Addysg Cymru

Directions Website Contact the organisation

Addysg Cymru Gwybodaeth am addysg yng Nghymru. English page: https://www.facebook.com/educationwales

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg // This page is also available in English
www.facebook.com/educationwales

Eleni, rydyn ni'n nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan.   Mae'r golled a'r effaith a gafodd y trychineb ar deuluoedd, y...
16/10/2026

Eleni, rydyn ni'n nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan.

Mae'r golled a'r effaith a gafodd y trychineb ar deuluoedd, y gymuned, Cymru a thu hwnt yn parhau yn y cof.

Os ydych chi'n addysgu yn yr uwchradd ac yn awyddus i nodi'r digwyddiad gyda'ch dysgwyr, mae adnodd Trychineb Aberfan, rhan o'n casgliad Hanes Cymru ar gael ar Hwb.

Gan ddefnyddio eitemau gwreiddiol o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae'r adnodd yn helpu i gyflwyno'r hanes a'i etifeddiaeth i genhedlaeth newydd o ddysgwyr.

https://hwb.gov.wales/articles/d465248f-aacd-40a2-87e1-9966928009a8

15/10/2026

Diwrnod Shwmae Su’mae hapus! ❤🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Buddsoddiad o £60 miliwn ychwanegol wedi ei gytuno ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ystod y flwyddyn arianno...
13/10/2026

Buddsoddiad o £60 miliwn ychwanegol wedi ei gytuno ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae hwn yn rhan o becyn buddsoddiad ehangach a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mehefin.

Heddiw bydd y Gyllideb Atodol 2026/27 yn cael ei osod ac ar ddydd Mawrth 3 Tachwedd bydd yn cael ei drafod yn y Senedd.

Darllenwch fwy: https://www.llyw.cymru/dod-i-gytundeb-ar-y-gyllideb-atodol?fbclid=IwY2xjawU6_XxleHRuA2FlbQIxMABwZG9mAWJyaWQRMUQ2QzJUY3pReklvMFY0Tk5zcnRjBmFwcF9pZBAyMjIwMzkxNzg4MjAwODkyAAEeRjQ7XqdddPjdhgOsNcquQg9U1kFf7vMDzzmq4ap4JYqmbIMndKq1y_M4Qzg_aem_qD6x3keuCk9873eZpt6tPw&_gl=1*12kwujq*_ga*MTc2ODQ0MDY0NC4xNzg1ODUzOTY1*_ga_L1471V4N02*czE3OTE4OTE3NTYkbzQxJGcxJHQxNzkxODkzMDM5JGoxNyRsMCRoMA..

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru

Mae hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd! Mae lles yn chwarae rhan hanfodol ym mhob cymuned ysgol. Fel athrawon ac ymarferw...
10/10/2026

Mae hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd!

Mae lles yn chwarae rhan hanfodol ym mhob cymuned ysgol.

Fel athrawon ac ymarferwyr, rydych chi'n cefnogi eich dysgwyr bob dydd. Dyna pam mae'n bwysig cymryd saib ar gyfer eich lles eich hun, myfyrio a dod o hyd i'r hyn sy'n eich helpu i ailwefru.

Gallwch ddod o hyd i adnoddau defnyddiol, canllawiau a chymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles ar draws eich cymuned ysgol ar Hwb:
https://hwb.gov.wales/adnoddau/iechyd-meddwl-a-lles-mewn-ysgolion/

09/10/2026

TAAU 🤝 Dysgu sy'n cysylltu â'r byd go iawn

Ymwelodd ein Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ag Ysgol Gyfun Llandeilo-Ferwallt (Bishopston Comprehensive) yr wythnos hon i ddysgu mwy am ei phartneriaeth lwyddiannus â Choleg Gŵyr (Gower College Swansea AFPC).

O blymio ac arlwyo i wallt a harddwch, mae dysgwyr yn adeiladu eu sgiliau ymarferol drwy gyfleusterau arbenigol a chyrsiau galwedigaethol, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf.

Bydd mwy o gymwysterau galwedigaethol (TAAU) ar gael o'r flwyddyn nesaf ymlaen, gan gynnig mwy o gyfleoedd gyrfa i fwy o ddysgwyr.

Ydych chi’n barod i ddechrau eich taith Erasmus+?Mae’r cyfnod ymgeisio am gyllid yn agor ym mis Tachwedd 2026 i ysgolion...
07/10/2026

Ydych chi’n barod i ddechrau eich taith Erasmus+?

Mae’r cyfnod ymgeisio am gyllid yn agor ym mis Tachwedd 2026 i ysgolion, colegau, prifysgolion, grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon, a darparwyr addysg oedolion.

Dechreuwch baratoi nawr:
- Tanysgrifiwch i gylchlythyr Erasmus+
- Ystyriwch eich opsiynau
- Ffeindiwch bartner rhyngwladol

Cymerwch y cam cyntaf ar daith Erasmus+ eich sefydliad nawr: https://www.erasmusplus.org.uk/cy

Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.

07/10/2026
Gall mynediad at addysg a hyfforddiant gymryd mwy o amser a chostio mwy yng nghefn gwlad Cymru. Rydym yn cynnig deddf ne...
06/10/2026

Gall mynediad at addysg a hyfforddiant gymryd mwy o amser a chostio mwy yng nghefn gwlad Cymru.

Rydym yn cynnig deddf newydd i sicrhau bod anghenion gwledig yn cael eu hystyried yn briodol pan fydd y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys benderfyniadau ar addysg.

Mynegwch eich barn cyn 14 Hydref: https://www.llyw.cymru/y-papur-gwyn-ar-brawfesur-gwledig-chynaliadwyedd-amgylcheddol

Address

Cardiff
CF103NQ

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Addysg Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Addysg Cymru:

Shortcuts

Share