Tîm Plaid Cymru Canolbarth Môn

  • Home
  • Tîm Plaid Cymru Canolbarth Môn
Call Directions

Tîm Plaid Cymru Canolbarth Môn Hyrwyddwyd gan | Promoted by: Plaid Cymru Ynys Môn LL77 7DU

08/11/2026

🐮🐑Ges i bnawn bendigedig ddoe yn Ffair Aeaf Môn – gwartheg, defaid, cwmni da ac wedi cychwyn ar fy siopa Nadolig hefyd! 🎄🛍️

Os nad yda chi wedi bod yna eto, galwch draw heddiw! Mae llwyth o stondinau hyfryd i’w gweld, ac mae’r ceffylau a’r cŵn yno heddiw hefyd. 🐴🐶

➡️ Non DAFYDD

🐮🐑 I had a fantastic afternoon at the Môn Winter Fair yesterday – cattle, sheep, great company and even managed to make a start on my Christmas shopping! 🎄🛍️

If you haven’t been yet, pop along today! There are loads of lovely stalls to browse, and the horses and dogs will be there today too. 🐴🐶

06/11/2026

🎄🎶🎆🏉Noson dda heno yn Llangefni / Such a lovely evening tonight in Llangefni 🎄🎶🎆🏉
Diolch Oriel Môn Clwb Rygbi Llangefni Rugby Club a Côr Esceifiog

Ydych chi eisiau gweld y cynlluniau ar gyfer gwella Plas Arthur? / Would you like to see the plans for improvements to P...
04/11/2026

Ydych chi eisiau gweld y cynlluniau ar gyfer gwella Plas Arthur? / Would you like to see the plans for improvements to Plas Arthur?

Galwch draw heddiw i gael golwg ar y cynlluniau a rhannu eich barn a’ch safbwyntiau. Mae croeso i bawb yn yr arddangosfa agored tan 6pm heddiw.

⸻

Call in today to have a look at the plans and share your views and feedback. Everyone is welcome at the public drop-in exhibition until 6pm today.

Ein cynigion i ailddatblygu a gwella Canolfan Hamdden Plas Arthur

🚛 Gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu 🚜 Doing everything within our power to help 🚗Yn dilyn ambell gwyn am lorïau ym ...
03/11/2026

🚛 Gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu 🚜 Doing everything within our power to help 🚗

Yn dilyn ambell gwyn am lorïau ym Modffordd, ac arwyddion wedi’u gwneud â llaw yn ymddangos ar ochr y lôn yn gwrthwynebu un busnes penodol, fe aethon ni draw wythnos diwetha i weld y sefyllfa dros ein hunain.

Roedd hi’n debyg iawn mai nad lorïau Chwarel Gwyndy oedd llawer iawn o’r lorïau oedd yn defnyddio’r ffordd yma y diwrnod hwnw. Cefais gyfarfod yn y chwarel wythnos diwetha hefyd, ac maen nhw’n barod iawn i wrando a helpu lle bo angen. Ond y cwestiwn ydi, ai loriau o’r chwarel ydi’r broblem go iawn ym Modffordd? Hapus iawn i chi anfon ebost: [email protected]

Ar nodyn tebyg, mae’n newyddion da bod arwyddion fflachio i ddangos cyflymder cerbydau ym Modffordd ac yn Llynfaes ar eu ffordd. Diolch yn fawr i Gyngor plwyf Bodffordd am eu cefnogaeth unfrydol, ac i Gyngor Sir Ynys Môn am gytuno i’r mesur yma.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd wedi cytuno i ail-baentio’r llinellau gwyn wrth y gyffordd ym Modffordd, gan eu bod bron wedi diflannu’n llwyr.

Cefais gyfarfod buddiol hefyd wrth fynedfa fferm yn yr ardal, lle mae troi i mewn ac allan yn gallu bod yn beryglus. Mae’r cyngor wedi cytuno i dorri’r cloddiau a gosod arwydd i rybuddio gyrwyr am gerbydau fferm.

Mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar bryderon pobl leol ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac atal damweiniau. 🚗👍

⸻

Following a few complaints about lorries in Bodffordd, and homemade signs placed along the roadside specifically targeting one particular business, we went along last week to see the situation for ourselves.

It seemed that many of the lorries using this road on that day weren’t from Gwyndy Quarry. I also met with the quarry last week, and they’re very willing to listen and help where needed. But the question is, are lorries from the quarry really the main problem in Bodffordd? You’re very welcome to email me at [email protected].

On a related note, it’s good news that flashing speed signs are on their way for Bodffordd and Llynfaes. A big thank you to Bodffordd Community Council for their unanimous support, and to Isle of Anglesey County Council for agreeing to this measure.

Isle of Anglesey County Council has also agreed to repaint the white road markings at the junction in Bodffordd, as they have almost completely disappeared.

I also had a useful meeting at a farm entrance in the area, where turning in and out can be dangerous. The council has agreed to cut back the hedges and install a sign warning drivers about farm vehicles.

It’s important that we listen to local concerns and do everything we can to make our roads safer and prevent accidents. 🚗👍

Non Lewis Dafydd Dylan Rees Cyngor Sir Ynys Môn

02/11/2026

📮 Pryderon ynghylch oedi gyda’r post📮 Concerns regarding delays to postal deliveries

“Fel Cynghorwyr dros Llangefni a Chanolbarth Môn, rydym wedi derbyn nifer o bryderon gan drigolion lleol ynghylch oedi gyda’r post yn cyrraedd. Wythnos diwetha’, cawsom gyfarfod gyda’r Lead Customer Operations Manager yn swyddfa Royal Mail Llangefni i godi’r materion yma yn uniongyrchol.

“Yn ystod y cyfarfod, ymddiheurodd Royal Mail am y problemau diweddar gyda’r gwasanaeth a chydnabod bod prinder staff a lefelau uchel o salwch wedi effeithio ar berfformiad. Cawsom sicrwydd eu bod yn recriwtio staff newydd ac yn gweithio tuag at adfer y gwasanaeth i'w lefel ddisgwyliedig cyn gynted â phosibl.

“Cawsom hefyd sicrwydd fod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ohebiaeth bwysig, gan gynnwys llythyrau apwyntiadau ysbyty ac eitemau hanfodol eraill.

“Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ac yn parhau i godi unrhyw bryderon pellach ar ran trigolion.”

---

“As Councillors for Llangefni and Canolbarth Môn, we have received a number of concerns from local residents about delays in post being delivered.
Last week, we met with the Lead Customer Operations Manager at the Royal Mail office in Llangefni to raise these concerns directly.

“During the meeting, Royal Mail apologised for the recent service issues and acknowledged that staffing shortages and high levels of sickness absence have affected performance. We were assured that new staff are being recruited and that work is underway to restore service levels as quickly as possible.

“We were also assured that priority is being given to important correspondence, including hospital appointment letters and other essential mail.

“We will continue to monitor the situation closely and raise any further concerns on behalf of residents.”

Cllr Non Dafydd & Cllr Dylan Rees

Tîm Plaid Cymru Canolbarth Môn Plaid Cymru Cyngor Sir Ynys Môn Dylan Rees Non Lewis Dafydd Neuadd Goffa Bodwrog Memorial Hall talwrn_ynysmon All that is Wonderful about Llangefni. Bob dim sy'n rhyfeddol am Llangefni

30/10/2026

🏀🎨 Parc Lôn Las yn edrych yn wych!

Y Cynghorwyr Dylan Rees a Non Dafydd fuodd draw ddoe i weld drostyn nhw eu hunain y gwaith arbennig sy’n digwydd ym Mharc Lôn Las, ac roedd hi’n wych gweld ymdrechion pawb yn dwyn ffrwyth!

Mae plant a thrigolion lleol wedi dod at ei gilydd i helpu peintio’r parc, ac mae’r graffiti lliwgar yn edrych yn ffantastig. Does dim amheuaeth bellach ble mae Parc Lôn Las!

