Audit Wales / Archwilio Cymru

Directions Website Contact the organisation

Audit Wales / Archwilio Cymru Archwilio Cymru - We’re here to Assure, Explain and Inspire. Ein nod yw Sicrhau, Egluro ac Ysbryd The Wales Audit Office is the public sector watchdog for Wales.

Our aim is to ensure that the people of Wales know whether public money is being managed wisely and that public bodies in Wales understand how to improve outcomes. We do this through:
• Auditing the financial accounts of public bodies
• Reporting on how services are being delivered
• Assessing whether value for money is being achieved
• Checking how organisations are planning and delivering improvements

We are also committed to identifying and spreading good practice, to help public bodies deliver better services. Our work includes all devolved public sectors in Wales - including health and social care, local and central government, fire and rescue authorities, national parks, police, probation and community councils. We are responsible for the annual audit of £15 billion of public funds, most of the public money spent in Wales. Wales Audit Office - Social media guidelines: http://bit.ly/1guDPb5

Swyddfa Archwilio Cymru yw’r corff gwarchod ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod pobl Cymru’n gwybod os yw a***n cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n deall sut i wella canlyniadau. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy:

• Archwilio cyfrifon a***nnol cyrff cyhoeddus
• Adrodd ar sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu
• Asesu os yw gwerth am a***n yn cael ei gyflawni
• Gwirio sut mae sefydliadau yn cynllunio ac yn darparu gwelliannau

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i adnabod a lledaenu arfer da, er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau gwell. Mae ein gwaith yn cynnwys yr holl sectorau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru – gan gynnwys gofal iechyd a chymdeithasol, llywodraeth leol a chanolog, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol, yr heddlu, gwasanaethau prawf a chynghorau cymunedol. Rydyn ni’n gyfrifol am archwiliad blynyddol gwerth £15 biliwn o gyllid cyhoeddus, sef y mwyafrif o’r a***n cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru. Swydffa Archwilio Cymru - Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol: http://bit.ly/1n5UOrt

📢 Published today: Finding the right match: Latest results for Wales from the National Fraud InitiativeOur new report se...
15/10/2026

📢 Published today: Finding the right match: Latest results for Wales from the National Fraud Initiative

Our new report sets out findings for Wales from the most recent NFI exercise.

👀 Read the report - https://orlo.uk/40HEq

📢 Cyhoeddwyd heddiw: Chwilio am bariad: Canlyniadau diweddaraf Cymru o’r Fenter Twyll Genedlaethol

Mae ein hadroddiad newydd yn nodi canfyddiadau ar gyfer Cymru o ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol.

👀 Darllenwch yr adroddiad - https://orlo.uk/JL9uW

15/10/2026

Dydd Shwmae Su’mae hapus!😃

Rydym yn falch o gefnogi'r Gymraeg ac yn annog ei defnydd ar draws ein sefydliad. Boed hynny drwy gynnig gwersi Cymraeg i staff, darparu gwasanaethau dwyieithog neu drwy sgyrsiau bob dydd, rydym wedi ymrwymo i helpu'r Gymraeg i ffynnu yn y gweithle.

Beth am gyfarch rhywun â "Shwmae" neu "Su'mae" heddiw?

We're proud to support the Welsh language and encourage its use across our organisation. Whether it's through Welsh lessons for staff, bilingual services, or everyday conversations, we're committed to helping Welsh thrive in the workplace.

Why not greet someone with a "Shwmae" or "Su'mae" today?

Today is World Mental Health Day, a reminder of the importance of supporting good mental health and wellbeing for everyo...
10/10/2026

Today is World Mental Health Day, a reminder of the importance of supporting good mental health and wellbeing for everyone.

We're currently considering a piece of work looking at young people who are not in education, employment or training (NEET), including the factors that can affect their wellbeing and opportunities. We look forward to sharing more information soon, so keep an eye on our website.

🌏 Visit our website to learn more about our work, link in comments ⬇️


Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, sy’n ein hatgoffa o bwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl a llesiant da i bawb.

Rydym wrthi’n ystyried cynnal gwaith sy’n edrych ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), gan gynnwys y ffactorau a all effeithio ar eu llesiant a’u cyfleoedd. Edrychwn ymlaen at rannu mwy o wybodaeth yn fuan, felly cadwch lygad ar ein gwefan.

🌏 Ewch i'n gwefan i ddysgu mwy am ein gwaith, dolen yn y sylwadau ⬇️


Great to attend the  One Voice Wales Innovative Practice Conference yesterday. Our team enjoyed meeting delegates from a...
01/10/2026

Great to attend the One Voice Wales Innovative Practice Conference yesterday. Our team enjoyed meeting delegates from across Wales, sharing information about our work, and discussing topics affecting town and community councils.

Thanks to everyone who visited our stall!

Braf oedd mynychu Cynhadledd Arfer Arloesol Un Llais Cymru ddoe. Mwynhaodd ein tîm y cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o bob cwr o Gymru, rhannu gwybodaeth am ein gwaith, a thrafod materion sy'n effeithio ar gynghorau tref a chymuned.

Diolch i bawb a ddaeth draw i’n stondin!

