Penmaenmawr Town Council

Directions Website Contact the organisation

Penmaenmawr Town Council Government organisation in Penmaenmawr

Remembrance Sunday 2026A huge thank you to everyone who attended the Remembrance Sunday services at St David’s Church, P...
09/11/2026

Remembrance Sunday 2026

A huge thank you to everyone who attended the Remembrance Sunday services at St David’s Church, Penmaenmawr, and St Gwynan’s Church, Dwygyfylchi.

It was wonderful to see such a fantastic turnout from both communities, coming together to pay their respects and remember those who gave their lives for our freedom.

Our sincere thanks also go to everyone involved in organising and supporting both services, helping to make these important occasions so special and meaningful.

Lest We Forget.

Sul y Cofio 2026

Diolch o galon i bawb a fynychodd wasanaethau Sul y Cofio yn Eglwys Dewi Sant, Penmaenmawr, ac Eglwys Sant Gwynan, Dwygyfylchi.

Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl o'r ddwy gymuned yn dod ynghyd i dalu teyrnged a chofio'r rhai a roddodd eu bywydau dros ein rhyddid.

Hoffem hefyd ddiolch yn ddiffuant i bawb a fu'n rhan o drefnu a chefnogi'r ddau wasanaeth, gan helpu i wneud yr achlysuron pwysig hyn mor arbennig ac ystyrlon.

Rhag inni anghofio.

04/11/2026
Sul y Cofio / Remembrance Sunday – Dydd Sul, 8 Tachwedd 2026 / Sunday, 8 November 2026Penmaenmawr Town Council invites r...
02/11/2026

Sul y Cofio / Remembrance Sunday – Dydd Sul, 8 Tachwedd 2026 / Sunday, 8 November 2026

Penmaenmawr Town Council invites residents and visitors to come together on Remembrance Sunday to remember those who lost their lives in war and conflict.

Penmaenmawr
9:30am – 10:15am – Service at St David’s Church.

10:25am – Parade from the church to the village War Memorial.

10:45am – Remembrance Service at the War Memorial.

Road Closure Notice: A temporary road closure will be in place in central Penmaenmawr to ensure the safety of everyone taking part in the parade and Remembrance Service. Motorists are asked to allow extra time and follow the signage in place.

Community Facilities and Refreshments

Maen Alaw Community Centre will open its toilets for residents and visitors attending the Remembrance event in Penmaenmawr.

Following the service, tea and coffee will be available upstairs at Penmaenmawr Community Centre, providing a warm and welcoming space for everyone to catch up, reflect and come together as a community.

We hope you can all join us.

Dwygyfylchi
10:45am – Remembrance Ceremony at the War Memorial on the green outside St Gwynan’s Church.

The ceremony will include a reading of the Kohima Epitaph by an Army veteran.

Following the ceremony at the War Memorial, a Remembrance-themed Communion Service will take place inside the church, led by Rev Berw Hughes.

Everyone is welcome to attend.

Mae Cyngor Tref Penmaenmawr yn gwahodd trigolion ac ymwelwyr i ddod ynghyd ar Sul y Cofio i goffáu’r rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro.

Penmaenmawr
9:30yb – 10:15yb – Gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant.

10:25yb – Gorymdaith o’r eglwys i Gofeb Ryfel y pentref.

10:45yb – Gwasanaeth Coffa wrth y Gofeb Ryfel.

Rhybudd Cau Ffordd: Bydd ffordd yn cael ei chau dros dro yng nghanol Penmaenmawr er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy’n cymryd rhan yn yr orymdaith a’r gwasanaeth coffa. Gofynnir i fodurwyr ganiatáu amser ychwanegol a dilyn yr arwyddion sydd ar waith.

Cyfleusterau Cymunedol a Lluniaeth

Bydd Canolfan Gymunedol Maen Alaw yn agor ei thoiledau i drigolion ac ymwelwyr sy’n mynychu digwyddiadau Sul y Cofio.

Yn dilyn y gwasanaeth, bydd te a choffi ar gael i fyny’r grisiau yng Nghanolfan Gymunedol Penmaenmawr, gan gynnig lle cynnes a chroesawgar i bawb gael sgwrs, myfyrio a dod ynghyd fel cymuned.

