04/05/2026
🌟 Celebrating Talent in the Kitchen! 🌟
A big well done to Leon Lewis and Ryan Williams, who have been busy creating these delicious homemade chocolate cakes. Their hard work and creativity really shine through in every slice!
And according to Ryan… they tasted every bit as good as they looked! 😄🍰
Fantastic effort both — keep up the amazing work!
🌟 Dathlu Talent yn y Gegin! 🌟
Da iawn i Leon Lewis a Ryan Williams, sydd wedi bod yn brysur yn creu'r cacennau siocled blasus hyn. Mae eu gwaith caled a'u creadigrwydd yn disgleirio ym mhob tafell!
Ac yn ôl Ryan... roedden nhw'n blasu cystal ag yr oedden nhw'n edrych! 😄🍰
Ymdrech wych, chi’ch dau - daliwch ati!
25/04/2026
Richard & Paul – Travelling with Confidence Through Shared Lives
Before joining Shared Lives, we did very little travelling. Anxiety and uncertainty often held us back, and we didn’t feel confident enough to explore new places.
Since being in Shared Lives, and with the support and encouragement of our carer Tina, everything has changed. We’ve discovered that we love travelling, and our confidence has grown more than we ever expected.
Over the last couple of years, we’ve enjoyed magical trips to Lapland, and recently we tried something completely new: a beach holiday in Bulgaria. At first, we weren’t sure, but we ended up loving it so much that we now hope to go on another amazing beach holiday for our big birthday. We’ve also had great breaks in Eastbourne and Butlins, making memories full of fun, fresh air, and laughter.
Shared Lives has opened the door to new adventures, new confidence, and a world of opportunities one trip at a time.
*************************
Richard a Paul – Teithio’n hyderus drwy Cysylltu Bywydau
Cyn ymuno â’r cynllun Cysylltu Bywydau, gwnaethon ni ychydig iawn o deithio. Roedd pryder ac ansicrwydd yn aml yn ein dal ni’n ôl, ac nid oedden ni’n teimlo'n ddigon hyderus i archwilio lleoedd newydd.
Ers bod yn rhan o’r cynllun Cysylltu Bywydau, a gyda chymorth ac anogaeth ein gofalwr Tina, mae popeth wedi newid. Rydyn ni wedi darganfod ein bod ni wrth ein bodd yn teithio, ac rydyn ni wedi magu hyder y tu hwnt i’r disgwyl.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi mwynhau teithiau hudolus i Lapland ac, yn ddiweddar fe wnaethon ni roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, sef gwyliau traeth ym Mwlgaria. Ar y dechrau, nid oedden ni’n siŵr, ond fe wnaethon ni fwynhau cymaint, rydyn ni bellach yn gobeithio mynd ar wyliau traeth anhygoel arall ar gyfer ein pen-blwydd mawr. Rydyn ni hefyd wedi cael seibiannau gwych yn Eastbourne a Butlins, gan greu atgofion llawn hwyl, awyr iach, a chwerthin.
Mae Cysylltu Bywydau wedi agor y drws i anturiaethau newydd, hyder newydd, a byd o gyfleoedd un daith ar y tro.
15/04/2026
🌟 A Long Awaited Dream Come True for Josh! 🌟
This week, Josh Morgan had the incredible opportunity to try indoor snowboarding — something he has been eager to experience for a long time.
Josh travelled all the way to Manchester with one of his Shared Lives family members Amir to make it happen, and it was absolutely worth the journey. He enjoyed every moment on the slopes and made the most of this fantastic experience.
🌟 Gwireddu breuddwyd i Josh! 🌟
Yr wythnos hon, cafodd Josh Morgan gyfle anhygoel i roi cynnig ar eirafyrddio dan do – rhywbeth y mae wedi bod yn awyddus i'w brofi ers amser maith.
Fe wnaeth Josh deithio'r holl ffordd i Fanceinion gydag aelod o'i deulu Cysylltu Bywydau, Amir, i wireddu ei freuddwyd – ac roedd y daith yn un werth chweil yn bendant. Fe wnaeth e fwynhau pob eiliad ar y llethrau a manteisio i'r eithaf ar y profiad gwych hwn.
09/04/2026
The photos say it all — a night full of fun, laughter, singing and dancing as everyone came together to celebrate Zoe’s birthday. 🎉💛
A huge well done to Julia, who not only organised such a lovely party for Zoe, but also invited others and their families to join in. What a brilliant example of how our Shared Lives community brings people together, creates real connections, and makes memories that mean so much.
Here’s to more nights filled with joy, friendship and togetherness! 🥳💃🕺
**Could You Be a Shared Lives Carer?**
Shared Lives South East Wales is looking for compassionate individuals to join our team of carers. We work in partnership with Caerphilly, Newport, Merthyr Tydfil, Monmouthshire, Blaenau Gwent, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, and Aneurin Bevan University Health Board.
Are you a positive person who could make a difference in someone’s life? Could you share your home, family, and community life?
**Interested? Contact us to find out more:**
Phone: 01443 864784
Email: [email protected]
www.caerphilly.gov.uk/sharedlives
Mae'r lluniau yn dweud y cyfan – noson llawn hwyl, chwerthin, canu a dawnsio wrth i bawb ddod at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd Zoe. 🎉💛
Da iawn i Julia, sydd nid yn unig wedi trefnu parti mor hyfryd i Zoe, ond hefyd wedi gwahodd eraill a'u teuluoedd i ddathlu. Am enghraifft wych o sut mae ein cymuned Cysylltu Bywydau yn dod â phobl at ei gilydd, yn creu cysylltiadau go iawn, ac yn gwneud atgofion sy'n golygu cymaint.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at ragor o nosweithiau llawn llawenydd, cyfeillgarwch ac agosrwydd! 🥳💃🕺
**Allech chi fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?**
Cysylltu Bywydau De Ddwyrain Cymru yn chwilio am unigolion tosturiol i ymuno â'n tîm o ofalwyr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ydych chi’n berson positif a allai wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun? Allech chi rannu agweddau o’ch cartref, eich teulu a’ch bywyd cymunedol?
Diddordeb? Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth:
Ffôn: 01443 864784
05/04/2026
Maria was recently supported by her long-term carer Sharon to enjoy her very first cruise, and what an experience it was! 🚢💙
Despite some challenging weather at sea, Sharon and Maria made the very best of their journey together.
They were able to explore the beautiful ports of Arrecife (Spain), Funchal (Portugal) and Tenerife, enjoying new sights, warm welcomes, and plenty of memorable moments along the way.
👏 A huge well done to Sharon for her wonderful support, and to Maria for embracing her first cruise with such enthusiasm!
At Shared Lives, we love seeing carers and the people they support experiencing new things together — building confidence, independence, and lifelong memories. 💜
***************************************************
Yn ddiweddar, cafodd Maria gymorth gan ei gofalwr hirdymor Sharon i fwynhau ei gwyliau mordeithio cyntaf, ac am brofiad! 🚢💙
Er gwaethaf rhywfaint o dywydd heriol ar y môr, fe wnaeth Sharon a Maria fwynhau'r daith gyda'i gilydd.
Roedden nhw'n gallu archwilio porthladdoedd hardd Arrecife (Sbaen), Funchal (Portiwgal) a Tenerife, gan fwynhau golygfeydd newydd, croeso cynnes, a llawer o eiliadau cofiadwy ar hyd y ffordd.
👏 Da iawn i Sharon am ei chymorth gwych, ac i Maria am groesawu ei gwyliau mordeithio cyntaf gyda chymaint o frwdfrydedd!
Yn y cynllun Cysylltu Bywydau, rydyn ni wrth ein bodd yn gweld gofalwyr a'r bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo yn profi pethau newydd gyda'i gilydd, gan fagu hyder, annibyniaeth, ac atgofion gydol oes. 💜
03/04/2026
🌟 A Wonderful Easter Achievement! 🌟
A huge congratulations to Eirwen, whose beautifully crafted Easter creation — baked entirely by herself — has earned her a prestigious First Place award in College ! 🏆✨
Her hard work, creativity, and talent have also secured her a £20 Gift, making this achievement even more special.
Well done, Eirwen — a fantastic accomplishment and so well deserved! 🌸🍰
********************************************************
🌟 Cyflawniad gwych adeg y Pasg! 🌟
Llongyfarchiadau enfawr i Eirwen! Mae ei chreadigaeth hyfryd ar gyfer y Pasg – wedi'i phobi'n gyfan gwbl ganddi hi – wedi ennill y wobr gyntaf yn y Coleg! 🏆✨
Hefyd, mae ei gwaith caled, ei chreadigrwydd a'i thalent wedi sicrhau rhodd gwerth £20, gan wneud y cyflawniad hwn hyd yn oed yn fwy arbennig.
Da iawn, Eirwen – cyflawniad gwych ac mor haeddiannol! 🌸🍰
01/04/2026
✨ A Dream Come True for Walter! ✨
Walter and his Shared Lives carer have just returned from the trip of a lifetime — all the way to Egypt to see the pyramids! 🏜️🐪
Walter has had a lifelong passion for ancient Egypt, and visiting the pyramids has been something he’s dreamed of for years. With the support of his incredible Shared Lives carer, that dream has finally become a reality. 🌟
These are the moments that remind us what Shared Lives is all about — supporting people to live the lives they choose, explore the things they love, and experience the world in ways that bring them joy.
Swipe to see the amazing photos from their adventure! 📸✨
✨ Gwireddu breuddwyd i Walter! ✨
Mae Walter, a'i ofalwr Cysylltu Bywydau, newydd ddychwelyd o daith unwaith mewn oes – yr holl ffordd i'r Aifft i weld y pyramidiau! 🏜️🐪
Mae Walter wedi bod yn frwd am yr hen Aifft gydol ei oes, ac mae cael ymweld â'r pyramidiau wedi bod yn freuddwyd iddo ers blynyddoedd. Gyda chymorth ei ofalwr Cysylltu Bywydau anhygoel, mae'r freuddwyd honno wedi'i gwireddu o'r diwedd. 🌟
Dyma'r adegau sy'n ein hatgoffa ni am ystyr y cynllun Cysylltu Bywydau – cynorthwyo pobl i fyw'r bywyd o'u dewis, archwilio'r pethau y maen nhw'n dwlu arnyn nhw, a phrofi'r byd mewn ffyrdd sy'n dod â llawenydd iddyn nhw.
Sweipiwch i weld y lluniau anhygoel o'r antur! 📸✨
26/03/2026
What a day to remember! 🌟
With support from his Shared Lives carer Rob, Ken was able to use his sessional hours to make a long‑held wish come true—attending a Six Nations rugby match in Cardiff! 🏉❤️
From catching the train alongside excited supporters, to enjoying food while watching waves of Welsh and Scottish fans pass by, the whole build‑up added to the magic.
But nothing topped stepping into a packed stadium, soaking up the electric atmosphere, singing along, cheering Wales on, and buzzing through the halftime show.
Ken headed home proudly wearing his new Wales top and scarf—already talking about how much he’d love to do it all again.
A truly wonderful day, made possible thanks to the support of his Shared Lives carer, Rob.
Am ddiwrnod i’w gofio! 🌟
Gyda chymorth ei ofalwr Cysylltu Bywydau, Rob, roedd Ken yn gallu defnyddio ei oriau sesiynol i wireddu breuddwyd hirsefydlog – mynd i gêm rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd! 🏉❤️
O ddal y trên ochr yn ochr â chefnogwyr llawn cyffro, i fwynhau bwyd wrth wylio grwpiau o gefnogwyr Cymru a’r Alban yn pasio heibio, fe wnaeth y cyfnod cyn y gêm ychwanegu at y hud.
Ond yr uchafbwynt oedd mynd i mewn i stadiwm dan ei sang, mwynhau’r awyrgylch trydanol, cydganu, annog tîm Cymru, a chael hwyl gyda’r sioe hanner amser.
Aeth Ken adref yn gwisgo ei grys a’i sgarff Cymru newydd yn falch – eisoes yn siarad am faint y byddai wrth ei fodd yn gwneud y cyfan eto.
Diwrnod gwirioneddol wych, wedi’i wneud yn bosibl diolch i gymorth ei ofalwr Cysylltu Bywydau, Rob.
24/03/2026
We are so proud of Vlad for passing his driving test FIRST TIME! What an achievement!
He’s worked so hard for this — paying for all his own lessons and even buying his own car through his own graft. And now he’s absolutely buzzing that he no longer needs to cycle to work every day! 😄🙌
Such a brilliant milestone and so well deserved.
Here’s to new independence, new adventures, and many safe miles ahead! 🥳🚘✨
Well done, Vlad — you’ve smashed it! 👏👏
Rydyn ni mor falch o Vlad am basio ei brawf gyrru ar ei GYNNIG CYNTAF! Am gyflawniad!
Mae e wedi gweithio mor galed am hyn - gan dalu am ei holl wersi ei hun a hyd yn oed prynu ei gar ei hun. A nawr mae wrth ei fodd nad oes angen iddo feicio i'r gwaith bob dydd mwyach! 😄🙌
Carreg filltir mor wych, ac mor haeddiannol.
Pob lwc gyda’r annibyniaeth newydd, anturiaethau newydd, a llawer o filltiroedd diogel o'ch blaen! 🥳🚘✨
Da iawn, Vlad - ardderchog! 👏👏
20/03/2026
Keiran had a wonderful, memorable experience facilitated by his long term carer, Lisa❤️. To celebrate his birthday, Lisa supported Keiran on a trip to Edinburgh to visit his birth grandparents. Keiran had not seen them since he was much younger and in foster care. During the visit, he was also able to meet his extended family for the first time, including his father’s brother and his cousins, and he even spoke with his other uncles who live in Australia.
While in Edinburgh, they also visited Edinburgh Castle. 🏰 The four-day trip was a fantastic experience, and Keiran was genuinely delighted to reconnect with his birth family.👨👩👧👦
Cafodd Keiran brofiad gwych, cofiadwy wedi'i hwyluso gan ei ofalwr hirdymor, Lisa ❤️. I ddathlu ei ben-blwydd, fe wnaeth Lisa gynorthwyo Keiran ar daith i Gaeredin i ymweld â'i fam-gu a’i dad-cu geni. Nid oedd Keiran wedi eu gweld nhw ers iddo fe fod yn llawer iau ac mewn gofal maeth. Yn ystod yr ymweliad, roedd hefyd yn gallu cwrdd â'i deulu estynedig am y tro cyntaf, gan gynnwys brawd ei dad a'i gefndryd, ac fe wnaeth hyd yn oed siarad â'i ewythrod eraill sy'n byw yn Awstralia.
Tra yng Nghaeredin, fe wnaethon nhw hefyd ymweld â Chastell Caeredin. 🏰Roedd y daith pedwar diwrnod yn brofiad gwych, ac roedd Keiran yn wirioneddol falch o ailgysylltu â'i deulu geni.👨👩👧👦