Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Share

Cyngor Celfyddydau Cymru: yn noddi a datblygu'r #celfyddydau yng Nghymru. Arts Council of Wales: funding and developing the #arts in #Wales.

Mae'r cyfrif yma'n cael ei fonitro 9-5 Dydd Llun-Gwener | This account is monitored 9-5 Monday-Friday. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am noddi a datblygu'r Celfyddydau yng Nghymru. Elusen annibynnol yw Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Penodir ei aelodau gan Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru yw ein prif noddwr. Dosbart

Photos from Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales's post 06/06/2026

📢 Our latest job opportunities / Ein swyddi diweddaraf (Post Cymraeg llawn ar ein tudalen)

We're recruiting for two exciting jobs within our Arts Team - senior, high-profile roles where you’ll help shape and deliver the Council’s strategic vision.

- Head of Theatre, Performing Arts and Touring
- Head of Communities and Engagement (including Night Out)

Deadline: 29 June, 10am

If you're an experienced leader who is passionate about the arts, click the link in the comments below to learn more + apply 👇 🔗

——

Mae gennym ni ddwy swydd gyffrous i'w llenwi o fewn Tîm y Celfyddydau - rhai proffil uchel lle byddwch yn helpu i lunio a chyflawni gweledigaeth strategol y Cyngor.

- Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio
- Pennaeth Ymygysylltu a Chymunedau (yn cynnwys Noson Allan)

Dyddiad cau: 10 Mehefin, 10am

Os ydych chi'n arweinydd profiadol sy'n angerddol am y celfyddydau, cliciwch y ddolen yn y sylwadau isod i ddysgu mwy + ymgeisio 👇 🔗

Photos from Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales's post 05/06/2026

📢 Ein swyddi diweddaraf / Our latest job opportunities (Head to our page to read the full post in English)

Mae gennym ni ddwy swydd gyffrous i'w llenwi o fewn Tîm y Celfyddydau - rhai proffil uchel lle byddwch yn helpu i lunio a chyflawni gweledigaeth strategol y Cyngor.

- Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio
- Pennaeth Ymygysylltu a Chymunedau (yn cynnwys Noson Allan)

Dyddiad cau: 10 Mehefin, 10am

Os ydych chi'n arweinydd profiadol sy'n angerddol am y celfyddydau, cliciwch y ddolen yn y sylwadau isod i ddysgu mwy + ymgeisio 👇 🔗

-----

We're recruiting for two exciting jobs within our Arts Team - senior, high-profile roles where you’ll help shape and deliver the Council’s strategic vision.

- Head of Theatre, Performing Arts and Touring
- Head of Communities and Engagement (including Night Out)

Deadline: 29 June, 10am

If you're an experienced leader who is passionate about the arts, click the link in the comments below to learn more + apply 👇 🔗

Photos from Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales's post 05/06/2026

📢 Eisiau gweithio yn y celfyddydau? Ry'n ni'n recriwtio! / Want to work in the arts? We're recruiting!

Ry'n recriwtio ar gyfer amryw o swyddi newydd o fewn Tîm y Celfyddydau, gan gynnwys dau Reolwr Perthynas newydd:

- Rheolwr Perthynas (Theatr, Y Celfyddydau Perfformio a Teithio)
- Rheolwr Perthynas (Cerddoriaeth)

Dyddiad cau: 29 Mehefin, 10am

Oes gen ti ddiddordeb, neu'n wyt ti'n nabod y person perffaith ar gyfer y swydd? Clicia'r ddolen yn y sylwadau isod i ddysgu mwy am ein swyddi newydd + ymgeisio 👇 🔗

-----

We're recruiting for some new roles within our Arts Team, including two new Relationship Managers:

- Relationship Manager (Theatr, Performing Arts and Touring)
- Relationship Manager (Music)

Deadline: 29 June, 10am

Are you interested, or maybe you know the perfect person for the job? Click the link in the comments below to learn more about our new roles + apply 👇 🔗

05/06/2026

Elysium: O siop adrannol i gartref i greadigrwydd yng nghalon Abertawe / From department store to Swansea arts hub

Mae’r rownd nesaf o gyllid cyfalaf bellach ar agor, ac ry'n ni a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £8m o fuddsoddiad i sefydliadau celfyddydol Cymru.

