Awdurdod Cyllid Cymru

Directions Website

Awdurdod Cyllid Cymru Rhaid i chi gofrestru eich llety ymwelwyr gydag Awdurdod Cyllid Cymru erbyn 31 Mawrth 2027.

Pan fyddwch chi’n cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru gyda ni, dim ond am wybodaeth fydd gennych wrth law yn barod...
03/11/2026

Pan fyddwch chi’n cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru gyda ni, dim ond am wybodaeth fydd gennych wrth law yn barod y byddwn ni’n gofyn, fel eich manylion cyswllt ac ychydig o ffeithiau am eich llety.

Os ydych chi’n cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos, mae angen i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru erbyn 31 Mawrth 2027.

Dysgwch sut i gofrestru: https://www.llyw.cymru/cofrestru-eich-llety-ymwelwyr-yng-nghymru?utm_source=social&utm_medium=organic&utm_campaign=registration_p4&utm_id=VAR

Mae cofrestru llety ymwelwyr bellach ar agor ledled Cymru, felly rydyn ni wedi bod allan yn cwrdd â darparwyr! 🏠 Y mis d...
02/11/2026

Mae cofrestru llety ymwelwyr bellach ar agor ledled Cymru, felly rydyn ni wedi bod allan yn cwrdd â darparwyr! 🏠
Y mis diwethaf, mae Manon a Claire o’n tîm Rhanddeiliaid ac Ymgysylltu wedi bod yn teithio ar draws Cymru i gwrdd â darparwyr llety mewn 4 fforwm twristiaeth Croeso Cymru a digwyddiadau’r Professional Association of Self Caterers (PASC) yng Ngogledd a Gorllewin Cymru.
Maen nhw wedi bod yn siarad am beth mae cofrestru’n ei olygu i ddarparwyr, sut i gofrestru a’r cymorth sydd ar gael.
Darllenwch y stori hon a llawer mwy yn ein cylchlythyr mis Hydref, a thanysgrifiwch i gael rhifynnau’r dyfodol:https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CY/bulletins/430ef7a

24/10/2026

Os ydych chi'n cymryd archebion trwy blatfform, e.e. Booking.com, Airbnb, neu Expedia, holwch neu edrychwch i weld pa newidiadau maen nhw'n eu gwneud i'ch helpu i roi cyfrif am Ardoll Ymwelwyr yng Nghaerdydd.
Os ydych chi'n cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, dylech fod wedi dechrau rhoi cyfrif am yr Ardoll Ymwelwyr ar archebion newydd a newidiadau i archebion ar gyfer arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.

Mae cofrestru llety ymwelwyr ac Ardoll Ymwelwyr yn ddau beth ar wahân. Rhaid i chi gofrestru gydag ACC os yw’ch cyngor y...
19/10/2026

Mae cofrestru llety ymwelwyr ac Ardoll Ymwelwyr yn ddau beth ar wahân.
Rhaid i chi gofrestru gydag ACC os yw’ch cyngor yn dewis cyflwyno’r ardoll neu beidio.
Cofrestrwch am ddim erbyn 31 Mawrth 2027: https://www.llyw.cymru/cofrestru-llety-ymwelwyr-trosolwg

Os ydych chi’n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, dylech chi fod yn cadw cofnodion o archebion am ar...
16/10/2026

Os ydych chi’n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghaerdydd, dylech chi fod yn cadw cofnodion o archebion am arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen, i'ch helpu i rhoi cyfrif am Ardoll Ymwelwyr. Ar gyfer pob archeb, cofnodwch ddyddiad yr arhosiad, nifer yr ymwelwyr a nifer y nosweithiau.
Gwiriwch sut i gadw cofnodion da: https://www.llyw.cymru/yr-ardoll-ymwelwyr-ddarparwyr-llety-camau/cofnodion-da

Ydych chi'n rhestru eich cartref neu eich ystafell sbâr ar-lein ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghaerdydd? Mae Ardoll Y...
13/10/2026

Ydych chi'n rhestru eich cartref neu eich ystafell sbâr ar-lein ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghaerdydd? Mae Ardoll Ymwelwyr Caerdydd yn berthnasol i chi hefyd – hyd yn oed os mai dim ond o bryd i’w gilydd y byddwch chi’n cymryd archebion.
Rhaid i chi roi cyfrif am yr ardoll ar archebion newydd, a newidiadau i archebion sydd gennych eisoes am arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud: https://www.llyw.cymru/yr-ardoll-ymwelwyr-ddarparwyr-llety-camau

11/10/2026

Ydych chi'n rhestru eich cartref neu eich ystafell sbâr ar-lein ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghaerdydd? Mae Ardoll Ymwelwyr Caerdydd yn berthnasol i chi hefyd – hyd yn oed os mai dim ond o bryd i’w gilydd y byddwch chi’n cymryd archebion.
Rhaid i chi roi cyfrif am yr ardoll ar archebion newydd, a newidiadau i archebion sydd gennych eisoes am arosiadau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud: https://www.llyw.cymru/yr-ardoll-ymwelwyr-ddarparwyr-llety-camau

Address

Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108
Merthyr Tydfil
CF477DL

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Awdurdod Cyllid Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Nearby government services