23/10/2026
Cyn-gadeirydd Pwyllgor Milwrol NATO yn cyflwyno prif anerchiad
Cyflwynodd Prif Gadlywydd yr Awyrlu yr Arglwydd Peach KG GBE KCB DL y prif anerchiad gerbron cynulleidfa lawn yng Nghyfarfod Briffio Blynyddol y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid (RFCA) dros Gymru.
Siaradodd cyn-gadeirydd Pwyllgor Milwrol NATO am gyd-destun cyflwr Amddiffyn yn y DU yng ngoleuni’r Adolygiad Strategol o Amddiffyn, gerbron bron i 150 o westeion yn HMS CAMBRIA.
Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Iau 22ain Hydref ac roedd cynulleidfa amrywiol yn bresennol gan gynnwys aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, sefydliadau partner, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol.
Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys Mike Connolly, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd safbwynt Llywodraeth Cymru.
Freya Church, Pennaeth Gwerth Cymdeithasol yn R & M Williams a roddodd safbwynt y cyflogwr ac roedd Capten Cullum Morgan Welch, Prif Swyddog, Cwmni Cuddwybodaeth Milwrol 74 wedi cyflwyno safbwynt y lluoedd wrth gefn.
Rhoddodd y Cadlywydd Adain Rhys Brown, Prif Swyddog Cadetiaid Awyr Rhif 2 Adain Cymru yr RAF ddiweddariad o safbwynt oedolion sy’n gwirfoddoli gyda’r Llu Cadetiaid.
Cyn hynny roedd y cadeirydd newydd Comodor yr Awyrlu Adrian Williams OBE wedi ymuno â’r Prif Weithredwr Cyrnol Dominic Morgan OBE i groesawu’r gwesteion a chyflwyno thema’r Cyfarfod Briffio – gweithredu Adolygiad Strategol Llywodraeth y DU o Amddiffyn – beth mae’n ei olygu i Amddiffyn a sut mae’n effeithio arnom ni yma yng Nghymru.
Ar ddiwedd y cyfarfod diolchwyd i gadeirydd RFCA dros Gymru y mae ei gyfnod yn y gadair yn dod i ben, sef y Brigadwr Russ Wardle OBE DL, am ei gefnogaeth frwd a'i waith dros y Gymdeithas yn ystod ei gyfnod a ddechreuodd yn 2020.
Cafodd y digwyddiad ei arwain gan y cyflwynydd teledu Sian Lloyd.