Gobeithiwn y gallwch oll ymuno â ni.

Dwygyfylchi
10:45yb – Seremoni Goffa wrth y Gofeb Ryfel ar y lawnt y tu allan i Eglwys Sant Gwynan.

Bydd y seremoni’n cynnwys darlleniad o Arysgrif Kohima gan gyn-filwr o’r Fyddin.

Yn dilyn y seremoni wrth y Gofeb Ryfel, cynhelir Gwasanaeth Cymun ar thema’r Cofio yn yr eglwys, dan arweiniad y Parchedig Berw Hughes.

Croeso cynnes i bawb.

https://penmaenmawr-tc.gov.wales/town-council-notices/sul-y-cofio-remembrance-sunday-dydd-sul-8-tachwedd-2026-sunday-8-november-2026

SGIP GYMUNEDOL – PENMAENMAWRDydd Sadwrn 10 Hydref 2026Maes Parcio Ffordd Fernbrook, Penmaenmawr9:00yb – 12:00yp (neu nes...
08/10/2026

SGIP GYMUNEDOL – PENMAENMAWR

Dydd Sadwrn 10 Hydref 2026
Maes Parcio Ffordd Fernbrook, Penmaenmawr
9:00yb – 12:00yp (neu nes bydd y sgip yn llawn)

Bydd sgip gymunedol ar gael i drigolion gael gwared ar eitemau diangen.

Ni chaniateir rhoi'r canlynol yn y sgip:

Oergelloedd a rhewgelloedd

Teiars

Gwastraff hylifol ac olewau

Poteli nwy

Tiwbiau fflwroleuol

Asbestos

Gwastraff bwyd a chynnyrch llaeth

Tuniau paent

Cemegion neu wastraff peryglus

Ni dderbynnir unrhyw eitemau cyn 9:00yb.

Am ragor o wybodaeth:
01492 623221
[email protected]

COMMUNITY SKIP – PENMAENMAWR

Saturday 10 October 2026
Fernbrook Road Car Park, Penmaenmawr
9:00am – 12:00 noon (or until full)

A community skip will be available for residents to dispose of unwanted items.

The following items are NOT permitted:

Fridges and freezers

Tyres

Liquid waste and waste oils

Gas bottles

Fluorescent tubes

Asbestos

Food waste and dairy products

Paint tins

Chemicals or hazardous waste

No items will be accepted before 9:00am.

For further information:
01492 623221
[email protected]

The next community skip will be available on Saturday 10th October 2026 at Fernbrook Road Car Park, Penmaenmawr, from 9am – 12 noon or until full. Please be aware that...

PREN I'W AILDDEFNYDDIO AR GAELMae Cyngor Tref Penmaenmawr wedi derbyn rhodd hael o bren o du mewn capel lleol sy’n cael ...
06/10/2026

PREN I'W AILDDEFNYDDIO AR GAEL

Mae Cyngor Tref Penmaenmawr wedi derbyn rhodd hael o bren o du mewn capel lleol sy’n cael ei ailddatblygu. Oherwydd y ffordd mae’r deunyddiau wedi’u gosod yn yr adeilad, ni fydd y paneli, y meinciau na’r drysau yn gyfan, ond bydd y pren yn addas ar gyfer prosiectau ail-ddefnyddio neu ailbwrpasu.

Bydd y datblygwyr yn llwytho ac yn danfon y pren i’r cyfeiriad a ddarperir. Ni chaniateir i unrhyw drydydd parti fynd ar y safle am resymau diogelwch.
Cyn i’r pren adael y safle, bydd y datblygwr yn ei archwilio i sicrhau nad oes unrhyw hoelion, sgriwiau neu osodiadau eraill yn ymwthio allan, ac i gadarnhau ei fod yn glir yn unol â’r arolwg asbestos.

Bydd angen cadarnhau man addas i ddanfon y pren fel y gellir ei ddadlwytho’n ddiogel.
Bydd y pren ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael unrhyw ran o’r pren i’w ailddefnyddio, cysylltwch â swyddfa’r Cyngor Tref erbyn diwedd dydd Mawrth nesaf, 13 Hydref, i drefnu danfoniad.

[email protected]

01492 623221

RECLAIMED TIMBER AVAILABLE

Penmaenmawr Town Council has received a generous donation of timber from the interior of a local chapel building being redeveloped. Panels, pews and doors will not be intact due to the nature of how they have been built in but will be suitable for repurposing projects.

The developers will load and deliver to address provided – no third parties to attend site for safety reasons
Prior to leaving the site, the timber will be inspected by the developer for any protruding fixings and confirmed as clear in accordance with the asbestos survey
Confirmation of a suitable drop off point is required so that materials can be unloaded safely
First come first served

If you are interested in having any of the wood for reuse, please contact the Town Council office by the end of next Tuesday (13th October) to arrange delivery.

[email protected]

01492 623221

https://penmaenmawr-tc.gov.wales/town-council-notices/pren-iw-ailddefnyddio-ar-gael-reclaimed-timber-available

Notice of Casual Vacancy
17/08/2026

Notice of Casual Vacancy

Rhybudd Cyhoeddus - Seddi Gwag Cyngor Tref Penmaenmawr (ward Pant Yr Afon) Rhoddir rhybudd trwy hyn fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod. Bydd etholiad yn...

🏍️ BIKERS ON THE BEACH – PENMAENMAWR 🏍️Sunday 16 August 2026 | 11am–5pm | Penmaenmawr PromenadeThis Sunday sees the firs...
14/08/2026

🏍️ BIKERS ON THE BEACH – PENMAENMAWR 🏍️

Sunday 16 August 2026 | 11am–5pm | Penmaenmawr Promenade

This Sunday sees the first Bikers on the Beach event in Penmaenmawr, brought together by Penmaenmawr Town Council and a group of dedicated local residents.

This is a static motorcycle show, giving everyone the chance to come down to the Promenade, take a closer look and appreciate some magnificent bikes — whether you’re a lifelong biker, an enthusiast, or simply fancy something different to do on a Sunday.

There’ll also be a small selection of stalls selling bike-related items, with The Beach Cafe and Tŷ Grill there to keep everyone fed and watered throughout the day.

So come along, have a wander around the bikes, grab something to eat and enjoy some time down on Penmaenmawr Promenade.

📍 Penmaenmawr Promenade
🕚 11am–5pm
📅 Sunday 16 August 2026
➡️ Access via Darbishire Road

☕ Please note: The Beach Cafe is cash only.

We hope to see plenty of you there for Penmaenmawr’s first Bikers on the Beach!

Diweddariad ar y gwaith adfer yn dilyn tân gwyllt Bwlch SychnantHeddiw, cynhaliwyd ail gyfarfod y Grŵp Cydlynu Adfer, a ...
24/07/2026

Diweddariad ar y gwaith adfer yn dilyn tân gwyllt Bwlch Sychnant

Heddiw, cynhaliwyd ail gyfarfod y Grŵp Cydlynu Adfer, a sefydlwyd yn dilyn y tân gwyllt sylweddol ar y mynydd uwchlaw Bwlch Sychnant.



Mae’r Grŵp wedi cytuno ar nifer o flaenoriaethau i gefnogi adferiad yr ardal dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Er bod llawer o waith i’w wneud o hyd, mae nifer o ddiweddariadau pwysig y dylai trigolion ac ymwelwyr fod yn ymwybodol ohonynt.



Y rhwydwaith trydan

Mae SP Energy Networks bellach wedi cwblhau’r gwaith o atgyweirio ac ailosod y peilonau a’r polion trydan a ddifrodwyd gan y tân.



Roedd hwn yn waith hynod heriol, a gyflawnwyd ar dir anodd ac mewn ardaloedd lle mae mannau poeth yn parhau yn sgil tân yr wythnos ddiwethaf. Hoffem ddiolch i’r peirianwyr am eu hymdrechion i adfer y seilwaith yn ddiogel.



Hawliau tramwy cyhoeddus

Mae nifer o hawliau tramwy cyhoeddus yn parhau ar gau neu’n destun cyfyngiadau tra bo’r gwaith adfer yn mynd rhagddo. Mae’r rhain yn cynnwys:

https://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Leisure-sport-and-health/Coast-and-Countryside/Public-Rights-of-Way.aspx

Cilffordd Gyfyngedig 29/29
Cilffordd Gyfyngedig 29/38
Cilffordd Gyfyngedig 29/32
Llwybr Troed 29/36
Llwybr Troed 29/39

Mae mapiau sy’n dangos y llwybrau sydd ar gau a’r cyfyngiadau presennol ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.



Hyd yn oed pan fo llwybrau troed yn parhau ar agor, anogir cerddwyr i fod yn ofalus. Mae’r tân gwyllt wedi gadael rhannau helaeth o’r tir yn ansefydlog ac, mewn rhai mannau, mae’n bosibl bod gwres o dan wyneb y tir o hyd.

Lle bo hynny’n bosibl, anogir pobl i osgoi’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt er mwyn rhoi cyfle i’r dirwedd a’r bywyd gwyllt adfer.

Cofiwch fod yn ofalus a pheidiwch â rhoi eich hunain mewn perygl. Mae hyn yn bwysig er eich diogelwch eich hunain ac er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys lleol.



Adferiad amgylcheddol



Mae llawer o drigolion, yn ddealladwy, wedi holi am effeithiau amgylcheddol hirdymor y tân.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i swyddogion ac aelodau etholedig wrth i asesiadau pellach gael eu cynnal.

Er mai ychydig o law a ragwelir dros yr wythnos nesaf, bydd hyd yn oed symiau bach o law yn helpu i ddechrau sefydlogi’r tir yr effeithiwyd arno. Fodd bynnag, bydd yr asiantaethau partner yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus.

Os ceir cyfnodau o law trwm, cynhelir asesiadau pellach i fonitro:

sefydlogrwydd y llethrau yr effeithiwyd arnynt;
yr effaith bosibl ar gyrsiau dŵr lleol a ffynonellau dŵr; a
chyflwr y ffyrdd a allai gael eu heffeithio gan ddŵr wyneb a malurion.


Ymgysylltu â’r gymuned

Bydd Cyngor Tref Penmaenmawr, ynghyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, cynghorwyr sir lleol ac asiantaethau partner, yn trefnu cyfarfodydd ar gyfer trigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y tân gwyllt.

Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i bobl:

gael cyngor a chymorth;
ofyn cwestiynau am y rhaglen adfer; a
rhannu adborth a phrofiadau o’r digwyddiad.


Cyhoeddir rhagor o fanylion cyn gynted ag y bydd y trefniadau wedi’u cadarnhau.



Parhewch i fod yn ofalus

Er bod y prif ddigwyddiad bellach drosodd, mae’r tywydd yn parhau’n eithriadol o gynnes a sych. Dim ond un wreichionen sydd ei hangen i gychwyn tân gwyllt sylweddol arall.

Parhewch i ddilyn yr holl gyngor a chanllawiau wrth ymweld â chefn gwlad hardd yr ardal.

Drwy gymryd ychydig mwy o ofal, gallwn ni i gyd helpu i ddiogelu ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a’r rhan arbennig hon o Gymru wrth i’r gwaith adfer barhau.

Sychnant Pass Wildfire Recovery Update

Today marked the second meeting of the Recovery Co-ordination Group established following the significant wildfire on the mountain above the Sychnant Pass.

The Group has agreed a number of priorities to support the recovery of the area over the coming weeks and months. Whilst there is still much work to do, there are several important updates that residents and visitors should be aware of.

Electricity Network

SP Energy Networks has now completed its work to repair and replace the electricity pylons and poles damaged by the fire. This has been an extremely challenging operation, carried out in difficult terrain and in areas where lingering hotspots from last week's fire remain. We would like to thank the engineers for their efforts in restoring the infrastructure safely.

Public Rights of Way

Several Public Rights of Way remain closed or restricted whilst recovery work continues. These include:

https://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Leisure-sport-and-health/Coast-and-Countryside/Public-Rights-of-Way.aspx

* Restricted Byway 29/29
* Restricted Byway 29/38
* Restricted Byway 29/32
* Footpath 29/36
* Footpath 29/39

Maps showing current closures and restrictions are available on the Conwy County Borough Council website.

