Rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd ychwanegol o ymgysylltu â'n cymunedau. Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ein dilynwyr, am yr hyn sy'n digwydd yn eich ardal a rhoi cyngor ar atal troseddau i chi. Rydym yn gwybod hefyd y gallwch roi cymorth amhrisiadwy i ni pan fyddwn yn apelio am wybodaeth. Rydym am i'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fod yn lleoedd diogel i bawb sy'n eu defnyddio, felly gofynnwn i'n holl ddilynwyr ddilyn ein Canllawiau’r Gymuned. Rydym yn cadw'r hawl i guddio neu ddileu sylwadau neu flocio defnyddwyr sy'n torri'r Canllawiau’r Gymuned hyn. Er mwyn sicrhau bod ein sianeli’n lle diogel i bawb, rydym yn gofyn i unrhyw sy'n ymgysylltu â ni arnyn nhw i’w defnyddio nhw’n briodol a dangos cwrteisi, caredigrwydd a pharch tuag at bobl eraill. Cofiwch fod popeth rydych yn ei ddweud ar ein cyfrifon yn gyhoeddus. Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol am yr hyn rydych yn ei ddweud a'i bostio ar ein tudalennau. Ni ddylai sylwadau a wneir gan aelodau’r cyhoedd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
• gynnwys dolenni sbam na thwyllo pobl eraill.
• hyrwyddo gwahaniaethu neu fwlio.
• bod yn hiliol tuag at unrhyw berson neu gynnwys iaith hiliol.
• enwi unrhyw ddioddefwyr neu eu teuluoedd.
• bod yn ddifrïol tuag unrhyw berson.
• bod yn anweddus, sarhaus, bygythiol, enllibus neu’n gas.
• cynnwys unrhyw ddeunydd rhywiol cignoeth.
• cynnwys unrhyw ddeunydd treisgar.
• cynnwys unrhyw gyfathrebiadau maleisus.
• bod yn debygol o niweidio unrhyw achosion troseddol sydd ar waith.
• torri unrhyw delerau a osodwyd gan y darparwr cyfryngau cymdeithasol ei hun. Torri’r canllawiau:
• Rydym yn cadw'r hawl i benderfynu, ar ein disgresiwn, a ydy cyfraniadau i'n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn torri ein canllawiau.
• Rydym yn cadw'r hawl i guddio neu ddileu sylwadau ar ein sianeli, ynghyd ag atal defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio'r canllawiau hyn.
• Rydym yn cadw'r hawl i gopïo unrhyw sylwadau rydym yn eu hystyried yn briodol i'w hymchwilio gan ein bod yn teimlo ei bod yn angenrheidiol neu'n ofynnol at ddibenion cyfiawnder troseddol. Riportio:
Mae ein Hystafell Reoli yn monitro'r holl sianeli cyfryngau cymdeithasol 24/7. Gallwch roi gwybod am achosion nad ydynt yn argyfyngau trwy'r cyfrifon canlynol:
• Facebook Dyfed-Powys Police
• Facebook Heddlu Dyfed-Powys
• Twitter Heddlu Dyfed-Powys Police
Peidiwch â rhannu dolenni i ddeunydd anghyfreithlon mewn sylw cyhoeddus. Fel arall, gallwch hysbysu'n gwbl anhysbys at yr elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy fynd ar eu wefan - crimestoppers.org.uk
Os welwch chi rhywbeth rydych chi'n meddwl sy'n torri telerau ac amodau platfform cyfryngau cymdeithasol, dylech ei adrodd i'r platfform hwnnw. Os ydy trosedd ar waith neu os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser. Cewch fwy o wybodaeth yma - https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-dyfed-powys/ardaloedd/amdanom-ni/amdanom-ni/cyfryngau-cymdeithasol/
Defnyddio lluniau:
Mae lluniau o dan hawlfraint Heddlu Dyfed-Powys ac ni ddylid eu defnyddio heb ganiatâd Heddlu Dyfed-Powys.