Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Share

Cyfrif yn cael ei fonitro dydd Llun-Gwener, 9 tan 5. Os oes gennych argyfwng meddygol ffoniwch 999. Mae’n weledigaeth rydyn ni’n ei rhannu â’n rhanddeiliaid.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n Ymddiriedolaeth GIG a’n huchelgais yw cyflawni Cymru sy’n iachach, hapusach a decach. Ein pwrpas yw rhoi pŵer i bobl i amddiffyn a gwella ei iechyd a lles a hefyd i leihau anghydraddoldebau. Rydym yn gwneud hyn drwy hysbysu, cynghori a siarad ar eu rhan. Trwy bostio yn y sianel yma mae eich sylwadau (gan gynnwys enw a llun proffil) yn y parth cyhoeddus ac rydych yn cyd

29/05/2026

Mae diabetes yn cynyddu'n gyflymach na'r disgwyl yng Nghymru. Mae un o bob pump oedolyn eisoes wedi'i effeithio.

Ond yn aml gellir atal Diabetes math 2. Mae gwybod eich risg yn newid popeth.

Dwy funud. Am ddim. Yr Wythnos Atal Diabetes hon — cael gwybod beth yw eich sefyllfa chi. ✅

🔎Chwilio: "lleihau fy risg o ddiabetes math 2 Cymru"

28/05/2026

Cwblhaodd Isobel ei phecyn sgrinio’r coluddyn heb ail feddwl. 💌

Roedd hi wedi cymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn o'r blaen ac nid oedd erioed wedi cael problem, a phan sylwodd ar waedu achlysurol, roedd hi'n meddwl mai rhywbeth yr oedd hi wedi'i brofi o'r blaen oedd e.

Ar ôl cwblhau ei phrawf diweddaraf, cysylltwyd â hi am ymchwiliad pellach. 🩺

Roedd taith Isobel yn cynnwys nifer o weithdrefnau a llawdriniaeth i gael gwared ar bolyp mawr.

Diolch byth, nid canser ydoedd, ond roedd yn agos iawn. ❤️

Mae mwy o wybodaeth am sgrinio'r coluddyn ar gael yma: https://icc.gig.cymru/sgrinio-coluddion-cymru/

28/05/2026

Mae argyfwng diabetes Cymru yn gwaethygu’n gyflymach nag a ragwelwyd — ond nid oes rhaid iddo.

Mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach nag a ragwelwyd yn flaenorol, yn ôl data newydd gan GIG Cymru. Mae hyn wedi cymell Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru i ddod at ei gilydd i alw ar bobl i adnabod eu risg o ddiabetes Math 2 a gweithredu nawr, fel y gallant fyw bywydau hirach ac iachach yfory.

Darllenwch mwy yma: https://icc.gig.cymru/2026/05/28/mae-argyfwng-diabetes-cymru-yn-gwaethygun-gyflymach-nag-a-ragwelwyd-ond-nid-oes-rhaid-iddo/?_gl=1*y7p5qr*_ga*NDMwNDE5MDczLjE3NzkzNTk3MTY.*_ga_N9YS5VS5QP*czE3Nzk5NjIyNjMkbzgkZzAkdDE3Nzk5NjI4NTIkajYwJGwwJGgw

Photos from RNLI's post 27/05/2026

Cynor pwysig o'r RNLI isod! (Saesneg yn unig)

26/05/2026

Mae fideo sgrinio llygaid diabetig newydd ar gael! 🎥

Gall gwybod beth i'w ddisgwyl wneud gwahaniaeth mawr. Mae'r fideo newydd hwn yn eich tywys trwy'r apwyntiad sgrinio llygaid diabetig gam wrth gam, gan eich helpu i deimlo'n wybodus ac yn hyderus cyn eich ymweliad.

Mae sgrinio llygaid diabetig yn helpu i ddiogelu eich golwg trwy ganfod newidiadau’n gynnar, yn aml cyn i chi sylwi ar unrhyw symptomau. 💙

Mae'r fideo ar gael yn Gymraeg, Saesneg a BSL.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://icc.gig.cymru/adnoddau/sgrinio-llygaid-diabetig-beth-iw-ddisgwyl/

26/05/2026

Mynd i’r Maes? ☀️

Dewch i’n gweld heddiw a fory ar stondin y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Mwy Na Geiriau (stondin N6) yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 🎪

Dewch heibio am sgwrs am ein gwasanaethau Sgrinio, Brechu, Hapus a llawer, llawer mwy! 💙

26/05/2026

Mwynhau'r heulwen? Dyma ychydig o ffyrdd syml o gadw'n ddiogel tra byddwch chi allan ☀️👇

🕒 Arhoswch yn y cysgod rhwng 11am a 3pm.
🧴 Defnyddiwch eli haul SPF 30+.
🌊 Byddwch yn ymwybodol y gall dŵr agored edrych yn ddeniadol, ond mae'n dal yn oer iawn
🧢 Gwisgwch het, sbectol haul, dillad â llewys hir a dillad llac i amddiffyn eich croen.
💧 Yfwch ddigon o ddwr.

24/05/2026

Mae'r tywydd poeth i fod i aros am ychydig ddyddiau eraill, felly dyma rai atgoffiadau syml os ydych chi’n gwneud y mwyaf ohono dros hanner tymor ☀️👇

🕒 Arhoswch yn y cysgod rhwng 11am a 3pm.
🧴 Defnyddiwch eli haul SPF 30+, hyd yn oed os yw'n gymylog.
🧢 Gwisgwch het, sbectol haul, dillad â llewys hir a dillad llac i amddiffyn eich croen.
💧 Yfwch ddigon o ddwr.
🌤️ Gwiriwch lefelau Uwchfioled (UV) ar eich ap tywydd – os yw'n uchel, byddwch yn arbennig o ofalus.

Mwynhewch yr heulwen ond peidiwch â threulio gormod o amser heb gysgod!

22/05/2026

Mae'n mynd i fod yn gynnes y penwythnos yma! ☀️

Rydyn ni'n gwybod nad yw’n digwydd yn aml yma yng Nghymru ac y byddwch chi eisiau ei fwynhau, felly dyma rai ffyrdd syml o gadw'n ddiogel yn y gwres 👇

🌳 Cymerwch seibiannau rheolaidd yn y cysgod
💧 Cofiwch yfed digon o ddŵr i aros wedi hydradu drwy gydol y dydd
🌊 Byddwch yn ymwybodol y gall dŵr agored edrych yn ddeniadol, ond mae'n dal yn oer iawn
❤️ Cadwch lygad ar ffrindiau, teulu a chymdogion
🧴A pheidiwch ag anghofio eich eli haul!

Want your business to be the top-listed Government Service in Cardiff?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Category

Telephone

Address


Pencadlys Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall
Cardiff
CF104BZ

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm