Dechrau'n Deg Wrecsam

Call Directions Website

Dechrau'n Deg Wrecsam Mae Dechrau’n De yn rhaglen Llywodraeth Cymru i gynorthwyo rhieni a gofalwyr i helpu i'w plant ffynnu a chael y dechrau gorau bosib mewn bywyd.

Mae’r rhaglen wedi ei anelu at gael effaith cadarnhaol ar blant a rhieni / gofalwyr, gwneud gwelliannau mawr i’w iechyd a’u lles a chyfle mewn bywyd. Mae gan y rhaglen 4 prif elfen;
• Gwasanaeth dwys ymwelwyr iechyd
• Mynediad at gymorth rhianta
• Gofal plant rhan-amser o safon am ddim i blant 2-3 oed
• Cymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Calan Gaeaf Hapus! 🎃
31/10/2026

Calan Gaeaf Hapus! 🎃

Yn Dechrau’n Fuan / Tylino BabanodDewch draw i'n grŵp i ddysgu dulliau tylino syml i helpu i gefnogi'r berthynas rhyngoc...
30/10/2026

Yn Dechrau’n Fuan / Tylino Babanod

Dewch draw i'n grŵp i ddysgu dulliau tylino syml i helpu i gefnogi'r berthynas rhyngoch chi a'ch babi.

Mae rhai o'r manteision posibl yn cynnwys:
- Annog rhyngweithio rhyngoch chi a'ch babi
- Helpu eich babi ymlacio a chysgu
- Effeithio'n gadarnhaol ar hormonau baban sy'n rheoli straen
- Lleihau faint maent yn grio

📍Dechrau'n Deg Neuadd Hafod Y Wern, LL13 9HD
📆 Dydd Iau 12 Tachwedd - 10 Rhagfyr
🕛9:30am - 11:00am

Cysylltwch â ni i gadw lle

(Mae’r grwp yma ar gyfer Teuluoedd Dechrau'n Deg yn unig)

Cadwch y plant bach yn ddiogel yn ystod Calan Gaeaf! 🎃 👻O ddewis gwisgoedd i gadw'n ddiogel wrth fynd o ddrws i ddrws, e...
30/10/2026

Cadwch y plant bach yn ddiogel yn ystod Calan Gaeaf! 🎃 👻
O ddewis gwisgoedd i gadw'n ddiogel wrth fynd o ddrws i ddrws, edrychwch ar gyngor diogelwch Calan Gaeaf i blant yr Child Accident Prevention Trust

https://capt.org.uk/halloween/

HalloweenFest 🎃  🎟️ Am ddim 📍 Eagles Meadow📆 Dydd Sadwrn 31 Hydref🕛 10am - 5pm The Hive Wrecsam (Ymddiheurwn nad yw'r hw...
29/10/2026

HalloweenFest 🎃

🎟️ Am ddim
📍 Eagles Meadow
📆 Dydd Sadwrn 31 Hydref
🕛 10am - 5pm

The Hive Wrecsam

(Ymddiheurwn nad yw'r hwn ar gael yn Gymraeg)

29/10/2026

🎃 Who’s ready for Halloween? Here’s some Welsh words for you to learn to use with your little ones!

👻 Pwy sy’n barod ar gyfer Calan Gaeaf? Dyma ychydig o eiriau Cymraeg ichi ddysgu eu defnyddio gyda’ch plant ifanc!

Canllaw Be' Sy' Mlaen, Tachwedd - Rhagfyr 2026Cysylltwch a'ch Ymwelydd Iechyd/Gweithiwr Dechrau'n Deg am fwy o wybodaeth...
28/10/2026

Canllaw Be' Sy' Mlaen, Tachwedd - Rhagfyr 2026

Cysylltwch a'ch Ymwelydd Iechyd/Gweithiwr Dechrau'n Deg am fwy o wybodaeth neu i gadw lle:
Bodlyn: 01978 297290
Brynteg: 01978 298790
Hafod: 01978 298300
Gwenfro: 01978 297270

Byddwch yn ymwybodol y gall wybodaeth hon newid.

Dim ond trwy’r ffurflen archebu y gallwch chi archebu Little Dippers. Mae’r ffurflen archebu bellach ar gau.

Yn Dechrau’n Fuan / Ioga i FabanodMae ioga i fabanod yn addysgu symudiadau ymestyn syml i helpu i gryfhau a chynnal hybl...
27/10/2026

Yn Dechrau’n Fuan / Ioga i Fabanod

Mae ioga i fabanod yn addysgu symudiadau ymestyn syml i helpu i gryfhau a chynnal hyblygrwydd wrth i'ch babi dyfu o 6 mis ymlaen.

📍Y Neuadd Goffa, LL13 7AG
📅 Dydd Mawrth 10 Tachwedd - 1 Rhagfyr
⏰ 9:45 - 10:45

Cysylltwch â ni i gadw lle

Mae’r grwp yma ar gyfer Teuluoedd Dechrau'n Deg yn unig

Rhigwm arswydus ar gyfer Calan Gaeaf! 🕷️Beth am gân y Pry Copyn? Mae plant yn dwlu ar ymuno gyda rhigymau sy'n cynnwys l...
27/10/2026

Rhigwm arswydus ar gyfer Calan Gaeaf! 🕷️

Beth am gân y Pry Copyn? Mae plant yn dwlu ar ymuno gyda rhigymau sy'n cynnwys llawer o symudiadau.

Wrth ailadrodd rhigymau gyda dy blentyn, rwyt ti'n ei helpu i ddysgu geiriau newydd ac ymarfer rhythm! Maen nhw'n dwlu ar allu rhagweld beth fyddi di'n ei ddweud.

Trwy gynnwys symudiadau cyfarwydd hefyd, byddi di'n hybu cydsymud dy blentyn!

Lawrlwythwch yr ap Dechrau'n Deg!Bydd hyn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi am ein grwpiau a’n gweithgareddau rhieni...
26/10/2026

Lawrlwythwch yr ap Dechrau'n Deg!

Bydd hyn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi am ein grwpiau a’n gweithgareddau rhieni a babanod i ddod, gan gynnwys awgrymiadau defnyddiol ar gyfer canllawiau iechyd a rhianta fel hyfforddiant poti, diddyfnu, awgrymiadau lleferydd ac iaith, syniadau chwarae a llawer mwy!

🔎 Lawrlwythwch nawr ar Google Play neu'r App Store – chwiliwch am 'Flying Start'
neu dilynwch y dolenni isod:
📲https://play.google.com/store/apps/details...
📲https://apps.apple.com/gb/app/flying-start/id1505517396

Dilynwch y camau syml hyn i gofrestru:
- Dewiswch 'Dw i wedi cael gwahoddiad'
- Chwiliwch am Dechrau'n Deg Wrecsam
- Cofrestrwch gyda'ch manylion

Address

Ysgol Hafod Y Wern
Wrexham
LL139HD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Dechrau'n Deg Wrecsam posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share