Maethu Cymru Abertawe

Call Directions Website Contact the organisation

Maethu Cymru Abertawe Ni yw Maethu Cymru Abertawe – un o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n rhan o Maethu Cymru.

Maethu yn Abertawe - cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol. Ein prif flaenoriaeth yw creu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned. Gellir rhwystro pobl sy'n postio gwybodaeth niweidiol, anghywir neu gamarweiniol, sbam neu sy'n trolio'n sarhaus. Gallwch ddod o hyd i'n tudalen Facebook Cymraeg yn www.facebook.com/fosterwalesswansea

Ydych chi’n ystyried maethu, yn chwilfrydig am y broses neu’n dymuno cael sgwrs gyfeillgar? Mae ein tîm maethu yma i hel...
10/11/2026

Ydych chi’n ystyried maethu, yn chwilfrydig am y broses neu’n dymuno cael sgwrs gyfeillgar? Mae ein tîm maethu yma i helpu. Galwch heibio am sgwrs anffurfiol. Ni fydd unrhyw bwysau nac ymrwymiad – dim ond atebion eglur a chefnogaeth gynnes. 💜💜💜

Os na allwch ddod, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected] neu drwy ffonio 0300 555 0111 a byddwn yn falch o ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am faethu.

💙O ferch gofalwyr maeth i ofalwr maeth y dyfodol 💙Pan oedd Abbie yn 13 oed, daeth ei rhieni’n ofalwyr maeth. Er ei bod h...
09/11/2026

💙O ferch gofalwyr maeth i ofalwr maeth y dyfodol 💙

Pan oedd Abbie yn 13 oed, daeth ei rhieni’n ofalwyr maeth. Er ei bod hi'n nerfus i ddechrau, daeth maethu cyn bo hir yn rhan arferol o fywyd teuluol gan helpu i greu'r math o berson yw Abbie heddiw. Nawr, ar ôl tyfu i fyny mewn teulu maeth, mae Abbie a'i chariad yn cymryd y cam cyffrous i ddod yn ofalwyr maeth eu hunain.

Yn ein hastudiaeth achos ddiweddaraf, mae Abbie yn rhannu sut yr oedd maethu wedi dysgu empathi, tosturi a dealltwriaeth iddi, heriau ffarwelio a pham roedd gweld y gwahaniaeth a wnaeth ei rhieni wedi'i hysbrydoli i ddilyn yn ôl eu traed.

Mae ei stori yn ffordd bwerus o'n hatgoffa nad bywydau plant a phobl ifanc yn unig sy’n cael eu newid gan faethu. Gall gael effaith barhaol ar y teulu cyfan ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i wneud gwahaniaeth.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu?

Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu, hoffem glywed gennych. Cysylltwch â Maethu Cymru Abertawe am sgwrs gyfeillgar, heb rwymedigaeth.

📞 0300 555 0111
🌐abertawe.maethucymru.llyw.cymru

Darganfyddwch sut mae tyfu i fyny mewn teulu sy’n maethu wedi dylanwadu ar Abbie, gan feithrin empathi, hyder ac awch ynddi am helpu eraill.

Ydych chi'n ystyried maethu? Ydych chi'n awyddus i wybod mwy? Os felly, ymunwch â Maethu Cymru Abertawe ar gyfer digwydd...
08/11/2026

Ydych chi'n ystyried maethu? Ydych chi'n awyddus i wybod mwy?

Os felly, ymunwch â Maethu Cymru Abertawe ar gyfer digwyddiad ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am faethu – a’r cyfan o gysur eich cartref eich hun.

Cynhelir y digwyddiad nos Iau 19 Tachwedd, 6-7pm ar Microsoft Teams.

Yn ystod y digwyddiad gwybodaeth rhithwir, gallwch ddysgu mwy am faethu, yr hyn sy'n rhan o'r broses, a siarad â gofalwyr maeth ac aelodau Tîm Maethu Cymru Abertawe. Yn fwy nag erioed, mae angen teuluoedd maethu newydd arnom sydd ag ystafelloedd gwely sbâr a'r hyn y mae ei angen i newid bywydau plant a phobl ifanc lleol.

I gadw lle ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch [email protected] gan ddarparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost. Neu, ffoniwch (01792) 636103 a darparwch yr wybodaeth hon. Yna, byddwn yn anfon dolen atoch ar gyfer ein digwyddiad gwybodaeth rhithwir.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi mewn modd rhithwir ac ateb eich cwestiynau am faethu! Peidiwch ag anghofio’ch paned!

