21/10/2026
On this day, at this time, 60 years ago, a tragedy beyond words struck the village of Aberfan. The unstable coal tip on the mountainside above the village gave way, engulfing Pantglas Junior School and nearby homes. 116 children and 28 adults lost their lives that morning.
Today, we remember those who lost their lives, and pay tribute to the families, the survivors, the rescuers, and the village of Aberfan as a whole.
The legacy of Aberfan is not confined to history. Today, communities all around Wales live alongside these bleak remnants of our industrial past. Over 360 of these disused coal tips fall into the Welsh Government’s higher-risk categories, requiring more frequent safety inspections.
It is imperative that these tips are properly monitored and made safe wherever necessary, and that nothing like this can ever happen again. I have added my name to a Senedd Statement of Opinion marking the anniversary, recognising the importance of remembering Aberfan and calling on both governments to work together to ensure that communities living alongside disused coal tips are kept safe.
We will never forget Aberfan.
***
Ar y diwrnod hwn, yr union adeg hon, 60 mlynedd yn ôl, cafodd pentref Aberfan ei daro gan drychineb na ellir ei disgrifio mewn geiriau. Ildiodd y domen lo ansefydlog ar ochr y mynydd uwchben y pentref, gan lyncu Ysgol Pantglas a chartrefi cyfagos. Collodd 116 o blant a 28 o oedolion eu bywydau y bore hwnnw.
Heddiw, cofiwn y rhai a gollodd eu bywydau, a thalwn deyrnged i’r teuluoedd, y goroeswyr, yr achubwyr a phentref Aberfan yn ei gyfanrwydd.
Nid yw gwaddol Aberfan yn perthyn i hanes yn unig. Heddiw, mae cymunedau ledled Cymru yn byw ochr yn ochr â’r olion llwm hyn o’n gorffennol diwydiannol. Mae dros 360 o’r tomennu glo segur hyn yng nghategorïau risg uchel Lywodraeth Cymru, gan olygu bod angen cynnal arolygiadau diogelwch arnynt yn fwy aml.
Mae’n hollbwysig bod y tomennu hyn yn cael eu monitro’n briodol a’u gwneud yn ddiogel lle bynnag y bo angen, a bod dim byd tebyg yn digwydd byth eto. Rwyf wedi ychwanegu fy enw at Ddatganiad o Farn y Senedd i nodi'r coffâd, gan gydnabod pwysigrwydd cofio Aberfan a galw ar y ddwy lywodraeth i gydweithio er mwyn sicrhau bod cymunedau sy’n byw ochr yn ochr â thomennu glo segur yn cael eu cadw’n ddiogel.
Ni fyddwn byth yn anghofio Aberfan.