Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Call Directions Website

Parc Cenedlaethol Bannau  Brycheiniog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

🍂🍄 Mae tymor y Madarch ar ei anterth ym mis Tachwedd, felly gwnewch y mwyaf ohonno. Ewch allan a chwilio am ffwng ffanta...
02/11/2026

🍂🍄 Mae tymor y Madarch ar ei anterth ym mis Tachwedd, felly gwnewch y mwyaf ohonno. Ewch allan a chwilio am ffwng ffantastig!

Wrth archwilio ein Parc Cenedlaethol gyda'ch ffrindiau bach blewog, cadwch nhw'n ddiogel ac ar dennyn 🐕
01/11/2026

Wrth archwilio ein Parc Cenedlaethol gyda'ch ffrindiau bach blewog, cadwch nhw'n ddiogel ac ar dennyn 🐕

🕸️ 🐈‍⬛ 🍂 Yng Nghymru, ar yr 31ain o Hydref, rydym yn dathlu Calan Gaeaf – sef diwrnod cyntaf y gaeaf. 🎃 Yn aml cysylltir...
31/10/2026

🕸️ 🐈‍⬛ 🍂 Yng Nghymru, ar yr 31ain o Hydref, rydym yn dathlu Calan Gaeaf – sef diwrnod cyntaf y gaeaf.

🎃 Yn aml cysylltir Jac y Lantarn â Nos Galan Gaeaf, ond yn wreiddiol, gwnaed y lanterni o erfin! I gychwyn, fe’u gosodwyd tu fas oherwydd y gred y byddent yn arwain y meirw yn ôl i’r ddaear.

Fodd bynnag, gyda threigl amser, daeth yn gyffredin i gerfio wynebau brawychus i’r lanterni yn y gobaith o godi ofn ar ysbrydion drwg. Datblygodd y traddodiad i’r addurn cyffredin y gwelwn heddiw, heblaw bod y bwmpen yn cael ei defnyddio’n lle’r erfinen sy’n llawer anoddach ei cherfio!

🧛‍♀️Yn wreiddiol, roedd y rheswm am y gwisgoedd hefyd yn deillio o ofn. Gwisgwyd mygydau a chuddwisgoedd yn y gobaith na fyddai’r ysbrydion yn adnabod y person.

ℹ️ Cynorthwyydd Gwybodaeth -Canolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol, LibanusGraddfa 3 £26,427 – £27,274 Pro RataContract B...
30/10/2026

ℹ️ Cynorthwyydd Gwybodaeth -Canolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol, Libanus
Graddfa 3 £26,427 – £27,274 Pro Rata
Contract Blynyddol Parhaol
850 Awr Y Flwyddyn
Dyddiad Cau: 4 Tachwedd 2026❗
Dyddiad Cyfweliad: 10 Tachwedd 2026

🌳 Warden Ystâd Canolfannau Ymwelwyr
Graddfa 4 £27,709 - £29,071 Pro Rata
Contract Parhaol
37 Awr Yr Wythnos
Dyddiad Cau: 4 Tachwedd 2026❗
Dyddiad Cyfweliad : 10 Tachwedd 2026

📝 Swyddog Cynllunio
Graddfa 7 £35,570-£37,563
Contract Parhaol
37 Awr Y Wythnos
Dyddiad Cau: 16 Tachwedd 2026
Dyddiad Cyfweliadau: 25 Tachwedd 2026

🏦Treftadaeth/Uwch Swyddog Treftadaeth (Cadwraeth Adeiladau)
Gradd Gyrfa 7-10 £ 35,570 - £ 44,253
Contract Parhaol
37 Awr Y Wythnos (Hyblyg , Oriau Rhan - Amser Yn Cael Eu Hystyried)
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2026
Dyddiad Cyfweliad : 8 Rhagfyr 2026

https://bit.ly/4zwrAsN

Mae Bannau Brycheiniog yn lle o harddwch naturiol eithriadol, mae hefyd yn dirwedd weithiol, lle mae cymunedau'n byw ac ...
29/10/2026

Mae Bannau Brycheiniog yn lle o harddwch naturiol eithriadol, mae hefyd yn dirwedd weithiol, lle mae cymunedau'n byw ac yn gweithio ochr yn ochr â thir fferm cynhyrchiol, tir heriol a thirweddau syfrdanol o arwyddocâd ecolegol.