Fel rhan o lansio'r rownd nesaf, ry'n ni wedi ymweld â sefydliadau sydd wedi cyflwyno prosiectau cyfalaf sylweddol i ddeall mwy am wireddu datblygiadau uchelgeisiol o'r fath.

Yn Abertawe, mae hen adeilad JT Morgan yn cael ei drawsnewid yn gartref newydd i greadigrwydd yng nganol y ddinas gyda stiwdios artistiaid, oriel gyhoeddus a gofodau hygyrch. Ond pa gyfleoedd a heriau sy'n codi wrth weithio ar brosiect o'r raddfa hon? Cawsom sgyrsiau gyda rhai o'r bobl wrth galon y prosiect, ac mae'r ffilm llawn i'w wylio ar ein sianel YouTube.

Dysgwch fwy am brosiect cyfalaf Elysium a Chronfa Cyllid Cyfalaf Celfyddydol 2026/27 trwy'r ddolen yn y sylwadau isod 🔗

-----

The next round of capital funding is now open, and we've announced an investment of £8m for Welsh arts organisations alongside Welsh Government.

As part of the launch, we’ve visited organisations across Wales that have taken on major capital projects.

In Swansea, the team at Elysium are busy preparing for the official opening of their new building. The former JT Morgan building is undergoing a transformation into a home for artist studios, a gallery and an accessible space for both artists and the wider community. But what’s it like to take on a project of this scale?

From the excitement to the challenges, we spoke to some of those at the heart of the development and the full film can be watched on our YouTube channel.

To learn more about Elysium's capital project and the next round of capital funding, click the link in the comments below 🔗

04/06/2026

Mae Hynt, cynllun mynediad arloesol Cymru ar gyfer y celfyddydau, yn dechrau cyfnod newydd yn ei hanes wrth iddo ddod yn rhan o fenter flaenllaw newydd gyffrous ac arobryn All In.

Mae’n raglen trwy’r DU ac Iwerddon gyfan, wedi’i chynllunio i wella cynhwysiant a hygyrchedd i leoliadau celfyddydol a diwylliannol.

O hydref 2026 ymlaen, bydd cynllun Hynt, dan arweiniad Cyngor Celfyddydau Cymru ac wedi ei ddarparu drwy Creu Cymru, yn trosglwyddo i gael ei enwi yn I Bawb/All In yng Nghymru ac yn croesawu aelodau i'r platfform newydd dwyieithog. Mae symud ymlaen gydag un enw dwyieithog yng Nghymru wedi'i gynllunio i greu profiad cliriach a mwy cydlynol i gynulleidfaoedd a phartneriaid fel ei gilydd ac fe wnaethpwyd y cyhoeddiad yr wythnos hon yng nghynhadledd Creu Cymru.

Mae'r enw Cymraeg newydd I Bawb yn alinio'n agosach ag ethos All In ac yn atgyfnerthu'r ymrwymiad i gyfranogiad cynhwysol yn y celfyddydau.

Dysgwch fwy trwy'r ddolen yn y sylwadau isod 👇 🔗

-----

Hynt, Wales’ pioneering access scheme for the arts, is entering a new phase of development as it becomes part of an exciting and award-winning new flagship UK and Ireland–wide initiative All In, designed with disability equity at its heart and improving accessibility to arts and cultural venues.

From autumn 2026, the Arts Council of Wales-led Hynt scheme, delivered through Creu Cymru, will transition into I Bawb/All In in Wales and welcome members onto the new bilingual platform. The introduction of a single, bilingual name in Wales is designed to create a clearer and more cohesive experience for audiences and partners alike and was announced this week at the Creu Cymru conference.

The Welsh name “I Bawb,” means “for everyone” in Welsh, aligning closely with the ethos of All In and reinforcing the commitment to inclusive participation in the arts.

Learn more via the link in the comments below 👇 🔗

04/06/2026

🎭 Cyhoeddiad: Cronfa Cyllid Cyfalaf Celfyddydol 2026/27 gwerth £8m nawr ar agor | Announcement: £8m Arts Capital Investment Fund 2026/27 now open

Mae Cronfa Buddsoddi Cyfalaf y Celfyddydau 2026/27 bellach ar agor, a bydd sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn elwa ar fuddsoddiad newydd o £8m gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r paratoadau i agor y gronfa dros y misoedd diwethaf, ry'n ni wedi siarad â sefydliadau ar hyd Cymru sydd eisoes wedi gweithio ar brosiectau cyfalaf cyffrous — o wella adeiladau i fuddsoddi mewn offer digidol o'r radd flaenaf.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu cyfres o ffilmiau yn trafod yr uchafbwyntiau, yr heriau a’r effaith o fynd i'r afael a phrosiect cyfalaf sylweddol.

Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais neu'n edrych am ysbrydoliaeth ynghylch yr hyn all fuddsoddiad cyfalaf ei gynnig i'ch sefydliad, bydd y straeon hyn yn sbarduno syniadau ar gyfer eich camau nesaf.

Dyddiad cau: 12pm, Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2026. Rhagor o wybodaeth ar gael trwy'r ddolen yn y sylwadau isod 👇

-----

The Arts Capital Investment Fund 2026/27 is now open, with arts organisations in Wales set to benefit from a new £8m investment from Arts Council of Wales and Welsh Government.

As part of our launch preparations over the past few months, we've spoken to organisations across Wales who've worked on exciting capital projects — from building repairs and improvements, to upgrading their digital equipment.

Over the next few weeks, we'll be sharing films discussing the highs, lows and the effect of taking on a significant capital project.

Whether you're planning an application or looking for inspiration on what capital investment could mean for your organisation, these stories will help spark ideas for your next steps.

Deadline: 12noon, Friday 3 July 2026. Further information available via the link in the comments below 👇

03/06/2026

💥 Sut gall creadigrwydd helpu pobl i gysylltu â’r Gymraeg mewn ffyrdd newydd? / How can creativity help people connect with Cymraeg in new ways?

Ry’n ni’n llawn cyffro i rannu clip o ffilm newydd sy'n dathlu Sgrech Flêr, prosiect Llais y Lle gan Trishna Singh, TeiFi a Ladies of Rage.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi cynnal gweithdai ysgrifennu dwyieithog, digwyddiadau cerddorol a chyfleoedd cydweithio creadigol ar draws Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili. Yn y sesiynau, defnyddir cerddoriaeth fel ffordd o adeiladu hyder, rhwydweithio ac ymgysylltu â’r Gymraeg.

Wedi’i wreiddio ym mhrofiad Ladies of Rage o ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg er mwyn dysgu’r iaith, mae’r prosiect wedi creu gofodau creadigol croesawgar lle gall dysgu iaith a hunan-fynegiant ddatblygu ochr yn ochr.

Mae ein cronfa Llais y Lle yn cefnogi unigolion creadigol a sefydliadau i gydweithio â chymunedau er mwyn hybu defnydd, hyder a pherchnogaeth o’r Gymraeg drwy greadigrwydd a diwylliant.

🎥 Cyflwynir y ffilm yma mewn partneriaeth ag Am. Gellir darganfod y ffilm llawn a holl gynnwys Llais y Lle ar wefan Am; dolen yn y sylwadau isod.

-----

We’re excited to share a clip from a new film celebrating Sgrech Flêr, a Llais y Lle project by Trishna Singh, TeiFi and Ladies of Rage.

Over the past year, the team has hosted bilingual writing workshops, music events and creative collaboration opportunities across Cardiff, Newport, Bridgend and Caerphilly. Through these sessions, music has become a way to build confidence, connection and engagement with Cymraeg.

Rooted in Ladies of Rage’s own experience of using songwriting to learn Welsh, the project creates welcoming creative spaces where language learning and self-expression can develop side by side.

Our Llais y Lle fund supports creative individuals and organisations to work collaboratively with communities to develop the use, confidence and ownership of Cymraeg through creativity and culture.

🎥 This film is presented in partnership with Am. The full film and all Llais y Lle content can be found on Am’s website; link in the comments below.

03/06/2026

Eisiau dysgu mwy am Cynefin? / Want to learn more about Cynefin?

Mae WAHWN yn cynnal cyfres o sgyrsiau ar-lein fel rhan o Cynefin, rhaglen genedlaethol newydd sy’n archwilio'r posibilrwydd o gynnig celfyddydau a diwylliant fel gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen.

Cliciwch isod i ddysgu mwy 👇 🔗

-----

WAHWN are hosting a series of online discussions as part of Cynefin, a new national programme exploring how offering arts and culture as a frontline public service could make a difference.

