29/10/2026
Post dwyieithog / Bilingual post
-----------------------------------------------
Gan fod achosion o feirws y tafod glas seroteip 3 (BTV-3) wedi'u cadarnhau ar bron 500 o ffermydd yng Nghymru, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi annog ceidwaid da byw i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dr Richard Irvine π£οΈ"Wrth i ni edrych ymlaen at 2027, rwy'n annog pob ceidwad da byw i frechu er mwyn amddiffyn eich buchesi a'ch diadelloedd rhag BTV-3.
Rydyn ni wedi gweld yr effeithiau dinistriol mewn ardaloedd fel de-orllewin Lloegr yr haf hwn, a gallai'r un peth ddigwydd yng Nghymru'r flwyddyn nesaf.
Mae gweithredu'n gynnar yn rhoi'r amddiffyniad gorau posibl i'ch da byw ac yn helpu i ddangos bod galw am frechlynnau BTV-3, gan helpu i sicrhau bod cyflenwadau masnachol yn parhau.
Dangosodd yr haf hwn y gall y galw am frechlyn gynyddu'n gyflym pan fydd y clefyd yn lledaenu.
Os bydd ceidwaid yn aros tan y funud olaf, mae perygl na fydd brechlyn ar gael pan fydd ei angen fwyaf arnynt.
Siaradwch Γ’'ch milfeddyg nawr i gynllunio a chyflwyno eich archebion ar gyfer y brechlyn BTV-3 mewn da bryd.
-------------------------------------------------------------
As nearly 500 farms in Wales have confirmed cases of Bluetongue, Wales' Chief Vet has urged livestock keepers to plan ahead for next year.
Dr Richard Irvine π£οΈ "As we look ahead to 2027, I urge all livestock keepers to vaccinate to protect your herds and flocks from BTV-3. We have seen the devastating impacts in areas like south-west England this summer, and the same could well happen in Wales next year.
"Acting early gives your livestock the best possible protection and helps demonstrate demand for BTV-3 vaccines, supporting continued commercial supplies.
"This Summer showed how quickly demand can outstrip supply once disease pressure builds, so keepers who wait until the last-minute risk being unable to get hold of vaccine when they need it most.
"Talk with your vet to plan and place BTV-3 vaccine orders in good time.
------------------------------------------------------------
πwww.llyw.cymru/gweithredwch-nawr-ar-gyfer-2027-meddair-prif-swyddog-milfeddygol-wrth-ir-tafod-glas-gael-ei
πwww.gov.wales/act-now-2027-says-chief-veterinary-officer-bluetongue-confirmed-nearly-500-farms-wales