Os na allwch ddod i'r digwyddiad rhithwir ond hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i: www.abertawe.maethucymru.gov.cymru

Yng ngwasanaeth Maethu Cymru Abertawe, nid yw cefnogaeth yn dod i ben ar ôl i chi ddod yn ofalwr maeth. Dros y tair blyn...
01/11/2026

Yng ngwasanaeth Maethu Cymru Abertawe, nid yw cefnogaeth yn dod i ben ar ôl i chi ddod yn ofalwr maeth.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae ein gweithgareddau a ariannwyd gan COAST wedi helpu i greu cannoedd o gyfleoedd i ofalwyr maeth, eu plant eu hunain a'r plant y maent yn gofalu amdanynt ddod at ei gilydd, creu atgofion, meithrin cyfeillgarwch a theimlo'n rhan o rywbeth mwy.

O ddiwrnodau gweithgareddau teuluol a rhaglenni yn ystod y gwyliau i gyfleoedd i blant gwrdd ag eraill sy'n deall eu profiadau, mae'r gweithgareddau hyn yn gwneud llawer mwy na darparu diwrnodau difyr mas yn unig. Maent yn helpu i gryfhau perthnasoedd teuluol, lleihau unigedd, datblygu hyder, cefnogi lles emosiynol a chreu ymdeimlad gwirioneddol o berthyn ar draws ein cymuned faethu.

Mae ein gofalwyr maeth yn dweud wrthym fod y gweithgareddau hyn yn amhrisiadwy, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. Maent yn darparu strwythur, yn creu profiadau cadarnhaol a rennir i blant maeth a phlant geni ac yn rhoi cyfle i ofalwyr gysylltu ag eraill sy'n deall taith unigryw o faethu.

Fel meddai un gofalwr,

"Mae'r plant yn dwlu ar ddod at ei gilydd gyda grŵp Maethu Cymru Abertawe, ac rwy'n teimlo eu bod mewn lle ac amgylchedd diogel ac mae fel un teulu mawr."

Rydym yn cynnig cymaint mwy na gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn yn unig. Rydym yn darparu boreau coffi wythnosol, grwpiau cymorth misol, partïon ar gyfer y Pasg a'r Nadolig, digwyddiad gwerthfawrogi gofalwyr maeth blynyddol, cyfleoedd ymgynghori, cynllun gwobrwyo cerrig milltir gofalwyr, cynllun cyfeirio ffrind a llawer, llawer mwy.

Rydym yn hynod falch o'r holl gefnogaeth, y gweithgareddau a'r profiadau rydym yn eu cynnig i'n teuluoedd maethu drwy gydol y flwyddyn. Cadw gofalwyr maeth yw hanner y frwydr – y nod yn y pen draw yw sicrhau bod pob teulu’n teimlo ei fod yn gysylltiedig, ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi.

Oes gennych ddiddordeb mewn maethu?

Os ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut y gallai maethu gyd-fynd â'ch bywyd teuluol, rydyn ni yma am sgwrs gyfeillgar, heb rwymedigaeth.

📞 0300 555 0111
🌐 abertawe.maethucymru.llyw.cymru

🌟Sut beth yw bod yn blentyn gofalwr maeth? 🌟Yn ein hastudiaeth achos ddiweddaraf, mae Olivia yn rhannu ei phrofiad o fod...
30/10/2026

🌟Sut beth yw bod yn blentyn gofalwr maeth? 🌟

Yn ein hastudiaeth achos ddiweddaraf, mae Olivia yn rhannu ei phrofiad o fod yn rhan o deulu sy'n maethu a sut mae croesawu plant i'w chartref wedi'i helpu i feithrin hyder, datblygu mwy o ddealltwriaeth a gwneud cyfeillgarwch parhaol.

Flwyddyn ar ôl dechrau taith faethu ei theulu, mae Olivia yn disgrifio'r profiad fel un "gwych, bendigedig, calonogol ac anhygoel" ac yn dweud y byddai'n "argymell maethu i deuluoedd eraill 100%”

O gwrdd â phobl ifanc eraill mewn digwyddiadau maethu i weld â'i llygaid ei hun y gwahaniaeth y gall cartref diogel a gofalgar ei wneud, mae stori Olivia yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall maethu ei chael ar y teulu cyfan.

Oes gennych ddiddordeb mewn maethu?

Os ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut y gallai maethu gyd-fynd â'ch bywyd teuluol, rydyn ni yma am sgwrs gyfeillgar, heb rwymedigaeth. 💙

📞0300 555 0111
🌐abertawe.maethucymru.llyw.cymru

Darllenwch stori Olivia fel plentyn mewn teulu sy’n maethu a darganfod sut roedd maethu wedi ei helpu i dyfu, dysgu a gwneud ffrindiau.

Heddiw, aeth tîm Foster Wales Swansea i glywed Sam Gardner yn siarad am ei brofiad o dyfu i fyny mewn gofal. Diolch, Sam...
28/10/2026

Heddiw, aeth tîm Foster Wales Swansea i glywed Sam Gardner yn siarad am ei brofiad o dyfu i fyny mewn gofal.

Diolch, Sam, am rannu dy stori mor agored. Wrth clywed o bobl sydd wedi cael profiad o’r system ofal yn ein helpu ni i ddeall beth wnaeth wahaniaeth iddyn nhw, a lle gallai pethau fod wedi bod yn well.

