02/11/2026
Meet Max one of our FLAIR athletes.
Max plays basketball for Wales and has played at an international level for 4 years: u13s, u14s, u15s and u17s, as well as being Captain of the Under 17s.
Max says: "Being chosen to play for Wales and to have the opportunity to captain the team was a proud moment . I am also captain of Swansea Storm and we won the league this year and the Terry Price Cup. We are a brilliant team and have been playing together for years. I have been out in America for the last 4 weeks at Combine Academy. It was a scholarship provided by Basketball Wales. I played AAU basketball games in tournaments for the Under 17 age group. It was a massive learning experience and I am looking forward to applying what I have learnt to my game this upcoming season."
" In the future, I hope to be playing basketball at university and to do a sports based degree. I love playing with my friends at Swansea Storm and we have played together for a long time. Our coaches Nigel and Moz are brilliant and I would still like to be involved with my local club. Obviously I would like to still play in the Welsh Team. Under 21’s or the Welsh men’s team."
""Being able to use the gym and courts at the LC has been brilliant as it has allowed me to improve myself physically and to also improve my game. I usually cycle to the LC but am also able to use the gym and courts at Bishopston. It has helped me progress as a basketball player."
If you would like to find out more about our FLAIR programme, drop us a message.
Dyma Max, un o’n hathletwyr FLAIR.
Mae Max yn chwarae pêl-fasged i Gymru ac mae wedi chwarae ar lefel ryngwladol ers 4 blynedd: dan 13, dan 14, dan 15 a dan 17, yn ogystal â bod yn Gapten y tîm Dan 17.
Dywed Max: "Roedd cael fy newis i chwarae i Gymru a chael y cyfle i fod yn gapten ar y tîm yn foment falch. Rwyf hefyd yn gapten ar Swansea Storm ac fe enillon ni’r gynghrair eleni a Chwpan Terry Price. Rydym yn dîm gwych ac wedi bod yn chwarae gyda’n gilydd ers blynyddoedd. Rwyf wedi bod allan yn America am y 4 wythnos diwethaf yn Combine Aacademy. Roedd e’n ysgoloriaeth a ddarparwyd gan Bêl-fasged Cymru. Chwaraeais gemau pêl-fasged AAU mewn twrnameintiau ar gyfer y grŵp oedran Dan 17. Roedd yn brofiad dysgu enfawr ac rwy’n edrych ymlaen at roi'r hyn dwi wedi’i ddysgu ar waith yn fy ngêm y tymor nesaf hwn." "Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio chwarae pêl-fasged yn y brifysgol a gwneud gradd sy'n seiliedig ar chwaraeon. Rwy'n dwlu ar chwarae gyda fy ffrindiau yn Swansea Storm ac rydym wedi chwarae gyda'n gilydd ers amser maith. Mae ein hyfforddwyr Nigel a Moz yn wych a hoffwn i barhau i fod yn rhan o fy nghlwb lleol. Yn amlwg, hoffwn i barhau i chwarae yn Nhîm Cymru. Dan 21 oed neu dîm dynion Cymru."
"Mae gallu defnyddio'r gampfa a'r cyrtiau yn y CH wedi bod yn wych gan ei fod wedi caniatáu i mi wella fy hun yn gorfforol a gwella fy ngêm hefyd. Fel arfer, rwy'n beicio i'r CH ond rwyf hefyd yn gallu defnyddio'r gampfa a'r cyrtiau yn Llandeilo Ferwallt. Mae wedi fy helpu i symud ymlaen fel chwaraewr pêl-fasged."
Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein rhaglen FLAIR, anfonwch neges atom