👀 Ydych chi'n edrych i ddod yn un o'n haelodau o'r Bwrdd? Mae'r Senedd yn edrych i benodi Aelod Anweithredol i'r Bwrdd.M...
29/09/2026

👀 Ydych chi'n edrych i ddod yn un o'n haelodau o'r Bwrdd? Mae'r Senedd yn edrych i benodi Aelod Anweithredol i'r Bwrdd.

Mae cyfle ar gael i Aelod Anweithredol o'r Bwrdd, i ddechrau ym mis Mawrth 2027.

👀 Looking to become one of our Board members? The Senedd is looking to appoint a Non-Executive Member to the Board.

An opportunity is available for a Non-Executive Member of the Board, to commence in March 2027.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Hydref 2026 / Closing date for applications is 23 October 2026

👉 Canfuwch fwy ar ein gwefan / Find out how to apply on our website - https://orlo.uk/GnMAK

Hoffech chi ddod yn aelod o'n Bwrdd? / Would you like to become a member of our Board?An opportunity is available for a ...
25/09/2026

Hoffech chi ddod yn aelod o'n Bwrdd? / Would you like to become a member of our Board?

An opportunity is available for a Non-Executive Member of the Board, to commence in March 2027.

Bethan Jones, Non-Executive Board Member: “Audit Wales is an organisation with committed people at its heart, and the role offers a rewarding opportunity to support work that matters to people and public services across Wales.”

Mae cyfle ar gael i Aelod Anweithredol o'r Bwrdd, i ddechrau ym mis Mawrth 2027.

Bethan Jones, Aelod Anweithredol o'r Bwrdd: "Mae Archwilio Cymru yn sefydliad sydd â phobl ymroddedig wrth ei galon, ac mae'r rôl yn cynnig cyfle gwerth chweil i gefnogi gwaith sy'n bwysig i bobl a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Hydref 2026 / Closing date for applications is 23 October 2026

👉 Canfuwch fwy ar ein gwefan / Find out how to apply on our website.

24/09/2026

What makes you proud to be an auditor?

This Day, we asked some of our colleagues what makes them proud of the work they do at Audit Wales.

Our auditors play an important role in supporting accountability, transparency and improvement across public services in Wales.

Hear what they had to say 👇

Beth sy'n eich gwneud chi'n falch o fod yn archwilydd?

Y diwrnod hwn, fe wnaethom ofyn i rai o'n cydweithwyr beth sy'n eu gwneud yn falch o'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn Archwilio Cymru.

Mae ein harchwilwyr yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi atebolrwydd, tryloywder a gwella ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gwrandewch ar yr hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud 👇

22/09/2026

Sut brofiad yw dechrau eich gyrfa yn Archwilio Cymru?

Yn Archwilio Cymru, byddwch yn cael eich amgylchynu gan gydweithwyr sy'n deall taith y graddedigion ac sydd yno i'ch cefnogi wrth i chi ddysgu a datblygu.

Clywch gan Dyfan am ei brofiad fel hyfforddai graddedig yn Archwilio Cymru.

Mae cyfleoedd i raddedigion yn agor yn fuan. Darllenwch am fwy o wybodaeth



What’s it like to start your career at Audit Wales?

At Audit Wales, you’ll be surrounded by colleagues who understand the graduate journey and are there to support you as you learn and develop.

Hear from Dyfan about his experience as a graduate trainee at Audit Wales.

Graduate opportunities open soon. Follow us to find out more.

💻  Most NHS bodies have clear digital ambitions but can struggle to convert them into meaningful change.Our article publ...
17/09/2026

💻 Most NHS bodies have clear digital ambitions but can struggle to convert them into meaningful change.

Our article published today draws out some of the key themes from our recent work on how NHS bodies are using digital change to improve services.

Our work raises important questions for the Welsh Government and NHS bodies if they are to turn their digital ambitions into reality.

👀 Read the full article on our website. Link in comments ⬇️

🔊 Mae gan y rhan fwyaf o gyrff y GIG uchelgeisiau digidol clir ond gallant gael trafferth eu trosi'n newid ystyrlon.

Mae ein herthygl a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw at rai o'r themâu allweddol o'n gwaith diweddar ar sut mae cyrff y GIG yn defnyddio newid digidol i wella gwasanaethau.

Mae ein gwaith yn codi cwestiynau pwysig i Lywodraeth Cymru a chyrff y GIG os ydynt am droi eu huchelgeisiau digidol yn realiti.

👀 Darllenwch yr erthygl lawn ar ein gwefan. Dolen yn y sylwadau ⬇️

15/09/2026

Thinking about your next step after university? 🎓

Our Graduate Trainee Programme opens for applications in October. Keep an eye on our socials for the latest updates.

A ydych chi'n meddwl am eich cam nesaf ar ôl y brifysgol? 🎓

Mae ein Rhaglen Hyfforddi i Raddedigion yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Hydref. Cadwch lygad allan ar ein negeseuon cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Address

1 Capital Quarter, Tyndall Street
Cardiff
CF104BZ

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Audit Wales / Archwilio Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Audit Wales / Archwilio Cymru:

Shortcuts

Share

Category