Mae’r profiadau hyn yn ein helpu i lunio ein gwasanaeth maethu, dysgu beth allwn ni ei wneud yn well a gwella’r gefnogaeth rydyn ni’n ei rhoi i blant, pobl ifanc a gofalwyr maeth. 💜💜

Ydych chi wedi bod yn ystyried maethu?💜📍Dewch i'n gweld yn Ysbyty Treforys i ddysgu mwy a gofyn unrhyw gwestiynau sydd g...
20/10/2026

Ydych chi wedi bod yn ystyried maethu?💜📍
Dewch i'n gweld yn Ysbyty Treforys i ddysgu mwy a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am faethu!

Allech chi faethu wrth weithio'n amser llawn? Roedd Alex yn meddwl mai 'na' oedd yr ateb ... nes iddo brofi ei hun yn an...
19/10/2026

Allech chi faethu wrth weithio'n amser llawn? Roedd Alex yn meddwl mai 'na' oedd yr ateb ... nes iddo brofi ei hun yn anghywir. 💙

Fel dyn sengl sy'n gweithio'n amser llawn ac yn hyfforddi ar gyfer treiathlon, doedd Alex ddim yn siŵr y byddai maethu'n cyd-fynd â'i ffordd o fyw brysur. Heddiw, mae'n gofalu am dri bachgen yn eu harddegau ac mae'n dweud bod maethu wedi dod yn un o'r rhannau mwyaf gwerth chweil o'i fywyd.

O ddechrau gyda gofal seibiant i ddarparu sefydlogrwydd, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc ffynnu, mae stori Alex yn dangos nad oes y fath beth â gofalwr maeth "perffaith". P'un a ydych yn sengl, yn gweithio'n amser llawn, yn magu teulu neu'n byw ar eich pen eich hun, gall fod gennych yr union beth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc.

Darllenwch stori galonogol Alex ar wefan Maethu Cymru Abertawe a darganfyddwch sut y gall maethu gyd-fynd â gwahanol ffyrdd o fyw wrth wneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau plant a phobl ifanc lleol.

👉 Ydych chi'n meddwl nad yw maethu'n rhywbeth ar eich cyfer chi? Meddyliwch eto. Ewch i'n gwefan i ddarllen stori lawn Alex a darganfod sut y gallech chi ddechrau eich taith faethu eich hun heddiw. 💙

🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru
📞 0300 555 0111

Mae'r gofalwr maeth sengl Alex Simpson yn helpu tri bachgen yn eu harddegau i ffynnu wrth weithio'n amser llawn. Darllenwch ei daith faethu galonogol.

Ydych chi wedi meddwl tybed a allai maethu weithio i'ch teulu chi, yn enwedig os oes gennych blant sy'n byw gartref?Dydy...
18/10/2026

Ydych chi wedi meddwl tybed a allai maethu weithio i'ch teulu chi, yn enwedig os oes gennych blant sy'n byw gartref?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Un o'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn amlaf i ni yw sut y gallai maethu effeithio ar fywyd presennol y teulu.

Y newyddion da yw bod gan fwy na hanner ein cartrefi maethu (54%) blant eu hunain sy'n byw gartref. Mae llawer yn dweud wrthym fod maethu wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r teulu cyfan, gan helpu eu plant i ddatblygu tosturi, gwytnwch a gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl eraill.

Gall bod yn rhan o deulu maeth annog pobl ifanc i ddod yn fwy amyneddgar a chefnogol a derbyn gwahanol deithiau bywyd, wrth greu cyfleoedd hefyd i wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol plentyn.

Os hoffech ddysgu mwy am faethu a sut y gallai gyd-fynd â’ch bywyd teuluol, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs anffurfiol â chi.

Ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch i Faethu Cymru Abertawe. 💙

Mae angen cartrefi lleol ar blant lleol.Mae angen gofalwyr maeth yn awr ar blant a phobl ifanc yn Abertawe a all eu help...
17/10/2026

Mae angen cartrefi lleol ar blant lleol.

Mae angen gofalwyr maeth yn awr ar blant a phobl ifanc yn Abertawe a all eu helpu i gadw mewn cysylltiad â'u hysgolion, eu ffrindiau a'u cymunedau.

Trwy faethu’n lleol, gallwch helpu plentyn i aros yn agos i bopeth sy'n gyfarwydd iddo yn ystod cyfnod anodd.

Allech chi gynnig sefydlogrwydd, gofal ac ymdeimlad o berthyn?

Siaradwch â'n tîm heddiw am sgwrs anffurfiol neu ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

📞 0300 555 0111
🌐 www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru

💙

Address

Neuadd Y Ddinas
Swansea
SA14PE

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Maethu Cymru Abertawe posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Maethu Cymru Abertawe:

Shortcuts

Share

Nearby government services