais rheoli meddyginiaeth fach o'r enw Pivotell, mae Julie wedi adennill ymdeimlad o annibyniaeth a hyder, ac mae ei chwiorydd wedi cael tawelwch meddwl.
Cyn Pivotell, roedd chwiorydd Julie yn ymweld â hi hyd at dair gwaith y dydd am eu bod yn poeni am fethu dosau, ac am wneud camgymeriad gyda’r meddyginiaethau. Roedd hyn yn straen, yn emosiynol ac yn flinedig.
Erbyn hyn, mae Julie'n cymryd ei meddyginiaeth yn ddiogel ac yn hyderus yn annibynnol. Mae'r teclyn cyflenwi tabledi yn cylchdroi i roi'r dos cywir i Julie ar yr adegau cywir, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddi hi a'i chwiorydd.
Rhagor o wybodaeth am stori Julie: https://lshubwales.com/cy/astudiaethau-achos/mae-defnyddior-ddyfais-pivotell-wedi-gwneud-byd-o-wahaniaeth-i-julie-ai
13/08/2025
Dyfais fach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr 💊
Dyma Nicola. Roedd hi’n arfer cael trafferth cymryd ei meddyginiaethau’n brydlon oherwydd heriau iechyd fel poenau cronig a blinder difrifol. Ond diolch i adnodd clyfar o’r enw YOURmeds, mae hynny’n newid.
Dyfais atgoffa glyfar yw YOURmeds, sy’n bipian pan fydd hi’n amser cymryd eich tabledi, ac sy’n rhoi gwybod i ofalwyr neu aelodau o’r teulu os ydych chi wedi methu dos o feddyginiaeth. Ers ymuno â’r cynllun peilot ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Nicola’n dweud ei bod yn teimlo’n fwy hyderus, yn fwy annibynnol ac o dan lai o straen.
Darllenwch fwy am y prosiect ysbrydoledig hwn yn ein hastudiaeth achos ddiweddaraf: https://lshubwales.com/cy/astudiaethau-achos/dyfais-feddyginiaeth-syml-sydd-wedi-fy-ngalluogi-i-fod-yn-hyderus-ac-yn
Bridgend County Borough Council
23/07/2025
Rhoi Llais y Cleifion wrth Galon Arloesedd ❤️
Yn ein blog gwadd diweddaraf, Demi Melnyk o CanSense sy’n rhannu sut mae’r tîm yn datblygu'r gwaith o ganfod canserau gynaecolegol yn gynnar drwy ddylunio offer diagnostig ar y cyd â'r bobl maen nhw i fod i'w gwasanaethu.
Gyda chyllid sbarduno gan y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod, maent yn datblygu prawf gwaed biopsi hylif newydd ar gyfer canserau ofarïaidd ac endometriaidd, gyda chefnogaeth gan brosiect cynnwys y cleifion a’r cyhoedd.
Darllenwch ragor yma: https://lshubwales.com/cy/blogiau/rhoi-llais-y-cleifion-wrth-galon-arloesedd-cenhadaeth-cansense-i-drawsnewid-diagnosteg
Swansea University | Cardiff University | Cardiff and Vale University Health Board
Rhoi Llais y Cleifion wrth Galon Arloesedd: Cenhadaeth CanSense i Drawsnewid Diagnosteg Canser Menywod | Life Sciences
Cafodd CanSense gyllid gan y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod, sef cynllun cydweithredol sy'n cael ei redeg gan Academi'r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae hyn wedi darparu cyllid sbarduno a chymorth i ddatblygu datrysiadau arloesol sy'n gwella canlyniadau a phrofiad....
27/05/2025
Mae’r prosiect QuicDNA yn trawsnewid diagnosteg a thriniaeth canser yr ysgyfaint gyda biopsïau hylif!
Fe wnaeth y prosiect arloesol hwn alluogi Mary i dderbyn gofal yn gynt drwy roi gwybodaeth allweddol yn gynt o lawer nag y byddai dulliau traddodiadol wedi gallu darparu'r un wybodaeth. Oherwydd hyn, cafodd ddechrau ei thriniaeth fis cyfan yn gynt na’r disgwyl, ac fe wnaeth hynny wella ei symptomau ac arwain at ganlyniadau gwell.
Gallwch ddysgu rhagor am y prosiect QuicDNA yn Stori Claf Mary: https://lshubwales.com/case-studies/quicdna-transforming-lung-cancer-care-rapid-diagnosis-and-treatment
01/05/2025
Rydyn ni wedi cael diwrnod hyfryd yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2025!
Roedd yn anhygoel cael noddi’r gwobrau eto eleni ac ymuno â diwrnod llawn o ddathlu gweithwyr gofal yng Nghymru, gan dynnu sylw at waith anhygoel gofalwyr yng Nghymru. Llongyfarchiadau i'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y categori Gweithio mewn Partneriaeth, Delta CONNECT a'r Porth Llesiant, ac i'r enillwyr, Cysylltu Sir Gâr!
Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr a’r rhai a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni! 🏆
29/04/2025
Dathlu Arloesedd ym maes Gofal Canser Menywod!
Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cyhoeddi mai enillwyr y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod yw...
CanSense a Phrifysgol Abertawe!
Mae CanSense yn ehangu ei brofion gwaed sydd wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial i ganfod canserau gynaecolegol yn gynharach, ac mae Prifysgol Abertawe yn datblygu prawf risg osteoporosis yn y cartref i fenywod sy’n cael triniaeth canser.
Mae’r prosiectau hyn yn gam at ddyfodol lle gall arloesedd drawsnewid gofal canser i fenywod yng Nghymru. Llongyfarchiadau i’r enillwyr! 🎉
Mae rhagor o wybodaeth am eu prosiectau ar gael yma: https://lshubwales.com/cy/news/cyhoeddi-enillwyr-y-gronfa-gofal-canser-menywod
Swansea University
24/03/2025
Mae Gofal Iechyd Menywod yn Bwysig 💪
Yn The Guardian, mae aelod ysbrydoledig o’n Bwrdd, Meinir Jones, yn rhannu gweledigaeth Cynllun Iechyd Menywod Cymru, cam arloesol ymlaen i wella gofal iechyd i fenywod a chau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau.
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys:
- Creu Canolfannau Iechyd Menywod ar draws byrddau iechyd GIG Cymru
- Ymdrechion i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflyrau iechyd menywod
Mae hyn yn fwy na chynllun; mae’n symud at degwch a chydraddoldeb mewn gofal iechyd.
Darllenwch erthygl lawn Meinir i gael gwybod sut gall y cynllun hwn drawsnewid iechyd menywod: https://www.healthawareness.co.uk/womens-healthcare/transforming-womens-health-in-wales-a-decade-of-change/
05/02/2025
Sut ydych chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gofod arloesi?
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr Hwb Heddiw, a chael y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar draws yr ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt!
Tanysgrifiwch heddiw ⬇️ https://lshubwales.com/cy/our-newsletter
22/01/2025
Disgwyl 'mlan at hyn!
Ymunwch â ni ar 5ed Chwefror!
IECHYD A MWY 📣
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnal digwyddiad yma yn M-SParc ar y 5ed o Chwefror. Byddwn ni'n lansio prosiect Iechyd a Mwy fel rhan o'r digwyddiad. Os ydych chi'n arloesi yn y byd iechyd a gofal, bydd cyfle i chi gyflwyno eich syniadau ar gyfer gwasanaethau neu welliannau yn eich maes i banel o arbenigwyr mewn sesiynau brys bennu, fydd yn medru eich helpu i fynd a'ch syniad i'r lefel nesaf.
Life Sciences Hub Wales is holding an event here at M-SParc on the 5th of February. We will be launching the Iechyd a Mwy project as part of the event. If you are an innovator in the world of health and care, you will have the opportunity to present your ideas for services or improvements in your field to a panel of experts in emergency sessions, who will be able to help you take your idea to the next level.
🗓️ 09:00 - 14:00 05/02/2025
📍 M-SParc, LL60 6AG
🔗 tinyurl.com/LSHW2025