Trwy fod yn berchen ar eich effaith, cael eich paratoi a'ch hysbysu cyn i chi gychwyn, gallwch helpu i ddiogelu'r lle arbennig hwn wrth fwynhau ymweliad diogel, hygyrch a chofiadwy 💚 ⛰️

✨ Ym mis Tachwedd cymerwch eiliad i edrych i fyny ac ailddarganfod rhyfeddod awyr y nos ym Mannau Brycheiniog
28/10/2026

✨ Ym mis Tachwedd cymerwch eiliad i edrych i fyny ac ailddarganfod rhyfeddod awyr y nos ym Mannau Brycheiniog

📝 Swyddog Cynllunio Graddfa 7 £35,570-£37,563 Contract Parhaol 37 Awr Y Wythnos Dyddiad Cau: 16 Tachwedd 2026Dyddiad Cyf...
25/10/2026

📝 Swyddog Cynllunio
Graddfa 7 £35,570-£37,563
Contract Parhaol
37 Awr Y Wythnos
Dyddiad Cau: 16 Tachwedd 2026
Dyddiad Cyfweliadau: 25 Tachwedd 2026

ℹ️ Cynorthwyydd Gwybodaeth -Canolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol, Libanus
Graddfa 3 £26,427 – £27,274 Pro Rata
Contract Blynyddol Parhaol
850 Awr Y Flwyddyn
Dyddiad Cau: 4 Tachwedd 2026
Dyddiad Cyfweliad: 10 Tachwedd 2026

🌳 Warden Ystâd Canolfannau Ymwelwyr
Graddfa 4 £27,709 - £29,071 Pro Rata
Contract Parhaol
37 Awr Yr Wythnos
Dyddiad Cau: 4 Tachwedd 2026
Dyddiad Cyfweliad : 10 Tachwedd 2026

https://bit.ly/4zwrAsN

Gofalu am fywyd gwyllt yn yr hydref 🍂🕊️Gosodwch flychau adar yn eich gardd.🦇 Neu, yn lle hynny, rhowch flwch ystlumod yn...
23/10/2026

Gofalu am fywyd gwyllt yn yr hydref 🍂

🕊️Gosodwch flychau adar yn eich gardd.

🦇 Neu, yn lle hynny, rhowch flwch ystlumod yn eu lle! Mae’r rhain yn gweithio’n berffaith mewn gerddi neu ar doeon.

🪲🏨 Adeiladwch westy pryfed! Dyma’r tymor perffaith i wneud defnydd o’r holl ddeunyddiau naturiol sydd yn eich gardd! Byddwch greadigol gyda boncyffion, cerrig, pigyrnau, brigau bach sych a dail sydd wedi disgyn – a dewch i weld beth allwch greu.

🎃Peidiwch â gadael pwmpenni allan wedi i nos Galan Gaeaf ddod i ben! Wrth iddynt bydru, gallant effeithio’n wael ar ecosystemau bregus, gallant fod yn angheuol i fywyd gwyllt (megis draenogod) a gallant ddenu llygod ffyrnig yn ogystal â lledaenu heintiau.

🐞🌿Gadewch eich gardd yn (weddol) wyllt! Yn aml, mae paratoadau’r gaeaf yn cynnwys torri bob dim yn yr ardd yn ôl gymaint â phosib. Fodd bynnag, mae gadael ambell i hedyn, deiliach isel neu goesynnau gwag yn ffordd o ddarparu bwyd a lloches i ddigonedd o rywogaethau.

💛
22/10/2026

💛

Address

Plas Y Fynnon
Brecon
LD37HP

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share