Click below to learn more 👇 🔗
e abouCyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Walest

📣REGISTER | COFRESTRWCH 📣

How can the arts and creativity help give every child the best start in life?

🗓 Wednesday 24 June
🕙 10am
💰 Free

We'll be exploring that at the first of four online discussions later this month as part of Cynefin.

Cynefin is a new national programme exploring how embedding arts and culture as a frontline public service could be a step-change for population health in Wales.

Bringing together leaders across health, policy and the arts, the session will explore how creativity can build connection, confidence and development in the early years - helping to prevent future inequality and improve lifelong health outcomes.

Be part of the conversation!

Find out more and register for free here ⬇

https://www.eventbrite.co.uk/e/cynefin-session-1-how-can-the-arts-contribute-to-the-best-start-in-life-tickets-1990178536577?aff=oddtdtcreator&_gl=1*fhrfwj*_up*MQ..*_ga*MTAzODMzNzA2MC4xNzgwMzkxNzk1*_ga_TQVES5V6SH*czE3ODAzOTE3OTQkbzEkZzEkdDE3ODAzOTE4MDAkajU0JGwwJGgw



Public Health Wales Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales Arts and Humanities Research Council - AHRC Northumbria University UK Research and Innovation

03/06/2026

⛰️ Sut mae iaith yn siapio ein cysylltiad â’r tirwedd? / How does language shape our connection to landscape?

Ry’n ni heddiw’n falch o rannu clip o ffilm yn dathlu prosiect Llais y Lle gan Joseph Conran, Ein Milltir Sgwâr.

Wedi’i ysbrydoli gan hen idiomau Cymraeg a cherddi T H Parry-Williams, mae’r prosiect yn defnyddio geiriau, deunyddiau a syniadau i archwilio’r berthynas rhwng y Gymraeg, creadigrwydd a thirwedd Cymru.

Trwy broses greadigol gydweithredol, mae’r prosiect yn creu gofod i artistiaid ddefnyddio’r Gymraeg, rhannu syniadau ac archwilio’r ymdeimlad o berthyn drwy ymarfer creadigol.

Mae ein cronfa Llais y Lle yn cefnogi unigolion creadigol a sefydliadau i gydweithio â chymunedau er mwyn datblygu defnydd, hyder a pherchnogaeth o’r Gymraeg drwy greadigrwydd a diwylliant.

🎥 Cyflwynir y ffilm mewn partneriaeth ag Am. Gellir darganfod y ffilm llawn a mwy o gynnwys Llais y Lle ar wefan Am trwy’r ddolen yn y sylwadau isod.

-----

We are pleased to share a clip from a film celebrating one of our Llais y Lle projects, Joseph Conran’s Ein Milltir Sgwâr.

Inspired by Welsh idioms and the poetry of T H Parry-Williams, the project explores the relationship between Cymraeg, creativity and the landscape of Wales through words, materials and ideas.

Through a collaborative creative process, the project creates space for artists to use Welsh, share ideas and explore a sense of place through creative practice.

Our Llais y Lle fund supports creative individuals and organisations to work collaboratively with communities to develop the use, confidence and ownership of Cymraeg through creativity and culture.

🎥 This film is presented in partnership with Am. Discover the full video and more Llais y Lle content on Am’s website via link in the comments below.

29/05/2026

✨ Dathlu creadigrwydd plant Cymru ar faes beaming with creativity…

Negeseuon hyfryd gan ein holl ymwelwyr yr wythnos yma, yn atsain neges bwerus — rydyn ni wir yn lwcus i gael creu a bod yn greadigol.

Mae wedi bod yn wythnos fythgofiadwy ar ein stondin cyntaf erioed ar faes , diolch i’n tîm Dysgu Creadigol Cymru.

Welwn ni chi yng Nghasnewydd flwyddyn nesaf ar gyfer Eisteddfod Bro’r Wenynen?!

——

Wonderful messages from all our visitors this week, echoing ’s words — we are so lucky to get to create and be creative.

It’s been an unforgettable week on our first ever stall, thanks to our Creative Learning Cymru team.

See you in Newport next year?!

Want your business to be the top-listed Government Service in Cardiff?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Telephone

Address


Plas Bute/Bute Place
Cardiff
CF105

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm