11/08/2026
We’ve been a little quiet on here recently – and there’s a good reason for that. It’s been an incredibly busy year for the team, with more than 250 callouts already in 2026.
☀️ The summer months have been particularly demanding. During June, we responded to 47 callouts, resulting in 25 full team deployments and 40 people assisted. Saturdays were our busiest day of the week, with the majority of incidents taking place around the Llanberis Path and Crib Goch. Inexperience, human error and poor decision making were among the most common factors behind callouts.
July was even busier – in fact, it was our busiest July on record, with 54 callouts, 39 full team deployments and 51 people assisted.
Saturdays were again our busiest day, while the Llanberis Path and PYG Track were the locations we were called to most frequently. Human error, inexperience and high temperatures all contributed to incidents during the month.
With another spell of warm weather upon us, we’re asking anyone planning to head into the mountains to take extra care.
Heat has been a particular concern for us this summer. We’ve already assisted a number of people suffering from heat-related issues, and even experienced walkers can find themselves struggling when temperatures rise.
If you’re heading out, carry plenty of water, use sun protection, wear suitable clothing and consider setting off earlier to avoid the hottest part of the day. Know your route, be realistic about your ability and turn around if conditions become too much.
And please think carefully before taking your dog with you. On particularly warm days, the safest option is to leave them at home. Dogs can overheat very quickly and may struggle long before you do 🐾
———————-
Rydym wedi bod ychydig yn dawel yn y fan yma’n ddiweddar - ac mae yna reswm da am hynny. Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel o brysur i’r tîm, gyda thros 250 o alwadau allan yn barod yn 2026.
☀️Mae misoedd yr haf wedi bod yn arbennig o brysur. Yn ystod mis Mehefin, fe wnaethom ymateb i 47 o alwadau allan, a arweiniodd at 25 achos o’r tîm cyfan yn cael ei anfon allan a 40 o bobl yn cael eu cynorthwyo. Dyddiau Sadwrn sydd wedi bod brysuraf i ni, gyda’r mwyafrif o’r galwadau wedi’u lleoli o gwmpas Llwybr Llanberis a’r Grib Goch. Roedd diffyg profiad, camgymeriadau dynol a phenderfyniadau gwael ymysg y ffactorau mwyaf cyffredin y tu ôl i’r galwadau allan.
Roedd mis Gorffennaf hyd yn oed yn brysurach - a dweud y gwir, dyma’r mis Gorffennaf prysuraf ar gofnod, gyda 54 o alwadau allan, 39 achos o anfon timau llawn allan a 51 o bobl yn derbyn cymorth.
Dyddiau Sadwrn unwaith eto oedd ein diwrnod prysuraf, gyda Llwybr Llanberis a Llwybr PYG y ddau leoliad y cawsom ein galw iddynt fwyaf aml. Cyfrannodd camgymeriadau dynol, diffyg profiad a thymereddau uchel i gyd at achosion o alw am gymorth yn ystod y mis.
Gyda chyfnod arall o dywydd poeth ar y ffordd, gofynnwn i unrhyw un sy’n bwriadu mynd allan i’r mynyddoedd gymryd gofal ychwanegol wrth wneud hynny.
Mae gwres wedi bod yn achos pryder arbennig i ni yr haf hwn. Rydym eisoes wedi cynorthwyo nifer o bobl yn dioddef o broblemau cysylltiedig â gwres, a gall hyd yn oed cerddwyr profiadol ganfod eu hunain mewn trafferthion pan fydd y tymheredd yn codi.
Os ydych chi’n cychwyn allan, gofalwch fynd â digonedd o ddŵr gyda chi, defnyddio eli i’ch amddiffyn rhag yr haul ac ystyried cychwyn yn gynt er mwyn osgoi’r rhan boethaf o’r dydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa ffordd rydych chi am fynd, gan fod yn realistig ynghylch eich gallu a throi yn ôl os yw amgylchiadau’n mynd yn ormod.
A chofiwch feddwl yn ofalus cyn mynd â’ch ci gyda chi. Ar ddyddiau sy’n arbennig o gynnes, y dewis mwyaf diogel yw eu gadael gartref. Gall cŵn orboethi’n gyflym iawn ac mae’n bosib y byddant yn cael trafferth ymdopi ymhell cyn i chi fynd i drafferthion 🐾