Gwasanaeth Llyfrgell Caerdydd

Gwasanaeth Llyfrgell Caerdydd

Share

Croeso i Lyfrgelloedd Caerdydd!

02/06/2026

Digwyddiadau awduron am ddim yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ym mis Mehefin:

6 Mehefin, 12pm: Muslim Wales: A History in 9 Places - sgwrs gydag awdur gan Dr Abdul-Azim Ahmed (fel rhan o ddathliadau Eid Al Adha)

11 Mehefin, 5.45pm: Digwyddiad arbennig Cwpan y Byd Pêl-droed gyda James Bennett (No Show), Mark Orton (From Moore to Messi) a Rhys Richards (Blood on the Crossbar).

25 Mehefin, 5.45pm: Rainbow Wales - Eiconau Cwiar Ddoe a Heddiw, gyda’r Emily Garside

Mae'r holl docynnau ar gael i'w harchebu yma: https://www.ticketsource.com/cardiff-hubs-libraries/

(Llun: Tracey Rhys, Mehefin 2025)

Cardiff Central Library Hub

01/06/2026

Dewch i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd, wrth i dri arbenigwr pêl-droed ymuno â ni ddydd Iau 11 Mehefin – awduron James Bennett, Mark Orton a Rhys Richards.

Straeon y timau gorau a fethodd â chyrraedd Cwpan y Byd. Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r pencampwyr Ariannin, gan gynnwys Pencampwriaeth enwog 1978.

Mae tocynnau am ddim - archebwch nawr! http://tinyurl.com/yrcxyc5e

Cardiff Central Library Hub James Bennett - Sports Writer

27/05/2026

Mae ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd yn cynnal ystod eang o sesiynau a gweithgareddau felly mae rhywbeth i bawb ei archwilio!

Edrychwch ar y rhestrau gweithgareddau i weld beth sydd ar ddod yn agos i chi:
https://hybiaucaerdydd.co.uk/digwyddiadau/

Ydych chi’n chwilio am ffyrdd o gadw plant yn brysur heb ormod o gost?

Mae ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd yn cynnal ystod eang o sesiynau a gweithgareddau felly mae rhywbeth i bawb ei archwilio!

Edrychwch ar y rhestrau gweithgareddau i weld beth sydd ar ddod yn agos i chi 👇

Eid Special: Muslim Wales: A History in 9 Places by Dr Abdul-Azim Ahmed at Cardiff Central Library | Llyfrgell Canolog Caerdydd 26/05/2026

Fel rhan o ddathliadau Eid al-Adha (6 Mehefin), ymunwch â ni am sgwrs gydag awdur yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, i archwilio'r llyfr darluniadol hyfryd Muslim Wales (Seren Books) gan Dr Abdul-Azim Ahmed.

Gallwch glywed am y bobl, arteffactau ac adeiladau sy'n gysylltiedig â'r safleoedd hanesyddol yn Muslim Wales, stori o ddylanwad traws-ddiwylliannol ac ieithyddol, teithiau a rennir a hanes yr effeithiwyd arno gan ymerodraeth a gwladychiaeth.

Tocynnau ar gael drwy'r ddolen isod.

Eid Special: Muslim Wales: A History in 9 Places by Dr Abdul-Azim Ahmed at Cardiff Central Library | Llyfrgell Canolog Caerdydd Tickets are now available for Eid Special: Muslim Wales: A History in 9 Places by Dr Abdul-Azim Ahmed at Cardiff Central Library | Llyfrgell Canolog Caerdydd, Cardiff on Saturday 6th June 2026. Click the link for further information and to secure your tickets now!

21/05/2026

Sylwch y bydd ein Hybiau a'n Llyfrgelloedd ar gau ar gyfer Gŵyl y Banc, ddydd Llun 25 Mai.

