Heddlu Gwent

Directions Website Contact the organisation

Heddlu Gwent Amddiffyn a Thawelu Meddwl. Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, anfonwch neges uniongyrchol neu ffoniwch 101.

Rydym wir yn gwerthfawrogi eich negeseuon uniongyrchol atom. Er hynny, mae ein canolfan gyswllt sy'n delio â galwadau 999 a 101 am help, yn cael cyfnodau prysur dros ben pan nad yw'n bosibl i ni ymateb yn gyflym i negeseuon uniongyrchol. Os nad ydych wedi derbyn ymateb i'ch neges uniongyrchol, ac yn pryderu am fater, ystyriwch ein ffonio yn lle hynny. Cofiwch ffonio 999 mewn argyfwng, 101 am unrhyw alwadau eraill. Mae galwadau i 101 yn costio 15c ni waeth beth fo hyd yr alwad.

💻 Mis Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch | Wythnos 4: Diweddariadau a Diogelwch Dyfeisiau Pryd oedd y tro diwethaf i chi d...
23/10/2026

💻 Mis Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch | Wythnos 4: Diweddariadau a Diogelwch Dyfeisiau

Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddiweddaru eich ffôn, gliniadur neu lechen? 👀

Mae sicrhau bod eich dyfeisiau a meddalwedd yn gyfredol yn un o’r ffyrdd mwyaf syml ac effeithiol o gadw’n ddiogel ar-lein. Mae seiberdroseddwyr yn aml yn chwilio am wendidau mewn hen systemau a meddalwedd i geisio mynd at gyfrifon, dyfeisiau a gwybodaeth bersonol.

Gall ambell i arfer syml wneud gwahaniaeth mawr:
✅ Taniwch ddiweddariadau awtomatig ble y bo’n bosibl
✅ Gwnewch yn siŵr bod eich apiau, porwyr a meddalwedd gwrth-feirysau yn gyfredol
✅ Cofiwch ddileu meddalwedd ac apiau nad ydych yn eu defnyddio mwyach
✅ Cofiwch gloi dyfeisiau gyda PIN, cyfrinair, ôl bys neu ddull adnabod wyneb
✅ Byddwch yn wyliadwrus wrth ddefnyddio rhwydweithiau Wi-fi cyhoeddus

Mae diweddariadau’n gwneud mwy nag ychwanegu nodweddion newydd. Maen nhw’n aml yn cynnwys cywiriadau diogelwch pwysig sy’n helpu i’ch amddiffyn chi rhag bygythiadau newydd.

Gallai treulio ychydig funudau’n diweddaru eich dyfeisiau sicrhau eich bod yn cadw’n ddiogel.

🔧 Rhowch her i chi’ch hun yr wythnos hon: Gwiriwch eich dyfeisiau am ddiweddariadau a lawr lwythwch unrhyw rai angenrheidiol.

23/10/2026

🚨 Carchar i ddyn a gyflawnodd gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plant rhwng y 1980au a 1998

⚖️ Dedfrydwyd Anthony Badham, a oedd wedi pledio’n euog i gyfres o droseddau rhywiol, i 25 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 23 Hydref.

‼️ Oherwydd natur y troseddu hwn a’r ffaith bod y diffynnydd yn hysbys yn y gymuned ym Mhontymister adeg ei droseddu, mae ditectifs yn annog dioddefwyr/goroeswyr posibl eraill i riportio unrhyw ddigwyddiadau.

Gofynnwn i unrhyw un â gwybodaeth neu sydd am riportio troseddau cysylltiedig â Badham gysylltu â ni drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol atom ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu drwy gyfrwng gwefan Heddlu Gwent. 🖱️

Os nad ydych chi’n teimlo’n barod i siarad â’r heddlu, mae asiantaethau cymorth ar gael y gallwch chi siarad yn gyfrinachol â nhw.

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️ℹ Mae'r A467 ar gau ar hyn o bryd rhwng Blaina ...
23/10/2026

‼ DIWEDDARIAD | Mae’r ffordd wedi ail agor yn awr. ‼

⚠️🚧 Ffordd ar gau 🚧⚠️

ℹ Mae'r A467 ar gau ar hyn o bryd rhwng Blaina a Brynmawr roundabouts ℹ

Mae traffig yn cael ei ailgyfeirio a allai achosi tagfeydd.

Ceisiwch osgoi’r ardal os yn bosibl a defnyddiwch ffyrdd eraill.

Diolch.

🚨 Mae swyddogion sy’n ymchwilio i ladrad yn ardal Caerffili eisiau siarad â Dylan Cuddy.Rydyn ni eisiau siarad â’r dyn 2...
22/10/2026

🚨 Mae swyddogion sy’n ymchwilio i ladrad yn ardal Caerffili eisiau siarad â Dylan Cuddy.

Rydyn ni eisiau siarad â’r dyn 25 oed o Gaerdydd, a allai gynorthwyo ein hymchwiliad.

Mae gan Cuddy gysylltiadau â Chaerdydd, Y Barri, Caerffili a Chasnewydd.📍

📱 Gall unrhyw un â gwybodaeth ynglŷn â ble mae Cuddy gysylltu â ni ar ein gwefan neu ffonio 101 gan grybwyll rhif cofnod 2600145697.

Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 neu ewch i’w gwefan.

ℹ️ Mae Lidia, 17, yr oedd yr heddlu wedi cael adroddiad ei bod ar goll, wedi cael ei darganfod. 👏 Diolch am rannu ein ha...
22/10/2026

ℹ️ Mae Lidia, 17, yr oedd yr heddlu wedi cael adroddiad ei bod ar goll, wedi cael ei darganfod.

👏 Diolch am rannu ein hapêl.

🎃 Wrth i Galan Gaeaf agosáu, cofiwch nad yw pawb eisiau cnoc ar y drws!  Pan fyddwch chi allan yn chwilio am losin neu l...
22/10/2026

🎃 Wrth i Galan Gaeaf agosáu, cofiwch nad yw pawb eisiau cnoc ar y drws!

Pan fyddwch chi allan yn chwilio am losin neu lanast, edrychwch am bwmpenni ac addurniadau Calan Gaeaf ym mhob tŷ rydych yn mynd iddo - os nad oes unrhyw addurniadau yno, mae'n debyg nad ydyn nhw eisiau ymwelwyr annisgwyl dros Galan Gaeaf eleni!

ℹ️ Os ydych chi'n bwriadu treulio'r noson gartref a byddai'n well gennych chi gael Calan Gaeaf tawel, argraffwch un o'n posteri 'Dim Galwyr' i roi ar eich drws.

Lawrlwythwch y poster trwy ddefnyddio'r ddolen yn y sylwadau👇

22/10/2026

Mae Fearless wedi lansio tair ffilm fer am beryglon cario cyllell.

Dilynwch y ddolen isod i ddysgu mwy ⬇️

🚨 Allwch chi ein helpu ni? 🚨ℹ️ Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Dwayne Zungunde, 23 oed o Bont-y-pŵl, sydd ...
22/10/2026

🚨 Allwch chi ein helpu ni? 🚨

ℹ️ Rydyn ni’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i Dwayne Zungunde, 23 oed o Bont-y-pŵl, sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

Roedd Zungunde yn y carchar am yrru diofal.

Oherwydd bod Zungunde, a gafodd ei ryddhau ar drwydded, wedi torri amodau ei drwydded mae wedi cael ei alw yn ôl i’r carchar. 📍

📱 Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, ffoniwch 101 gan grybwyll 2600156217 neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.

Gwefan newydd yw IAmReady sydd wedi’i chreu i ddioddefwyr a goroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant ...
21/10/2026

Gwefan newydd yw IAmReady sydd wedi’i chreu i ddioddefwyr a goroeswyr camfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol.

Os oes gennych chi gwestiynau am ymchwiliad a gaewyd yn flaenorol, neu os ydych chi’n chwilio am wybodaeth neu gymorth, ewch i IAmReady i weld yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Dysgwch fwy: https://orlo.uk/RjCDr

🔗https://orlo.uk/9YstF

Great Scott! ⚡Ffyrdd? Ble ry’n ni’n mynd… wel, fel mae’n digwydd… mae angen ffyrdd arnom ni o hyd. 🚓Ar gyfer diwrnod  , ...
21/10/2026

Great Scott! ⚡

Ffyrdd? Ble ry’n ni’n mynd… wel, fel mae’n digwydd… mae angen ffyrdd arnom ni o hyd. 🚓

Ar gyfer diwrnod , rydyn ni wedi edrych trwy’r archifau i weld sut mae plismona wedi newid dros y blynyddoedd.

O geir a beiciau modur i iwnifformau a chyfarpar, mae llawer wedi newid... ond mae ein hymrwymiad i gadw Gwent yn ddiogel yn parhau o hyd.

Pa gyfnod sydd orau gennych chi? 👇

Address

Parc Ffordd Llantarnam
Cwmbran
NP443FW

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Heddlu Gwent posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Heddlu Gwent:

Shortcuts

Share

Nearby government services