Non Dafydd: “Dwi’n falch o fod wedi gallu chwarae rhan fach yn y prosiect mawr yma. Fel aelod o Banel Heddlu a Throseddu, mi wnes i gyflwyno llythyr o gefnogaeth i’r Comisiynydd, ac mae’n braf iawn gweld bod y cyllid a sicrhawyd wedi helpu i wireddu’r prosiect.”

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith, y Cyngor Tref wrth gwrs, ac yn enwedig i Josie am ei brwdfrydedd a’i hymroddiad.

Am waith cymunedol gwych – da iawn bawb!

⸻

🏀🎨 Parc Lôn Las is looking fantastic!

Councillors Dylan Rees and Non Dafydd popped down yesterday to see for themselves the brilliant work taking place at Parc Lôn Las, and it was lovely to see everyone’s efforts coming together.

Children and local residents have joined forces to help paint the park, and the colourful graffiti looks absolutely fantastic. There’s certainly no mistaking where Parc Lôn Las is now!

Non Dafydd: “I’m really pleased to have played a small part in this much bigger project. As a member of the Police and Crime Panel, I submitted a letter of support to the Commissioner, and I’m delighted that funding has helped make this project possible.”

A big thank you to everyone who has contributed, the Town Council of course and especially to Josie for her enthusiasm and dedication.

Fantastic community spirit – well done everyone!

Am ddiwrnod o adloniant yn Amlwch ddydd Sadwrn gyda Ffermwyr Ifanc Môn!Fel Llywydd eleni, roedd yn bleser gweld Clwb Bod...
28/10/2026

Am ddiwrnod o adloniant yn Amlwch ddydd Sadwrn gyda Ffermwyr Ifanc Môn!

Fel Llywydd eleni, roedd yn bleser gweld Clwb Bodedern, wnaeth fy enwebu, yn perfformio mor wych ac yn cipio’r wobr am y mwyaf o bwyntiau, o un pwynt yn unig o flaen Rhosybol! Llongyfarchiadau i bob clwb am y safon a’r gefnogaeth i’w gilydd.

Roedd clywed y neuadd gyfan yn canu’r anthem genedlaethol, yn enwedig y genhedlaeth ifanc yn canu am ein gwlad a’n hiaith, yn arbennig iawn. ❤️

Dwi’n edrych ymlaen at ymweld â chlybiau Môn yn fuan. Pob lwc i bawb fydd yn cynrychioli Ynys Môn yn yr Eisteddfod Fawr ym Mhont-rhydfendigaid, a llongyfarchiadau i Gwenllian o Ddwyran ar ennill gwobr yr Aelod Hŷn gorau!

Diolch Owen Photography am y llun!

——-

What a fantastic day of entertainment in Amlwch on Saturday with Môn Young Farmers!

As President for this year, it was a pleasure to see Bodedern YFC, who nominated me, perform so brilliantly and win the most-points trophy by just one point ahead of Rhosybol! Congratulations to every club for the high standard and the wonderful support shown to one another.

Hearing the whole hall sing our national anthem, especially the younger generation singing passionately about our country and language, was truly special. ❤️

I’m looking forward to visiting Môn’s clubs soon. Good luck to everyone representing Ynys Môn at the National Eisteddfod in Pontrhydfendigaid, and congratulations to Gwenllian from Dwyran on winning the Best Senior Member award!

Thank you Owen Photography for the photo!

Ffermwyr Ifanc Môn Llangefni: Ffermwyr Ifanc

25/10/2026

Da iawn Clwb Llangefni 🐮🎤✨🎶⭐️💃📸

Braf gweld Cyngor Tref Llangefni - Llangefni Town Council wedi noddi Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Môn heddiw 👏 Nice to see ...
24/10/2026

Braf gweld Cyngor Tref Llangefni - Llangefni Town Council wedi noddi Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Môn heddiw 👏 Nice to see the Town Council’s support today at the Young Farmers Eisteddfod 👏

Address


Telephone

+447766169919

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Tîm Plaid Cymru Canolbarth Môn posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

  • Want your organization to be the top-listed government service?

Share