Even where footpaths remain open, walkers are urged to exercise caution. The wildfire has left large areas of land unstable and, in some locations, there may still be residual heat beneath the surface. Wherever possible, people are encouraged to avoid the affected areas to allow the landscape and wildlife the opportunity to recover. Please exercise caution and don't put yourself in danger - this is important for your own personal safety and also to avoid additional pressures on our local emergency services.

Environmental Recovery

Many residents have understandably asked about the longer-term environmental impacts of the fire.

Natural Resources Wales (NRW) will continue to provide updates to officers and elected members as further assessments are undertaken. Whilst only limited rainfall is forecast over the coming week, even small amounts of rain will help begin stabilising the affected land. However, agencies will continue to monitor conditions closely.

Should periods of heavy rainfall occur, further assessments will be undertaken to monitor:

* the stability of the affected hillsides;
* the impact on local watercourses and water sources; and
* the condition of roads that could be affected by surface water and debris runoff.

Community Engagement

Penmaenmawr Town Council, together with Conwy County Borough Council, local County Councillors and partner agencies, will be arranging meetings for residents and businesses affected by the wildfire.

These sessions will provide an opportunity to:

* receive advice and support;
* ask questions about the recovery programme; and
* share feedback and experiences from the incident.

Further details will be published as soon as arrangements have been confirmed.

Please Continue to Take Care

Although the main incident has now passed, conditions remain exceptionally warm and dry. It only takes a single stray spark to ignite another significant wildfire.

Please continue to follow all advice and guidance when visiting our beautiful local countryside. By taking a little extra care, we can all help protect our communities, our wildlife and this wonderful part of Wales as it continues to recover.

Image - © Julian Thompson/Pensychnant Conservation Centre

VACANCY: CIVIC PRIDE WARDEN – CAPELULO WARDPenmaenmawr Town Council is looking to appoint a part-time Civic Pride Warden...
23/07/2026

VACANCY: CIVIC PRIDE WARDEN – CAPELULO WARD

Penmaenmawr Town Council is looking to appoint a part-time Civic Pride Warden to help maintain and improve the appearance of the Capelulo area.

The successful applicant will help identify, report and, where appropriate, take action on issues affecting the quality of the local environment, while working with the Town Council and relevant Conwy County Borough Council services.

10 hours per week – flexible working hours

Closing date: 31 July 2026
Interview date: 7 August 2026

For an application form, recruitment pack or an informal discussion, please contact:

Karl Rowlands
Governance Officer and Senior Administrator
Telephone: 01492 623221
Email: [email protected]

Full details and application documents are available here:

https://penmaenmawr-tc.gov.wales/penmaenmawr-town-council/vacancies

Applications are welcomed in Welsh or English. Applications submitted in Welsh will not be treated less favourably than those submitted in English.

Please share this opportunity with anyone who may be interested.

SWYDD WAG: WARDEN BALCHDER DINESIG – WARD CAPELULO

Mae Cyngor Tref Penmaenmawr yn awyddus i benodi Warden Balchder Dinesig rhan-amser i helpu i gynnal a gwella golwg ardal Capelulo.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i nodi, adrodd ac, lle bo’n briodol, gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar ansawdd yr amgylchedd lleol, gan weithio gyda’r Cyngor Tref a gwasanaethau perthnasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

10 awr yr wythnos – oriau gwaith hyblyg

Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2026
Dyddiad cyfweld: 7 Awst 2026

I gael ffurflen gais, pecyn recriwtio neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:

Karl Rowlands
Swyddog Llywodraethu a Gweinyddwr Hŷn
Ffôn: 01492 623221
E-bost: [email protected]

Mae’r manylion llawn a’r dogfennau cais ar gael yma:

https://penmaenmawr-tc.gov.wales/penmaenmawr-town-council/vacancies

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Rhannwch y cyfle hwn ag unrhyw un a allai fod â diddordeb.

Serving the people of Penmaenmawr

Address

Penmaenmawr Community Centre, Conwy Road
Penmaenmawr
LL346AB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Penmaenmawr Town Council posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Penmaenmawr Town Council:

Shortcuts

Share

Nearby government services