27/10/2026
Swydd | Job 🔔
***
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig, strategol a chynhwysol i arwain Grŵp Eiddo Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, sy’n cynnwys Dinefwr, Llanerchaeron, Mwynglawdd Aur Dolaucothi ac Arfordir Ceredigion.
Pam ymuno â ni?
Helpwch i lunio dyfodol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Fel rhan o dîm arwain Cymru, Byddwch yn helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at natur a threftadaeth, gan sicrhau bod ein lleoedd yn parhau’n berthnasol, yn groesawgar ac yn ysbrydoledig i genedlaethau’r dyfodol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Arweiniwch gyda phwrpas ac effaith. O gyflawni gweithredol a chynllunio strategol i feithrin partneriaethau ac arwain y busnes, byddwch yn llywio grŵp eiddo amrywiol wrth sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl, lleoedd a natur.
Gweithio yma
Byddwch yn rhan o rwydwaith arwain cydweithredol. Byddwch yn meithrin partneriaethau â chymunedau, sefydliadau a chyrff cyhoeddus, gan greu effaith barhaol a chryfhau cysylltiadau â diwylliant, iaith a threftadaeth Cymru.
Arwain pobl
Ysbrydolwch dimau i ffynnu. Byddwch yn arwain staff a gwirfoddolwyr brwdfrydig, gan greu diwylliant cynhwysol a chefnogol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu grymuso ac yn unedig y tu ôl i weledigaeth gyffredin.
Pwy rydym yn chwilio amdano
Arweinydd hyderus a chydweithredol. Bydd gennych brofiad o arwain timau amrywiol, rheoli cyllidebau a pherfformiad, meithrin partneriaethau a chyflawni newid, gan ddod â phobl ynghyd i wireddu nodau uchelgeisiol.
Ymgeisiwch nawr; https://careers.nationaltrust.org.uk/OA_HTML/a/ #/vacancy-detail/180241
Dyddiad cau: 8 Tachwedd
***
We're looking for an inspiring, strategic and inclusive leader for the Carmarthenshire & Ceredigion Property Group which includes Dinefwr, Llanerchaeron, Dolaucothi Gold Mine and the Ceredigion Coast.
Why join us?
Shape the future of National Trust Cymru. You'll help tackle unequal access to nature and heritage, ensuring our places remain relevant, welcoming and inspiring for future generations.
What you'll do
Lead with purpose and impact. From operational delivery and strategic planning to partnership building and business leadership, you'll guide a diverse property group while delivering positive outcomes for people, places and nature.
Working here
Be part of a collaborative leadership network. You'll build partnerships with communities, organisations and public bodies, creating lasting impact and strengthening connections with Welsh culture, language and heritage.
Leading people
Inspire teams to thrive. You'll lead passionate staff and volunteers, creating an inclusive and supportive culture where people feel valued, empowered and united behind a shared vision.
Who we're looking for
A confident, collaborative leader. You'll have experience leading diverse teams, managing budgets and performance, building partnerships and delivering change, while bringing people together around ambitious goals.
Apply now; https://careers.nationaltrust.org.uk/OA_HTML/a/ #/vacancy-detail/180241
Closing date; 8 November