20/05/2026

'Rainbow Wales': Ar 25 Mehefin mae’n bleser gennym groesawu'r awdur Emily Garside i drafod Rainbow Wales, ar daith gyffrous, ysbrydoledig o ffigyrau LHDTC+ o ddiwylliant a chwaraeon i wleidyddiaeth ac actifiaeth, ac archwiliad llawen o dapestri cyfoethog hunaniaeth Gwiar yng Nghymru.

Archebwch eich tocyn am ddim heddiw! http://tinyurl.com/yrcxyc5e

University of Wales Press Paned o Gê Glitter Cymru Cardiff Central Library Hub

Photos from Gwasanaeth Llyfrgell Caerdydd's post 19/05/2026

Dydd Gwener diwethaf, roeddem wrth ein bodd yn croesawu’r awdures Rhiannon Oliver ('Fresh' - Firefly Press) i’r Llyfrgell Ganolog ar gyfer ymweliad arbennig gyda disgyblion o Ysgol Gynradd St Mary The Virgin.

Roedd y sesiwn yn llawn creadigrwydd ac ysbrydoliaeth, gyda Rhiannon yn arwain gweithgareddau difyr a wnaeth annog pawb i feddwl, ysgrifennu, a mwynhau straeon gyda’i gilydd. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o frwdfrydedd a dychymyg ymhlith yr holl blant oedd yn rhan o’r digwyddiad!

Roeddem hefyd yn falch iawn bod Rhiannon wedi cymryd ei lle ar Wal Llyfrgell y Plant, gan ymuno â’i darlunydd Chris Riddell, ychwanegiad gwych sy’n dathlu’r doniau rhagorol y tu ôl i’w gwaith.

Diolch yn fawr i Rhiannon, y staff, a’r disgyblion am wneud yr ymweliad hwn mor gofiadwy!

Cardiff Central Library Hub

15/05/2026

📣 Adnodd Newydd! Dysgwch 140+ o ieithoedd gyda Transparent Language Online.

📲💻 Gallwch ymarfer gan ddefnyddio sain a thestun. Lawrlwythwch yr ap heddiw, neu cofrestrwch ar-lein gyda’ch rhif cerdyn llyfrgell yma: https://library.transparent.com/ukcardiff/game/ng/ #/login

14/05/2026

1960s Profiad ‘RemPod’ ❁✿❀
Teithiwch yn ôl mewn amser yn Llyfrgell Cathays! 🕰️
Mae hi’n Fis Hanes Lleol 2026! Eleni byddwn ni’n archwilio hanesion bob dydd Caerdydd, gan dynnu sylw at fywydau gwaith a straeon cymunedol y gorffennol.

Fydd ein profiad Ystafell Fyw’r 1960au ar gael:
Dydd Sadwrn 16eg, 23ain a 30ain Mai
12:30 – 16:30

--------------------------------------------------------------------------------------------
1960s ‘RemPod’ Experience ❁✿❀
Travel back in time at Cathays Library! 🕰️
It’s Local History Month 2026! This year we will be the exploring Cardiff’s everyday histories, highlighting working lives and community stories of the past.

Our 1960s Living Room experience will be available:
Saturday 16th, 23rd & 30th May
12:30 – 16:30

13/05/2026

Dathliad Wythnos Ffoaduriaid 2026: Yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, ymunwch â ni ar 20 Mehefin wrth i ni ddathlu neges 'Dewrder' gyda cherddoriaeth, dawns, gweithdai, dangosiad ffilm, stondinau gwybodaeth a llawer mwy.

Mae'r digwyddiad am ddim ac ar agor i bawb.

Welsh Refugee Council Oasis Cardiff Trinity Centre Cardiff Cardiff Volunteer Centre at C3SC Cardiff City of Sanctuary

Want your business to be the top-listed Government Service in Cardiff?

Click here to claim your Sponsored Listing.

Location

Telephone

Address


Cardiff
CF101FL

Opening Hours

Monday 9am - 6pm
Tuesday 9am - 6pm
Wednesday 9am - 6pm
Thursday 9am - 7pm
Friday 9am - 6pm
Saturday 9am - 5:30pm